Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd ac addysg mewn plentyndod

Astudiaeth sy'n canolbwyntio ar feintioli'r cysylltiad rhwng taflwybrau diabetes math 1 (a elwir hefyd yn ddiabetes sy'n cychwyn oed plant) iechyd cysylltiedig a thaflwybrau canlyniadau addysgol.

Er y gall iechyd plentyn ddylanwadu ar eu canlyniadau addysgol, mae’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion yn debygol o gael effaith ar reoli iechyd. At hynny, mae ffactorau eraill megis teuluoedd yn effeithio ar ganlyniadau addysg ac iechyd.

Mae archwilio a mesur pwysigrwydd yr effeithiau gwahanol hyn yn her sy'n gofyn am ymagwedd amlddisgyblaethol a chydweithredol at ymchwil.

Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym ni’n gweithio gyda’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (Secure Anonymised Information Linkage neu SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer cysylltiadau data newydd a’r Ganolfan ar gyfer Modelu Aml-lefel ym Mhrifysgol Bryste ar gyfer arloesiadau methodolegol er mwyn helpu i ddeall y prosesau hyn yn well.

Ymchwil

Diabetes a chanlyniadau addysgol

Mae diabetes math 1 (sydd hefyd yn cael ei alw’n diabetes sy’n dechrau mewn plentyndod) yn un o'r cyflyrau cronig mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar blant yn y DU. Er bod rheoli diabetes yn feddygol yn cael ei ddeall yn dda, anaml yr ymchwilir i’r goblygiadau mewn ysgolion o ran presenoldeb, cyrhaeddiad ac ymddygiad, a hynny oherwydd diffyg data.

Mae'r prosiect hwn yn ceisio cysylltu setiau data iechyd ac addysg i fesur y cysylltiadau rhwng llwybrau iechyd cysylltiedig â diabetes math 1 a llwybrau canlyniadau addysgol. Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Prosesu data ar gyfer yr astudiaeth

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys cysylltu nifer o setiau data, er bod y setiau data a gaiff eu creu yn defnyddio data di-enw, mae’r broses o gysylltu yn ei gwneud yn ofynnol i rannu dynodwyr gyda thrydydd parti dibynadwy, Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru er mwyn hwyluso cysylltiadau ar draws gwahanol setiau data.

Mae gennym ni gymeradwyaeth ar gyfer y llifau o wybodaeth gyfrinachol am gleifion ar gyfer cysylltu setiau data iechyd gan y Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd, rhan o'r Awdurdod Iechyd Ymchwil a’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Y setiau data iechyd hyn yw’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol (NDA) a gynhaliwyd gan NHS Digital a’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol (NPDA) a gynhaliwyd gan y Coleg Brenhinol ar gyfer Pediatreg ac Iechyd Plant.

Mae'r data addysg ysgol ar gyfer disgyblion o Gymru eisoes yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel mater o drefn i SAIL lle mae ar gael ar ffurf ffugenwau er mwyn cysylltu â’r setiau data newydd. Bydd data addysgol ychwanegol hefyd yn cael ei ryddhau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr mewn addysg uwch yn y DU.

Dogfennau cymeradwyo

Dogfennau prosesu teg

Ar gyfer yr unigolion hynny a allai fod yn rhan o’r setiau data hyn, darperir gwybodaeth ar sut i optio allan a phwy i gysylltu â nhw gydag ymholiadau ar wefan pob darparwr data:

Mae gennym ni ddogfennaeth prosesu teg prosiect benodol sy'n cwmpasu’r holl setiau data a ddefnyddir ar gyfer y prosiect.

Rydym ni hefyd yn darparu fersiynau ar gyfer setiau data penodol i’w postio ar wefannau’r darparwr data:

Cost bersonol cyflyrau iechyd yn ystod plentyndod

Mae ADR UK yn ariannu’r gwaith o greu fframwaith llywodraethu gwybodaeth ar gyfer cysylltu setiau data iechyd sy'n benodol i glefydau plant â data ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r astudiaeth yn cynnwys creu llwybr cyfreithiol diogel er mwyn i wybodaeth gyfrinachol am gleifion o setiau data iechyd plant gael ei chysylltu'n ddiogel â ffynonellau data eraill gan barchu preifatrwydd. Unwaith y bydd y broses cysylltu data wedi'i chwblhau, mae'r data'n cael ei wneud yn ddienw cyn ei fod ar gael i ymchwilwyr a gymeradwywyd mewn amgylchedd diogel ar gyfer prosiectau sydd er budd y cyhoedd.

