Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu
Ymchwilio i ffurf, swyddogaeth ac effaith cyfathrebu ac iaith ddynol.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu (CLCR) yn cael ei ail-lansio ac bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru.
Mae gan y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu (CLCR) draddodiad cryf o adeiladu gwybodaeth ddamcaniaethol a'i chymhwyso i gyd-destunau dilys. Yn ein hymchwil, rydym yn ffafrio heriau a phryderon 'byd go iawn', gan weithio ar y cyd â'r buddiolwyr i gyd-fynd ag ymchwil i'w gymwysiadau posibl.
Mae buddiolwyr ymchwil wedi cynnwys y proffesiwn cyfreithiol, gofal iechyd, a chymunedau lleiafrifoedd ethnig a lleiafrifoedd difreintiedig yn gymdeithasol. O'r herwydd, mae llawer o'n hymchwil yn arwain at effaith sylweddol ar gymdeithas.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2014 - yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU – roeddem yn rhan o gyflwyniad gyda Llenyddiaeth Saesneg a gyflawnodd le o'r 10 uchaf, gyda dros draean (36%) o allbynnau ymchwil yn cael eu gwerthuso fel 'sy'n arwain y byd' a 50% o ansawdd 'rhagorol rhyngwladol'.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn rhan o'r cais llwyddiannus o grantiau gwerth £1,300,000 ar gyfer prosiectau ymchwil rydym naill ai wedi'u harwain neu wedi bod yn bartneriaid ynddynt.
Iaith ac Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth Corpws
Mae gennym amrywiaeth eang o ddiddordebau sy'n ymwneud â ieithyddiaeth corpws. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Creu a casglu corpws
- Dadansoddiad disgwrs wedi’i liwio gan corpws
- Anodi a thagio cropws
- Ymchwil amlffurf yn seiliedig ar gorpws
Rydym hefyd yn defnyddio corpora i archwilio:
- Y berthynas rhwng iaith, disgwrs a diwylliant
- Cyfathrebiaeth proffesiynol, gweithle a chyhoeddus
- Trosiad
- Ieitheg a patrymmau mewn gramadeg geiriau
- Y rhyngwyneb rhwng Ieithyddiaeth Weithredol Systemig (SFL) ac ieithyddiaeth corpws
Iaith Fformiwläig
Rydym yn astudio’r ffordd y mae pobl yn cyflawni pethau mewn cyfathrebu gan ddefnyddio unedau iaith cyffredin uwchlaw lefel geiriau, gan gynnwys:
- Idiomau a diarhebion
- Troadau ymadrodd cyffredin
- Termau aml-air
- Iaith ailadroddus mewn dementia
- Sut mae'r ymadroddion hyn yn newid dros amser ac yn adlewyrchu newid cymdeithasol
- Tebygrwydd a gwahaniaethau ar draws ieithoedd
- Rôl iaith fformiwläig mewn hyfedredd ail iaith
- Iaith fformiwläig mewn cyfathrebu proffesiynol
Tonyddiaeth a Strwythur Gwybodaeth
Rydym yn astudio sawl maes yn ymwneud â swyddogaeth llafaredd, gan gynnwys:
- Y system tôn fel adnodd rhyngbersonol
- Defnyddio acenion traw i ddangos trawsnewidiadau annisgwyl mewn disgwrs
- Defnyddio acenion traw i nodi ffocws
- Sut mae prosodi, rhythm, trefn geiriau, cyfeiriadaeth a semanteg yn gwthio'r neges ymlaen
Caffael Iaith (Cyntaf ac Ail)
Rydym yn astudio caffael iaith gyntaf ac ail iaith, gan edrych ar agweddau megis datblygiad ffonolegol, gramadegol, pragmatig, semantig a geirfaol, a'r goblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwil mewn:
- Datblygiad ffonolegol babanod o'r cyfnod cyn geni hyd at ddiwedd eu babandod
- Dysgu ac addysgu ail iaith (neu iaith ychwanegol).
- Ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy'n effeithio ar ddatblygiad iaith plant
- Plant yn caffael iaith safonol ac ansafonol
- Cymhwysedd sosioieithyddol Saesneg fel lingua franca
- Anhwylderau iaith datblygiadol
Disgrifiad Iaith
Rydym yn disgrifio gramadeg, geirfa, ffonoleg a semanteg iaith o amrywiaeth o safbwyntiau:
- Categorïau swyddogaethol
- Newid diacronig a defnydd ac amrywiadau cydamserol
- Gramadegol
- Enwau ac nominaliaeth
- Semanteg geirfaol
- Theori ramadegol
- Teipoleg iaith
- Strwythur gwybodaeth
- Enwoldeb ac uniondeb ystyr
Amrywiad a Newid Iaith, ac Ieithyddiaeth Hanesyddol
Rydym yn astudio sut mae amrywiad ieithyddol cyfredol wedi'i gysylltu'n gynhenid â'r dadansoddiad o newid iaith a'i berthynas ag amser, a sut mae canfyddiadau un maes yn llywio rhai'r llall. Mae ein diddordebau iaith ac amser yn cynnwys:
- Newid ar lefelau ieithyddol (geirfa, morffosyntactig, ffonolegol, disgwrs)
- Rhyngweithio rhwng ffactorau mewnol ac allanol mewn newid iaith
- Cyswllt iaith a sifft iaith
- Sosioieithyddiaeth hanesyddol
- Arddulliau hanesyddol
- Agweddau tuag at iaith a defnydd iaith
- Newid mewn iaith fformiwläig
Astudiaethau Geirfa
Rydym yn astudio ffurf a swyddogaeth geiriau a'u perthynas â gramadeg, er enghraifft:
- Patrymau gramadegol geirfa
- Newid geirfa dros amser o ganlyniad i gyswllt iaith
- Sut rydyn ni'n dysgu geiriau mewn iaith gyntaf neu ail iaith
- Sut mae ystyr gair yn cael ei ddylanwadu gan ei berthynas â geiriau eraill
- Dadansoddiad geirfaol swyddogaethol
- Dadansoddiad patrymau gyda corpws
Ethnograffeg Ieithyddol
Rydym yn defnyddio dulliau ethnograffig i ymchwilio i arferion cyfathrebol mewn ystod o gyd-destunau cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyd-destunau meddygol a gofal iechyd megis nyrsio, a rhoddi organau
- Cyd-destunau cyhoeddus megis siopau, llyfrgelloedd a hyfforddiant chwaraeon
- Cyd-destunau cyfryngau cymdeithasol fel gemau ar-lein, Facebook, cymunedau YouTube
- Cyd-destunau cyfreithiol fel gorsafoedd heddlu a chyngor cyfreithiol
- Trefniadaeth gymunedol a rheoli adnoddau
- Trosiad
Rydym yn astudio ffurfiau geiriol a gweledol/amlfoddol o drosiadau, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:
- Cyfathrebu yn y gweithle
- Cyfathrebu gofal iechyd
- Gwrthdaro a disgwrs
- Cartwnau gwleidyddol
- Darluniau, comics, nofelau graffig, a naratifau graffig
- Disgwrs ar y cyfryngau
Sosioieithyddiaeth
Mae’r ymchwil yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar sosioieithyddiaeth amrywiol a rhyngweithiol, gan edrych ar sut mae iaith yn cael ei heffeithio gan gymdeithas a diwylliant, ac yn effeithio arnynt.Mae hyn yn cynnwys ymchwil i mewn i:
- Amrywiaeth teipograffeg a sillafu yn y cyfryngau
- Goruwchamrywiaeth a thrawsieithu
- Amlieithrwydd
- Acenion a thafodieithoedd
- Agweddau ac ideolegau ieithyddol
- Iaith a rhywedd
- Hunaniaethau a chymunedau sefydliadol
Ieithyddiaeth Swyddogaethol Systemig, Gramadeg Swyddogaethol Systemig
Rydym yn trin gramadeg a geirfa fel adnoddau ar gyfer gwneud ystyron cymdeithasol fel disgwrs. Rydym yn archwilio dimensiynau canlynol Ieithyddiaeth Weithredol Systemig:
- Theori gramadegol
- Disgrifiadau gramadegol o Saesneg ac ieithoedd eraill ac amrywiadau cofrestr/tafodieithol
- Gramadeg geirfa
- Strwythur gwybodaeth a thestun
- Erchfynedigaeth a chyflwr gweithredol
