Ffocws y Grŵp Ymchwil Addysg Mathemateg yw datblygu a gwerthuso dulliau newydd o ddysgu ac addysgu mathemateg mewn ymateb i newid cymdeithasol a thechnolegol parhaus.
Mae gan y grŵp ddiddordeb mewn hybu damcaniaeth ac ymarfer addysg mathemateg yn y brifysgol. Yn hyn o beth, aiff y grŵp ati i gasglu tystiolaeth er mwyn asesu effeithiolrwydd mathau gwahanol o addysgu, ac i gefnogi athrawon a darlithwyr i ddatblygu eu hysgolheictod dysgu ac addysgu.
Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Athena SWAN a'r Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth drylwyr i gynwysoldeb a chydraddoldeb wrth gynllunio ac asesu ymyriadau addysgol. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â chyd-weithwyr ledled Prifysgol Caerdydd, er enghraifft yr Ysgol Ffiseg ac Ysgol y Biowyddorau, ac yn cyfranogi’n helaeth yn Rhaglen Ymarfer Academaidd y Brifysgol.
Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu â rhwydweithiau cenedlaethol megis yr Academi Addysg Uwch a'r rhwydwaith sigma, ac yn cyd-weithio â sefydliadau ledled y sector, gan gynnwys Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Sheffield Hallam.
Amcanion
Y cwestiwn canolog yw: Sut gallwn ni hwyluso dysgu effeithiol ym maes mathemateg?
Ymchwil
Meysydd eang o ddiddordeb
- Ymgysylltu academaidd â myfyrwyr, a meithrin amgylcheddau dysgu gweithredol
- Yn rhan o hynny y mae annog myfyrwyr i roi cynnig ar broblemau, rhannu a thrafod syniadau, hunanfyfyrio, a datblygu eu dulliau eu hunain o ddatrys problemau.
- Ymhlith y dulliau penodol a nodwyd y mae cyfarwyddyd gan gymheiriaid (gan ddefnyddio "clicwyr" mewn grwpiau mawr neu fyfyrwyr yn trafod cwestiynau mewn grwpiau bach yn ystod darlithoedd), asesiadau gan gymheiriaid a fforymau ar-lein.
- Defnyddio technoleg ddysgu mewn addysgu
- Mae'r cwestiynau'n cynnwys sut y gellir defnyddio hyn mewn modd effeithiol, a sut rydyn ni’n gwerthuso ei ddefnyddioldeb?
- Ymhlith y dulliau penodol a nodwyd y mae dysgu wyneb i waered (flipped learning), e-asesiadau, recordio darlithoedd, a dylunio a defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored
- Datblygu sgiliau hanfodol i raddedigion
- Y sgiliau penodol a nodwyd yw llythrennedd a chyfathrebu, a datrys problemau
Meysydd penodol o ddiddordeb
- Cynnig Cymorth Mathemateg ledled y brifysgol
- Cefnogi'r cyfnod pontio o'r ysgol i lefel israddedig
- Dimensiynau personoliaeth a'u heffeithiau ar ddysgu. Pryder Mathemateg ac effaith hyder mathemategol ar ddysgu.
- Dulliau arloesol o ddarlithio, e.e. rôl perfformiad (y darlithwyr) o ran ansawdd y dysgu
- Dadansoddi data arolygon myfyrwyr
- Dysgu seiliedig ar waith
- Pobl
Cwrdd a'r tîm
Digwyddiadau
Seminarau a gweithdai
Mae cyfuniad o siaradwyr allanol a mewnol ar raglen y seminar/gweithdy. Ciniawau Dysgu ac Addysgu fydd y sesiynau mewnol a fydd fel arfer yn dechrau gyda chyflwyniad 15-20 munud gan adael yr amser sy'n weddill ar gyfer trafodaeth a dadl.
Bydd y rhain yn cael eu cynnal am 14:10 ar ddydd Gwener yn M/1.02 oni nodir yn wahanol.
Dr Rob Wilson a Dr Mathew Pugh yw trefnwyr y rhaglen, a hwythau yw’r pwyntiau cyswllt.
