Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Ymyrraeth Ffisiotherapi Synhwyro (SPIN)

Llywio’r gwaith o ddylunio, datblygu a phrofi therapiwteg polymer newydd er mwyn atal a thrin heintiau sy’n anodd eu trin, ac yn aml yn fygythiad i fywyd.

Mae’r grŵp ymchwil SPIN yn dwyn ynghyd Peirianwyr Clinigol a Ffisiotherapyddion sy’n arbenigo ym maes gwyddorau symudiadau clinigol. Mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd sgiliau a phrofiadau yn y ddwy ddisgyblaeth er mwyn mynd i'r afael â heriau a achosir gan gyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetig.

Amcanion

  1. Gwella ein dealltwriaeth o strategaethau symudiadau dynol a’r defnydd a wneir o ddadansoddiadau biofecanyddol er mwyn gwneud y defnydd gorau o asesiadau symud mewn ymarfer clinigol
  2. Llunio argymhellion ar sut y gall unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol elwa o ymarfer corff sy’n seiliedig ar brofion swyddogaethol a gwrthrychol
  3. Dod o hyd i ffyrdd arloesol o drin unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetig gan ddefnyddio technolegau yn y clinig a'r cartref

Ymchwil

Nod grŵp ymchwil SPIN yw defnyddio technoleg ddigidol a gwyddor symud i ddod o hyd i atebion arloesol i wella ansawdd y ddarpariaeth gofal iechyd i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau cyhyr-ysgerbydol a Diabetes.

Mae gennym fynediad at labordai gydag ystod o offer o'r radd flaenaf, sy'n ein galluogi i gwblhau ymchwil o ansawdd uchel mewn dadansoddi symudiadau clinigol a ffisiotherapi.

Er nad yw’n rhestr gyflawn, mae’r offer a’r cyfleusterau sydd ar gael i ni yn cynnwys:

Prosiectau

  • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Datblygu System Realiti Rhithwir Ffisiotherapi-Ddeallus, Chwefror 2021 am 6 mis, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd))
  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen INTERREG Ffrainc (Channel) Lloegr, Prosiect Dyfais Wisgadwy Rhybudd Cynnar (EWWD): Datrysiad monitro o bell arloesol sy'n cefnogi cleifion ag anhwylderau cyhyrysgerbydol a diabetes, sydd hefyd yn cynnig effeithlonrwydd o ran rheoli anhwylderau'n glinigol, Mis Hydref 2020 am 30 mis, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd))
  • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Personoli’r gwaith o adsefydlu yn achos anafiadau sy'n gysylltiedig â symudiadau’r corff drwy ddyfeisiadau electronig gwisgadwy, Ionawr 2021-Ionawr 2022, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd))
  • Gwobr ymchwil Symudedd a Sgiliau, Cymorth Strategol i Sefydliadau, Ymddiriedolaeth Wellcome, Cydweithrediad Ymchwil ar y Cyd â'r Grŵp Ymchwil ym Mhrifysgol Melbourne: Y graddau y bydd pecyn cymorth realiti rhithwir cludadwy i bobl â phoen pen-glin yn ddefnyddiol ac yn dderbyniol, Ionawr- Mehefin 2020, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd)
  • Dyfarniad Sbarduno Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd, "Datblygu gêm ffisiotherapi realiti rhithwir cludadwy er mwyn Adfer y Pen-glin", Awst 2019 – Ionawr 2020, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) & Kate Button (ymgeisydd)
  • Gwobr Prawf o Gysyniad Ymgysylltu â'r Cyhoedd Cymorth Strategol i Sefydliadau, Ymddiriedolaeth Wellcome, "Gwerthusiad rhanddeiliaid o becyn cymorth symudiadau sy’n seiliedig ar synwyryddion at ddibenion ffisiotherapi cyflyrau’r pen-glin: dull Cymru gyfan", Awst 2018 – Awst 2019, (Mohammad Al-Amri (Prif Ymchwilydd) a Kate Button (ymgeisydd)
  • Gwaith ar y cyd i feithrin capasiti ymchwil yng Nghymru, "Profiad cleifion o ffisiotherapi sy’n defnyddio dull o roi adborth am symudiadau biofecanyddol drwy ddefnyddio technoleg synwyryddion gwisgadwy", Gorffennaf 2018 – Mehefin 2019, (Kate Button (Prif Ymchwilydd))

Cwrdd â'r tîm

Arweinydd yr Uned

Staff academaidd

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Technoleg Gymhwysol wrth Ddadansoddi Symudiadau Dynol Clinigol: Nod y cwrs dau ddiwrnod hwn yw rhoi hyfforddiant cynhwysfawr am egwyddorion technoleg glinigol sy'n hanfodol i ddatblygiad ffisiotherapi.

Newyddion

Gweler ein 'tudalen Blog SPIN' i gael y newyddion diweddaraf am ein hymchwil.

Twitter: @SPINCardiff

Ysgolion

School of Healthcare Sciences - Homepage

A leading provider of healthcare education in the UK.

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.