Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Gwella Deintyddiaeth

Nod ein grŵp ymchwil yw gwella gofal deintyddol er mwyn i fwy o bobl yng Nghymru, y DU a thu hwnt gael gofal iechyd geneuol a deintyddol gwell.

Nod ein grŵp ymchwil yw gwella gofal deintyddol er mwyn gwella iechyd geneuol ac iechyd deintyddol mwy o bobl.

Amcanion

Mae ein grŵp:

  1. yn nodi lle mae angen gwella gofal deintyddol neu lle mae diffyg gwybodaeth – rydym yn gwneud hyn drwy adolygu a syntheseiddio tystiolaeth, dadansoddi bylchau, trafod â rhanddeiliaid (gan gynnwys y cyhoedd, gweithwyr deintyddol proffesiynol a chyrff comisiynu) a chodi ymwybyddiaeth wleidyddol
  2. yn arloesi ac yn defnyddio profiad i nodi a phrofi atebion i’r problemau hyn, yn rhoi technolegau iechyd ar brawf clinigol, yn mynd i’r afael â rhwystrau i weithredu ymchwil sy’n atal cleifion rhag cael y gofal gorau ac yn gwella dulliau o gyfathrebu â gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd
  3. yn datblygu rhwydweithiau cryf â chydweithwyr i wella ansawdd ac effaith ein hymchwil

Prosiectau

Y "Treial BRIGHT": A allwn ni leihau pydredd dannedd drwy wella’r arfer o frwsio dannedd ymhlith pobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig?

Mae pydredd dannedd yn gyffredin ac yn effeithio ar draean o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed, gan gynyddu i bron i hanner y bobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae pobl ifanc sydd â phydredd dannedd yn aml yn dioddef o’r ddannodd, yn colli cwsg, yn profi problemau wrth fwyta ac weithiau’n methu mynd i’r ysgol oherwydd hyn. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal pydredd dannedd yw brwsio dannedd yn rheolaidd gyda phast dannedd fflworid. Mae'r treial rheoli ar hap hwn yn ymchwilio i weld a yw rhaglen newid ymddygiad, sy'n cynnwys gwers ysgol ar frwsio dannedd a nodiadau atgoffa ar neges destun, yn ffordd gost-effeithiol o leihau pydredd dannedd ymysg pobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn y DU.

Mae Brushing RemInder 4 Good oral HealTh yn cael ei ariannu gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol i Ymchwil Iechyd a ddyfarnwyd i Brifysgol Caerdydd (yr Athro Nicola Innes), ac sy’n cael ei gyd-arwain gan yr Athro Zoe Marshman ym Mhrifysgol Sheffield, ac mae Prifysgol Dundee, Prifysgol Leeds a Phrifysgol Efrog hefyd yn rhan ohono.

Y "Treial CALM": A all therapi ymddygiad gwybyddol mewn deintyddfeydd leihau gorbryder plant ynghylch ymweld â’r deintydd?

Gall plant sy’n dioddef o orbryder ynghylch ymweld â’r deintydd fod yn osgoi mynd i weld y deintydd ac mae’n bosib eu bod yn dioddef o iechyd gwael yn y geg oherwydd hynny (mwy o bydredd ac echdynnu dannedd). Mae deintyddion yn teimlo straen pan fyddant yn trin plant sy’n teimlo’n orbryderus, ac maent yn aml yn atgyfeirio’r plant hynny at wasanaethau arbenigol fel y gallant gael tawelyddion neu anesthetig cyffredinol. Mae hyn yn golygu costau ychwanegol i'r GIG ac mae’n faich ar y teulu. Mae'r treial rheoli ar hap hwn, sy’n cael ei gynnal mewn deintyddfeydd, yn ymchwilio i weld a yw defnyddio ymyrraeth therapi ymddygiad gwybyddol hunan-gymorth (CBT) dan arweiniad, wedi’i gyflwyno gan ddeintyddion a therapyddion deintyddol yn rhan o’u gwaith ymarfer cyffredinol, yn ffordd gost-effeithiol o leihau gorbryder ynghylch ymweld â’r deintydd.

Treial rheoli ar hap aml-ganolfan yw CALM a ariennir gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol i Ymchwil Iechyd. Arweinir y treial gan yr Athro Zoe Marshman ym Mhrifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerdydd (Yr Athro Nicola Innes, Rhiannon Jones, Dr Daniela Raggio), Prifysgol Newcastle, Prifysgol Efrog a Choleg y Brenin, Llundain.

“ACT”: Ap ar gyfer Dannedd Plant Beth mae rhieni a gofalwyr eisiau ei weld mewn Ap Iechyd i'w helpu i ofalu am ddannedd plant?

