Ewch i’r prif gynnwys

Diben y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Fusnes yn Tsieina yw bod yn ganolfan sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig â Tsieina ym meysydd cyfrifeg, cyllid, economeg ac ymchwil fusnes.

Mae ein hymchwil yn rhoi sylw i werth cyhoeddus, nodau datblygu cynaliadwy, a chydweithio rhyngwladol. Ein nod yw cysylltu cymunedau academaidd yn Tsieina a'r DU.

Y tîm rheoli

Cwrdd â’r tîm

Cyfarwyddwr

Staff academaidd

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Dyddiad

Digwyddiad

Uchafbwynt

Tachwedd 2024 -Mehefin 2025Galwad am bapurau rhifyn arbennig"Navigating the Intersection of Digital Innovation and ESG: Pathways to Sustainable Development" in Journal of Chinese Economic and Business Studies

Digwyddiadau yn y gorffennol

Dyddiad

Digwyddiad

Uchafbwynt

15-16 Gorffennaf 2024

Cynhadledd Flynyddol Tair-Brifysgol Caerdydd-Xiamen-Newcastle 2024, Ysgol Busnes Caerdydd.

Thema: O darfu i gydweithio: meithrin gwytnwch trwy arloesedd cyfrifol.

Prif siaradwyr: Yr Athro Xiaolan Fu, Prifysgol Rhydychen; Yr Athro Hinrich Voss, Prifysgol Bryste; Yr Athro Arman Eshraghi, Prifysgol Caerdydd.

19 Mehefin 2023

Seminar Canolfan ar gyfer Ymchwil Busnes yn Tsieina, Ysgol Busnes Caerdydd.

Dr Colin Zeng, Prifysgol Polytechnig Hong Kong.

21 Medi 2022

Seminar Canolfan ar gyfer Ymchwil Busnes yn Tsieina, Ysgol Busnes Caerdydd.

Y sawl a gymerodd ran Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bryste, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Southampton, a Phrifysgol Birmingham.

29-30 Ebrill 2022

Gweithdy PhD Canolfan ar gyfer Ymchwil Busnes yn Tsieina, Ysgol Busnes Caerdydd.

Y sawl a gymerodd ran Ymchwilwyr PhD o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Surrey.

7-8 Hydref 2021

Cynhadledd Flynyddol Tair-Brifysgol Caerdydd-Xiamen-Newcastle 2021, Ysgol Busnes Caerdydd.

Thema: Symud tuag at fyd cynaliadwy ar ôl y pandemig.

Prif siaradwr: Yr Athro Bohui Zhang, Prifysgol Tsieineaidd Hong Kong.

6-7 Mehefin 2020

Cynhadledd Rhifyn Arbennig Abacws, Beijing, Tsieina.

Thema: Cyfrifeg, Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol yn Tsieina.

Prif siaradwr: Yr Athro Tak-Jun (TJ) Wong, Ysgol Busnes USC Marshall.

2-3 Tachwedd 2019

Cynhadledd Rhifyn Arbennig y Fforwm Cyfrifeg, Nanjing, China.

Thema: Datblygiadau Cyfrifeg Cyfoes yn Tsieina.

3-7 Hydref 2019

Cynhadledd Flynyddol Tair-Brifysgol Caerdydd-Xiamen-Newcastle 2019, Ysgol Busnes Caerdydd.

Y sawl a gymerodd ran Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Xiamen, a Phrifysgol Newcastle.

8-9 Rhagfyr 2018

Cynhadledd Rhifyn Arbennig Cyfrifeg ac Ymchwil Busnes

Thema: Archwilio yn Tsieina.

Prif siaradwr: Yr Athro Liansheng Wu, Prifysgol Beijing, Tsieina.

24 Mai 2018

Symposiwm Canolfan Ymchwil Busnes Tsieina

Prif siaradwr: Yr Athro T.J. Wong, Prifysgol De California, cyn Golygydd The Accounting Review a Golygydd Cyswllt Management Science ar hyn o bryd

27-28 Mehefin 2016

Cynhadledd Flynyddol Tair-Brifysgol Caerdydd-Xiamen-Newcastle 2016, Ysgol Busnes Caerdydd.

Y sawl a gymerodd ran Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Xiamen, a Phrifysgol Newcastle.

Ysgolheigion gwadd

2020

  • Dr Yaqin Liu, Prifysgol Cyfrifo a Chyllid Shanghai Lixin

2019

  • Dr Miranda Huiqun Feng, Prifysgol Cyllid ac Economeg Tianjin

2017

  • Yr Athro TongMu, Prifysgol Cyllid ac Economeg Southwestern
  • Yr Athro Liansheng Wu, Prifysgol Peking

Y camau nesaf

academic-school

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.