- math llenyddol, cywair a chyd-destun
- Dadansoddi testun
- Agwedd, gwerthuso a safiad
- Rhyngdestunolrwydd
- Theori actor cymdeithasol
Ac rydym yn defnyddio'r theori a'r disgrifiad yn y meysydd canlynol:
- Teipoleg drawsieithyddol
- Cyfreithlondeb a llais
- Ieithyddiaeth corpws
- Addysg
- Anhwylderau cyfathrebu
- Arddulleg
- Dadansoddiad disgwrs critigol (CDA)
- Ymarfer proffesiynol
Cyfathrebiaeth
Ieithyddiaeth Gymhwysol, Addysg Iaith, Saesneg ar gyfer ddibenion penodol
Rydym yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â dysgu, addysgu a defnyddio iaith, a dyma gasgliad ohonynt:
- Addysgu cyfathrebu proffesiynol
- Saesneg fel lingua franca mewn cyd-destunau proffesiynol
- Dysgu ac addysgu ail iaith
- Prosesau ysgrifennu
- Addysgu Saesneg i bwrpasau penodol
- Dulliau o ddysgu ac addysgu gramadeg, geirfa a disgwrs
Dadansoddi Disgwrs, Dadansoddi Disgwrs Beirniadol, Dadansoddi Disgwrs wedi'i Gyfarwyddo â Chorpws
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu offer, damcaniaethau a fframweithiau methodolegol ar gyfer dadansoddi disgwrs, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Diffinio a dadansoddi cyd-destun
- Cyfathrebu yn y gweithle
- Dadansoddiad disgwrs aml-foddol
- Dadansoddi sgyrsiau
- Iaith ac ystum a ddefnyddir mewn lleoliadau naturiol
- Ymchwil amlfodd yn seiliedig ar gorpws
- Testun a chyd-destunau cymdeithasol
- Dadansoddi disgwrs digidol
- Disgwrs a hunaniaeth
Ieithyddiaeth fforensig / Iaith a'r Gyfraith
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau, methodolegau a dulliau i archwilio iaith a chyfathrebu am y gyfraith mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfreithiol a pharagyfreithiol. Rydym hefyd yn cyfrannu canfyddiadau cymhwysol ein hymchwil i ymarferwyr ar draws amrywiaeth o sefydliadau. Rydym yn gweithio ar draws y system gyfreithiol yn y meysydd canlynol:
- Egluro'r gyfraith mewn cyd-destunau megis cadw mewn dalfra
- Datganiadau tystion ac arferion cyfweld
- Yr heddlu'n delio â chwynion a chymryd galwadau
- Cyfathrebu â phoblogaethau diamddiffyn gan gynnwys plant a'r rhai ag anhwylder cyfathrebu
- Cynrychiolaeth a lluniad hunaniaeth yn iaith y gyfraith
- Ymadrodd a chyfreitheg
- Iaith carchar a chyfiawnder adferol
- Tystiolaeth ac arbenigedd ieithyddol gan gynnwys: priodoli awduraeth, dadansoddiad nod masnach, a labeli rhybuddio
- Dehonglwyr ac eiriolwyr iaith
- Naratif yn y broses gyfreithiol
- Perswadio yn y broses gyfreithiol
- Moeseg drafodol a'r broses gyfreithiol
- Cyfarwyddyd ac ideoleg rheithgor
Cyfathrebu Gofal Iechyd, Anhwylderau Cyfathrebu, Dementia a Chyfathrebu, Cyfathrebu Hyd Oes
Rydym yn astudio defnydd penodol iaith yng nghyd-destun gofal iechyd, yn rhychwantu cyfathrebu iechyd a chyfathrebu gydol oes. Gall hyn gynnwys anawsterau cyfathrebu chaffaeledig a sut mae iaith yn newid wrth i ni heneiddio, yn ogystal â phynciau fel:
- Trosiad gweledol mewn ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus
- Trosiad mewn gofal diwedd oes
- Salwch fel trosiad
- Cyfathrebu iechyd mewn ysbytai
- Alzheimers a dementia
- Cyfathrebu â phobl â dementia
- Cyfathrebu gweithwyr iechyd proffesiynol
- Anhwylderau cyfathrebu sy'n deillio o anableddau cynhenid a chaffaeledig
- Cynrychioliadau o heneiddio
- Meddygaeth graffeg
- Gwahaniaethau rhwng patrymau iaith pobl iau a hŷn
- Cynrychioliadau'r cyfryngau o salwch, heneiddio a hyd oes
Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol
Mae gennym ddiddordeb mewn archwilio critigol i mewn i gysyniadau ac ymagweddau at ddiwylliant a chyfathrebu rhyngddiwylliannol mewn amrywiaeth o gyd-destunau a chydag amrywiaeth o fethodolegau. Mae ein hymchwil yn archwilio’r meysydd canlynol, ymhlith eraill:
- Cyfathrebu rhyngddiwylliannol yn y gweithle
- Cysyniadau o ‘ddiwylliant’ mewn cyd-destunau sefydliadol
- Critigo hanfodaeth, stereoteipiau ac ethnocentriaeth
- Defnyddio ieithyddiaeth corpws mewn dadansoddiad rhyngddiwylliannol a diwylliannol
- Cyfathrebu rhyngddiwylliannol a llais
- Cyfathrebu rhyngddiwylliannol a moeseg drafodol
- Y defnydd o adnoddau cyfathrebol amlfodd mewn cyfarfyddiad rhyngddiwylliannol
Cyfryngau (Newydd), Comics/Nofelau Graffeg
Mae gennym amrywiaeth eang o ddiddordebau yn y meysydd hyn, gan gynnwys hunaniaeth, perfformiad ac ideolegau, ac rydym yn archwilio sut y gellir cymhwyso ein canfyddiadau y tu hwnt i’r byd academaidd:
- Adeiladu a thrafod hunaniaeth
- Cymunedau practis ar gyfryngau cymdeithasol
- Creadigrwydd, newid a theipograffeg yn iaith y cyfryngau newydd
- Moeseg ymchwil rhyngrwyd
- Cynrychioliadau, ideolegau, a'r cyfryngau
- Adrodd straeon hunangofiannol trwy gomics
- Meddygaeth graffeg
- Agweddau a pherfformiad iaith ar twitter
Disgwrs Proffesiynol a Chyfathrebu yn y Gweithle
Rydym yn dadansoddi rhyngweithiadau mewn cyd-destunau proffesiynol a gweithle, er enghraifft sgwrs darlledu, rhyngweithio mewn llys barn a chyfarfodydd busnes. Mae llawer ohonom yn defnyddio dull ‘cymhwysol’, gan archwilio sut y gall ein canfyddiadau fwydo’n ôl i’r rheini yn y gweithle er mwyn gwella arferion. Mae ein gwaith yn cynnwys trafodaethau a chyfathrebu proffesiynol llafar, ysgrifenedig, amlfodd ac ar-lein:
- Cyfathrebu proffesiynol cyfreithiol
- Cyfathrebu lleyg-cyfreithiol
- Disgwrs fforensig
- Disgwrs wleidyddol yn y cyfryngau
- Gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, disgwrs a siarad ar gyfer darlledu
- Trafodaeth cyfryngau newyddion a chyfathrebu
- Rhyngweithio rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion-proffesiynol
- Amgylcheddau iechyd amlieithog
- Cyfathrebu rhyngddiwylliannol mewn gweithleoedd
- Iaith cyfarfodydd busnes
- Eglurhad yng nghyd-destun y gweithle
- Llythrennedd mewn gweithleoedd
- Cyfathrebu mewn cyd-destunau peirianneg
Cyfathrebu Gweledol ac Amlfoddol, Cyfathrebu Di-eiriau
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu offer, damcaniaethau a fframweithiau methodolegol ar gyfer dadansoddi gweledol ac amlfodd gyda ffocws penodol ar y meysydd canlynol:
- Tirweddau ieithyddol
- Iaith ac ystum mewn cyd-destunau naturiol
- Delweddau hysbysebu
- Trosiad gweledol/amlfoddol ac eironi
- Cyfathrebu di-eiriau yn y gweithle
- Adnoddau trawsieithu a chyfathrebu
- Ymchwil amlfodd yn seiliedig ar gorpws
Digwyddiadau
Mae CLCR yn cynnal Seminarau Ymchwil rheolaidd. Rhagor o wybodaeth.
Digwyddiadau yn y gorffennol
- IVACS Symposium, 2017
- UKLVC11 Conference, 2017
- ALAPP Conference, 2018
Rwydweithiau a grwpiau ymchwil
- CALL: Cardiff Language and the Law
- FLARN: Formulaic Language Research Network
- LEDS: Linguistic Ethnography Discussion and Study Group
- LinC: The Research Network for Linguistics at Cardiff
- LACRE: Language and Cognition Research
- The Cardiff Corpus Network
- The Nominal Group