Prosiect partneriaeth rhwng Ffederasiwn Deintyddol y Byd a Phrifysgol Caerdydd yw "Development of an Evidence-Based Mobile Health Application for, and with, Parents to Improve Children’s Oral Health”. Ei nod yw datblygu ap sy’n seiliedig ar dystiolaeth (EB) ar gyfer ffonau symudol, gyda gwybodaeth ynghylch iechyd y geg sy'n briodol ar gyfer cynulleidfa Cymru/ y DU, a hefyd gweld sut mae prototeip o’r ap yn cael ei dderbyn gan y plant, eu rheini a’r sawl sy’n gofalu amdanynt. Mae wedi’i ariannu gan Gynllun Arloesedd i Bawb, Prifysgol Caerdydd.

Y Tîm: Yr Athro Nicola Innes, Daniela Raggio, Waraf Al-Yaseen, Annalisa Willmott (myfyriwr israddedig ar gynllun INSPIRE)

What are the barriers and facilitators for implementing minimally invasive strategies for the management of caries in primary dentition in Primary Care, and what can be done to improve it?

This project will review the evidence around the implementation of caries management guidelines and recommendations for primary teeth. It will investigate barriers or facilitators from a range of stakeholders, and help guide future interventions, aiming to improve the implementation of Minimum Intervention Dentistry (MID).

Team: Heather Lundbeck, Dr Waraf Al-Yaseen, Dr Anwen Cope, Professor Zoe Marshman and Professor Nicola Innes.

Evaluating Enhanced Continuing Professional Development: Social Research Contract GDC-2021- 042

This project is commissioned by the General Dental Council (GDC) to evaluate, understand and learn from how the Enhanced Continuing Professional Development (eCPD) scheme system works, by:

  • assessing compliance levels with current eCPD requirements and the efficacy of the eCPD process (from both registrant and GDC perspectives)
  • capturing registrant perspectives on the effectiveness of eCPD in developing and enhancing the sense of individual ownership of CPD among dental professionals
  • exploring perspectives on how eCPD supports the career and professional development of dental professionals
  • assessing how eCPD identies gaps in dental professionals’ skills and knowledge
  • understanding the full range of CPD undertaken by dental professionals
  • providing GDC with robust evidence to inform GDC’s future development of CPD approaches

Team: Rhiannon Jones and Emma Barnes (School of Dentistry), Professor Alison Bullock (PI) - Cardiff Unit for Research and Evaluation in Medical and Dental Education (CUREMeDE), School of Social Sciences, Cardiff University.

Publications

Digwyddiadau

‘Diwrnod Blasu’ INSPIRE – 30 Tachwedd 2022

Mae cynllun INSPIRE yn cael ei gydlynu gan Academi’r Gwyddorau Meddygol a’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Ei nod yw ysbrydoli israddedigion i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ac ystyried gyrfa ym maes ymchwil. Nod ‘Diwrnod Blasu’ INSPIRE yw cyflwyno israddedigion i'n grŵp ymchwil a thrafod diddordebau a phosibiliadau ym maes ymchwil. Gall y myfyrwyr a'r goruchwylwyr sy'n bresennol wneud cais am interniaeth ar gyfer haf 2023.

Myfyriwr INSPIRE

Mae cynllun INSPIRE yn cael ei gydlynu gan Academi’r Gwyddorau Meddygol a’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Ei nod yw ysbrydoli israddedigion i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ac ystyried gyrfa ym maes ymchwil.

Ethan Peters

Enw’r prosiect: Monitro rhithwir ym maes deintyddiaeth: asesu'r hwyluswyr sy’n galluogi cleifion i dynnu lluniau ansawdd uchel o'u hwyneb, eu ceg a'u dannedd, yn ogystal â’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud hynny.

Jamie Everette

Enw’r prosiect: Archwilio Profiad a Gwybodaeth Gweithwyr Proffesiynol nad ydynt yn gweithio ym maes Deintyddiaeth, ac sy’n gweithio gyda Phlant, o ran Rheoli Anafiadau Trawmatig Deintyddol Plant ar Unwaith yng Nghymru: Astudiaeth Drawsdoriadol

Helpodd Jamie i recriwtio ysgolion i gymryd rhan yn yr arolwg, gan ddatblygu eu:

  • dealltwriaeth o werth cywirdeb a thryloywder ymchwil
  • sgiliau cyfathrebu gyda'r tîm ymchwil a chyfranogwyr
  • sgiliau rheoli amser a chadw cofnodion

Annalisa Willmott

Enw’r prosiect: Datblygu ap iechyd y geg wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer rhieni a phlant ifanc. Cefnogodd Annalisa y gwaith o syntheseiddio'r dystiolaeth, chwilio am apiau presennol yn ymwneud ag iechyd y geg, a thrafod syniadau i ddatblygu'r Ap.

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.