Ewch i dudalen prosiect ADR i ddarganfod mwy.

Rhagor o wybodaeth

Post blog ADR yn amlinellu'r prosiect.

Diabetes math 1 ac addysg: Gweithdy cleifion, Ebrill 2021 - darllenwch yr adroddiad.

Post blog ADR ar y digwyddiad ac adroddiad ymgysylltu â chleifion.

Prosiectau

Cost bersonol cyflyrau iechyd yn ystod plentyndod

Dim ond hyn a hyn o dystiolaeth sydd ar gael o sut mae plant â chyflyrau cronig fel diabetes, epilepsi ac asthma’n dod ymlaen mewn meysydd y tu hwnt i iechyd. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr heriau sy’n gysylltiedig â chyfuno data gweinyddol.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn ar gyfer diabetes, bu i ni weithio gyda’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol a’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol ar gyfer oedolion, ar y cyd â’r Awdurdod Safonau Addysg Uwch a Llywodraeth Cymru, i lifo a chysylltu’r setiau data hyn ar iechyd ac addysg ar gyfer Cymru.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn

STEADFAST: Deilliannau addysg ymhlith pobl ifanc â diabetes: llywodraethu ac ymwneud arloesol i gefnogi ymddiriedaeth y cyhoedd

Mae gan tua 40,000 o blant a phobl ifanc yn y DU ddiabetes (diabetes math 1 yn bennaf), ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn cael diagnosis ohono. Mae dulliau gwael o reoli’r cyflwr yn y tymor hir yn arwain at gymhlethdodau difrifol, sy’n gallu cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd a chostau’r GIG.

Mae gan bedair gwlad gartref y DU gyfrifoldeb statudol i gefnogi addysg pobl ifanc â chyflyrau iechyd, ond mae’r sail dystiolaeth i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau’n dal i fod yn wan.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn

Ymchwilio i'r rhyngberthynas rhwng diabetes a chyflawniad addysgol plant

Bydd plentyn â diabetes yn dysgu sut i hunan-reoli lefel y glwcos yn ei waed. Bydd ansawdd y dulliau hunan-reoli hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ei iechyd, a all gael effaith ar ganlyniadau addysgol (gan gynnwys presenoldeb a chyflawniad). Gall hyn, yn ei dro, gael effaith ar y dulliau hunan-reoli a chanlyniadau iechyd eraill.

Nod cyffredinol yr ymchwil yw gwella ein dealltwriaeth o’r rhyngwyneb rhwng canlyniadau iechyd a chanlyniadau addysgol i blant â diabetes.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn

Datblygu set ddata sy’n barod ar gyfer ymchwil a fydd yn cysylltu data ar blant a phobl ifanc yn Llundain sy’n cael ei gadw gan awdurdodau lleol a darparwyr gofal iechyd

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd i blant a phobl ifanc yn Lloegr yn wynebu heriau difrifol. Y tu hwnt i achosion proffil uchel o farwolaethau osgoadwy ymhlith plant, amcangyfrifir mai £23 biliwn y flwyddyn yw cost gymdeithasol canlyniadau gwael ymhlith plant yn y system gofal.

O ordewdra i farwolaeth, mae canlyniadau iechyd plant yn waeth nag ydynt mewn llawer o wledydd tebyg yn Ewrop. Mae llawer o blant wedi colli cyfnodau estynedig o amser o’r ysgol ac wedi cwympo ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn

Cwrdd â'r tîm

Lead researcher

Staff academaidd

Resources

Fair processing document

This fair processing document aims to inform research participants of how their information will be used fairly, legally and ethically.

REC approval letter

Steadfast protocol

Cardiff University response to The Children's Commissioner Family Review

Final response to the Children, Young People and Education Committee inquiry into Pupil Absence

REC approval letter

Steadfast protocol

Cardiff University response to The Children's Commissioner Family Review

Final response to the Children, Young People and Education Committee inquiry into Pupil Absence

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.