Ewch i’r prif gynnwys

EU Society for the Study of Symbolic Interaction (EUSSSI) Annual Conference 2023

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

SSSI logo

Dyddiadau

5, 6, 7 Gorffenaf 2023

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

Mae i ryngweithiadaeth symbolaidd hanes hirsefydlog o ymgysylltu â materion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae ymchwil a theori gyfoes wedi delio'n fwyfwy uniongyrchol â gwahanol fathau o wahaniaethu ac allgáu gan ddangos potensial cryf rhyngweithiadaeth symbolaidd i ymgysylltu ag ymdrechion yn ymwneud ag ysgogi newid cymdeithasol a gwireddu nodau sy'n seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, dogfennu’r rhain, a’u cefnogi. Trwy ennill “cynefindra personol” (yng ngeiriau Kathy Charmaz) a datblygu theori sy'n sensitif i amodau lleol anghydraddoldebau a rhaniadau, datgelir prosesau cymdeithasol yn hytrach na strwythurau cymdeithasol diwyro. Yn y modd hwn, gall dadansoddiadau o'r fath ddatgelu ble y gellid dod o hyd i'r craciau mewn cymdeithasau sydd heb eu trefnu'n gyfartal a lle nad yw pawb yn cael y cyfle i gael yr un profiadau, a lle y gellir dod o hyd i bosibiliadau o obaith. Yr hyn sy'n ymddangos yn glir yw cydnabyddiaeth gynyddol bod cyfraniad at hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth a ffefrir ac sy’n bosib o ran astudiaethau ym maes rhyngweithiadaeth symbolaidd.

Mae'r gynhadledd hon yn gwahodd cyfranogwyr i drafod ymchwil ym maes rhyngweithiadaeth symbolaidd sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a hefyd rhyngweithiadaeth symbolaidd ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ym mha bynnag ffurf arall. Mae'r gynhadledd felly yn gyfle i greu deialog gynhyrchiol yn ymwneud â chyfeiriad posibl ar gyfer rhyngweithiadaeth sy'n ymgysylltu'n llawn â heriau a chyd-destunau’n ymwneud â sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes. Fel bob amser, mae'r gynhadledd hefyd yn croesawu papurau a phaneli sy'n dangos y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil a theori ryngweithiadol symbolaidd (ac wedi’i alinio).

Rydym yn falch iawn mai’r prif siaradwyr yn y gynhadledd fydd Black Hawk Hancock ac Emma Engdahl, ac y bydd Paul Atkinson a Sara Delamont yn annerch.

I gofrestru, ewch i: https://www.eventsforce.net/cbs/576/home

Mae cofrestru Bargen Gynnar yn dod i ben ar 1 Mehefin 2023.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 18 Mehefin 2023.

Ymholiadau i: EUSSI@cardiff.ac.uk