Dyddiad | Siaradwr | Seminar |
---|---|---|
7 Chwefror 2020 | Gweithdy Ysgoloriaeth | Deilliannau ar lefel y rhaglen Bydd y sesiwn drafod hon yn adolygu'r deilliannau cyfredol ar lefel y rhaglen o ran graddau israddedig yn yr Ysgol Mathemateg. |
14 Chwefror 2020 | Daniel Gartner (Yr Ysgol Mathemateg) | I'W GADARNHAU |
21 Chwefror 2020 | Kevin Houston (Leeds) | I'W GADARNHAU |
13 Mawrth 2020 | Gweithdy Ysgoloriaeth | Arddangosfa Addysgu Mathemateg |
27 Mawrth 2020 | Tony Croft (Loughborough) | I'W GADARNHAU |
Digwyddiadau yn y gorffennol
Dyddiad | Siaradwr | Seminar |
---|---|---|
4 Hydref 2019 | Michael Willet ac Emmajane Milton (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) | Sesiwn holi a thrafod Yn y sesiwn fer, ryngweithiol hon, byddwn ni’n trafod dull arloesol y gellir ei ddefnyddio i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr mewn sesiynau addysgu grwpiau bach; 'Quescussion' gan Gedalof (2005) (gweithgaredd trafod sy'n cynnwys cwestiynau’n unig). Mae hwn yn weithgaredd sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn meithrin datblygiad sgiliau meddwl yn feirniadol. Er bod y dull hwn wedi'i ddatblygu'n wreiddiol ar gyfer addysgu Llenyddiaeth Saesneg mewn Addysg Uwch, ein nod yw trin a thrafod a yw ei gwmpas yn drosglwyddadwy y tu allan i gyd-destun y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, oherwydd union natur yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni — meddwl yn feirniadol, cwestiynu, annibyniaeth ac ymreolaeth |
24 Hydref 2019 | Gweithdy Ysgoloriaeth | Ymgysylltu â Myfyrwyr Bydd y sesiwn drafod hon yn trin a thrafod pa ffactorau sy'n cyfrannu at ymgysylltiad myfyrwyr â'u hastudiaethau academaidd ym maes mathemateg, a pha feysydd ysgolheigaidd penodol y dylai'r grŵp MERG ganolbwyntio arnynt dros y flwyddyn academaidd nesaf. |
31 Hydref 2019 | Matthew Inglis (Loughborough) | Pum degawd o ymchwil addysg mathemateg Mae addysgwyr mathemateg wedi bod yn cyhoeddi eu gwaith mewn cyfnodolion ymchwil rhyngwladol ers pum degawd. Sut mae'r maes wedi datblygu dros y cyfnod hwn? Yn y cyflwyniad hwn, rwy'n cynnig dadansoddiad o’r holl erthyglau, yn eu cyfanrwydd, a gyhoeddwyd yn Educational Studies in Mathematics a'r Journal for Research in Mathematics Education ers eu sefydlu. Gan ddefnyddio syniad Lakatos o raglen ymchwil, rwy'n canolbwyntio ar gyfeiriadedd damcaniaethol y maes sy’n newid, ac yn talu sylw arbennig i amlygrwydd cymharol y rhaglenni seicoleg arbrofol, adeileddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Rwy'n asesu'n feintiol faint y 'tro cymdeithasol', yn arsylwi bod y maes ar hyn o bryd yn profi cyfnod o amrywiaeth ddamcaniaethol, ac yn nodi a thrafod y 'clogwyn arbrofol', cyfnod pan ymfudodd ymchwiliadau arbrofol i ffwrdd o gyfnodolion addysg fathemateg. |
7 Tachwedd 2019 | Gweithdy Ysgoloriaeth | Sesiwn Agored Bydd y sesiwn agored hon yn rhoi cyfle i rannu enghreifftiau cyfredol o ymarfer dysgu ac addysgu effeithiol, i drafod cynlluniau/syniadau ar gyfer arferion sydd i ddod ac i archwilio/holi am welliannau posibl o ran arferion yn y dyfodol. |
14 Tachwedd 2019 | Geraint Palmer (Yr Ysgol Mathemateg) | Asesu Modiwl Llythrennedd Data y Flwyddyn Ragarweiniol Mae'r dull asesu ar gyfer MA0004 Mathemateg Ragarweiniol yn newid, bydd y modiwl nawr yn 100% gwaith cwrs. Mae hyn yn rhoi rhyddid i adlinio ffocws y modiwl i agweddau mwy ymarferol ar lythrennedd data. Byddaf yn trafod y modiwl ei hun, manteision ac anfanteision y dull asesu blaenorol, rhesymeg dros yr asesu newydd a’r manylion, a sut y bydd amserlen y modiwl yn adlinio i roi mwy o bwyslais ar y prosiectau hyn. Rwy'n gobeithio defnyddio'r amser hwn i wrando ar farn y cyfranogwyr ar hyn, a thrafod mireinio'r model newydd. |
5 Rhagfyr 2019 Yn dechrau am 14:00 | Gweithdy Ysgoloriaeth | Beth yw Pasio? Bydd y sesiwn drafod hon yn trin a thrafod yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth 'basio modiwl', a thrafod sut y dylai gwaith rhywun sy’n haeddiannol o basio modiwl fod, yn enwedig ym maes mathemateg. |
Seminarau a gweithdai Grŵp Ymchwil Addysg Mathemateg 2017-18 (PDF)
Ysgolion
Y camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.