Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO)

Mae Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO), yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil opera ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt.

Lansiwyd CIRO yn swyddogol ym mis Mai 2012 yng nghynhadledd ‘Cariad i Farwolaeth:Trawsnewid Opera’, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru a’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol.

Rhwydwaith rhyngddisgyblaethol yw CIRO sy’n dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr ynghyd – yn gyfansoddwyr, cyfarwyddwyr, libretwyr, dramodwyr, cyfieithwyr ac uwchdeitlwyr – gan weithio ar amrywiaeth o bynciau a dulliau ar gyfer astudio a chreu opera a drama.

Rydym yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd a’r byd perfformio proffesiynol yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae gennym drefniadau cyfnewid breintiedig gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Opera'r Ddraig a Chanwr y Byd Caerdydd.

Mae CIRO yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys darlithoedd gwadd, diwrnodau astudio cyhoeddus, cynadleddau a seminarau gyda siaradwyr rhyngwladol, gweithdai arloesol a thrafodaethau panel (gweler y dudalen digwyddiadau).

Rydym yn cynnig ysgoloriaethau doethurol (ffioedd yn unig) i ymgeiswyr rhagorol y bydd eu gwaith yn elwa o natur ryngddisgyblaethol y rhwydwaith a'n cysylltiadau â phartneriaid allanol, ac y bydd eu gwaith yn ei dro yn gwella proffil ymchwil y rhwydwaith.

Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth ddoethurol gyntaf yn 2015 i’r cyfarwyddwr opera proffesiynol Dr Benjamin Davis, a fu’n gweithio ar astudiaeth seiliedig ar ymarfer ynghylch ‘Realaeth Perfformio’ mewn cynyrchiadau opera cyfoes (cwblhawyd yn 2019), ac ymunodd Ben wedyn â CIRO fel ymchwilydd cyswllt. Bu Ben yn gyfarwyddwr staff Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 2001 a 2011, ac mae bellach yn cyfuno addysgu ac ymchwil â phrosiectau cyfarwyddo llawrydd.

Bu’n cydweithio â’r cyfansoddwr Robert Fokkens, sy’n aelod a chyd-gyfarwyddwr o CIRO, y libretydd Mkhululi Mabija a’r gantores Njabulo Madlala i greu Bhekizizwe, monodrama operatig sy’narchwilio themâu apartheid yn Ne Affrica a mewnfudo i’r Deyrnas Unedig. Cyfarwyddodd y cynhyrchiad ffilm digidol gydag Opera’r Ddraig, a berfformiwyd am y tro cyntaf ar-lein yng Ngŵyl Llais y BBC/Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mawrth 2021. Ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2022, bu Davis yn gyfarwyddwr ar gynhyrchiad byw Opera’r Ddraig o Bhekizizwe gan Fokkens, a aeth ar daith i leoliadau yng Nghymru gyda chyllid pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Digwyddiadau

Mae CIRO yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys darlithoedd gwadd, diwrnodau astudio cyhoeddus, cynadleddau a seminarau gyda siaradwyr rhyngwladol, gweithdai arloesol a thrafodaethau panel.

Mae dod ag ystod mor amrywiol o arbenigedd ynghyd yn arwain at gyhoeddiadau, gwaith creadigol newydd, a cheisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.

Darlithoedd cyhoeddus

2023

  • Yr Athro Paulo Mugayar Kühl (Unicamp, Brasil), 'Opera Eidalaidd mewn Persbectifau Trawsgwladol' (Mawrth)

2022

  • Dr Peter Morgan Barnes, Libretydd a Chyfarwyddwr Llawrydd, 'Pasticcio Opera: the Purist’s Provocation and the Manager’s Salvation’ (Mawrth)

2021

  • Dr Benjamin Davis (CIRO) yn sgwrsio gyda Jarry Glavin (dawnsiwr trawsryweddol llawrydd), ‘Finding Hannah “in-between”: An experiment in A/R/Tography around the event of the UK premiere of As One, for Lontano Festival of American Music in London 2021’ (Rhagfyr)

2019

  • Dr Laura Möckli (Prifysgol Bern), 'Bootleg Opera' (Hydref)
  • Dr Monika Hennemann, ' Oper und Drama Felix Mendelssohn' (Hydref)

2018

  • Dr Alexandra Wilson (Prifysgol Oxford Brookes), ‘Opera: Highbrow, Middlebrow, Lowbrow… Elitist?’ (Tachwedd)
  • Dr Clair Rowden, 'The Sopranos, Parisian Style, 1869' (Tachwedd)
  • Yr Athro Derek Scott (Prifysgol Leeds), ‘A forgotten transcultural entertainment industry: early twentieth-century operetta from the German stage’ (Chwefror)

2017

  • Yr Athro Gundula Kreuzer (Prifysgol Yale), ‘Science, Timbre and Wagner’s Gong’ (Mawrth)
  • Dr Robert Fokkens, 'Towards a New Opera' (Chwefror)

2016

  • Yr Athro Anne Kauppala (Prifysgol y Celfyddydau, Helsinki), ‘Negotiating Anti-Semtisim on the opera stage: Wäinö Sola’s adaptation of La Juive at the Finnish National Opera (1925)’ (Mawrth)

2015

  • Dr Paul Rodmell (Prifysgol Birmingham), 'Revisiting Edward Loder (1809-1865): The Operas Reconsidered’ (Tachwedd)

Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

2022

  • Yr Athro Jan Smaczny (Emeritws ym Mhrifysgol y Frenhines Belfast), Tomáš Hanus (prif arweinydd WNO), Elizabeth Llewellyn (soprano), 'Discovering Jenůfa' (Chwefror)

2021

  • 'Caruso yn 100: The Legacy of an Operatic Icon’, mewn cydweithrediad â Dr Carlo Cenciarelli, Dr Barbara Gentili, yr Athro Alexandra Wilson (Prifysgol Oxford Brookes) ac Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru Adam Gilbert (Medi)

2020

  • Dr Clair Rowden, 'Darganfod Les Vêpres siciliennes Verdi', mewn cydweithrediad â Chyfeillion WNO, Prifysgol Caerdydd (Chwefror)

2019

  • Dr Clair Rowden, 'Carmen: Perfformio, Perfformwyr a Chynyrchiadau’, mewn cydweithrediad â Chyfeillion WNO, Prifysgol Caerdydd (Medi)

2016

  • 'Coed Mametz, barddoniaeth a chân', Diwrnod astudio cyhoeddus mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan y Mileniwm (Mai)

Gweithdai i fyfyrwyr a'r cyhoedd

2022

  • 'Ieithoedd Cerddoriaeth: Gweithdy Creadigol Rhyngddisgyblaethol’, gyda chydweithrediad Opera Cenedlaethol Cymru, Dr Ben Davis (CIRO) a Dr Peter Morgan Barnes (libretydd a chyfarwyddwr llawrydd) (Mawrth)

2021

  • ‘Ieithoedd Opera: Gweithdy Creadigol’, gweithdy ar-lein, gyda chydweithrediad Dr Ben Davis (cyfarwyddwr), a Themba Mvula (bariton) (Mawrth)

2019

  • 'Deall Opera: Anturiaethau Uwchdeitlo’, Opera Cenedlaethol Cymru, gyda chydweithrediad Dr Ben Davis (Mawrth)

2017

  • ‘Creu, cyfieithu ac uwchdeitlo opera’, Opera Cenedlaethol Cymru (Mawrth)

2016

  • Gweithdy cyfansoddwyr gyda WNO, Iain Bell ac Elena Langer, wedi’i hwyluso gan Dr Robert Fokkens

Cynadleddau rhyngwladol

2017

  • Carmen Canwr y Byd, cynhadledd ryngwladol ar y cyd â BBC Canwr y Byd Caerdydd, gan gynnwys gweithdai cyhoeddus gyda’r cyfarwyddwr opera o fri Annabel Arden a’r Fonesig Kiri Te Kanawa, a drefnwyd gan Dr Clair Rowden (Mehefin)

2016

  • ‘Creu Artistig Rhyngwladol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a drefnwyd ar y cyd gan Dr Monika Hennemann a Dr Clair Rowden (Tachwedd) (gweler isod)

2014

  • 'Cyfieithu mewn Cerddoriaeth: Symposiwm Rhyngddisgyblaethol Rhyngwladol’, Prifysgol Caerdydd, a drefnwyd ar y cyd gan Dr Monika Hennemann, Dr Clair Rowden, a Dr Cristina Marinetti (Mai)
    • Roedd yn cynnwys ‘Weill acts', darlith berfformio yn archwilio 'The Seven Deadly Sins' mewn cyfieithiad gan Sophie Rashbrook (cyfarwyddwr) a Sian Cameron (mezzosoprano) a dderbyniodd grant datblygu bach gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

2013

  • ‘Stages of Death: Men, Women and Suffering in Opera and Ballet’, rhan o’r symposiwm rhyngddisgyblaethol Before I die: A festival for the living about dying, Prifysgol Caerdydd.

Commemorating WWI: Conflict and Creativity (2016)

Cynlluniwyd nifer o ddigwyddiadau yn 2016 i gyd-fynd ag opera newydd a gomisiynwyd gan WNO,  In Parenthesis – addasiad o gerdd epig David Jones o’r Rhyfel Byd Cyntaf o’r un teitl – gan y libretwyr Emma Jenkins a David Antrobus, a’r cyfansoddwr Iain Bell, yn ogystal ag arddangosfa gydamserol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 'Uffern yw Rhyfel: Celf a Barddoniaeth Coed Mametz’, lle bu brasluniau gan David Jones yn cael eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2016, bydd CIRO yn cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus amser cinio dydd Gwener yng Nghanolfan y Mileniwm, diwrnod astudio ar 'Mametz, barddoniaeth a chân', a symposiwm rhyngwladol 'Creu Cerddorol ac Artistig yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf' mewn cydweithrediad â Phrifysgol KU Leuven a Heidelberg, gan gynnwys datganiad gan Syr Thomas Allen o ganeuon Seisnig, a Cherddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn perfformio sgôr ffilm newydd Laura Rossi yn fyw wrth sgrinio ffilm 1916 'The Battle of the Somme' gan Geoffrey Malins a John McDowell.

Cefnogwyd y gyfres gyfan o ddigwyddiadau gan Gymrodoriaeth Cultural Encounters yr AHRC.

Daeth y gynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol ‘Cyfieithu mewn Cerddoriaeth’ yn 2014 ag ymarferwyr opera a chyfieithu ynghyd o brif dai opera, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol ac Opera North, ynghyd ag academyddion, gan sbarduno trafodaeth ysgogol ar uwchdeitlau, hygyrchedd opera, cyfieithu cerddoriaeth boblogaidd o fewn fframwaith amlddisgyblaethol a moeseg cyfieithu.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.