Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Dylunio ac Ymarfer Proffesiynol

Trwy hyrwyddo ymchwil dylunio beirniadol ac ymarfer proffesiynol o fewn pensaernïaeth, gallwn fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas a'r blaned.

Mae ein grŵp ymchwil yn dod ag arbenigwyr ynghyd sy’n gweithio mewn ymarfer creadigol, ymchwil dylunio sy’n seiliedig ar ymarfer ac a arweinir gan ymarfer ynghyd ag ymchwil sy’n gysylltiedig ag ymarfer pensaernïaeth ac ysgolheictod o fewn addysgeg ac ymarfer pensaernïol.

Gyda'n gilydd rydym yn edrych ar y croestoriadau rhwng parthau academaidd a phroffesiynol; cyfrwng pensaernïol a ffurf y proffesiwn pensaernïol; a thirwedd newidiol ymchwil, addysg a datblygu proffesiynol ym maes pensaernïolaeth. Trwy gysylltu ymchwil academaidd wreiddiol, trwyadl â chymunedau ymarfer allanol y diwydiant adeiladu ehangach, rydym yn dylanwadu ar newid ac effaith dylunio o fewn pensaernïaeth.

Prosiectau

Prosiectau eleni

  • Cartrefi heddiw ar gyfer yfory: Datgarboneiddio Tai Cymru rhwng 2020 a 2050.
  • Cartrefi i Genedlaethau'r Dyfodol – saith traethawd a chwe astudiaeth achos
  • Barnhaus (prosiect adeiledig, Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Ecoleg Gwacterau Trefol Ewro-Ganoldirol (EMUVE)

Prosiectau y llynedd

  • Iard Walmer Peter Salter
  • Camau i Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol yng Nghymru

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.