Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu a defnyddio technegau sbectrosgopeg, gan gynnwys cyseinedd parafagnetig electronau a sbectrosgopeg mwyhau ceudod, yn ogystal â dulliau cyfrifiadurol modern, i’w defnyddio gyda rhywogaethau sydd o ddiddordeb cemegol a biolegol, megis deall strwythur a deinameg rhyngolynnau adweithiol, catalyddion a biofoleciwlau.

Mae ein diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau sbectrosgopeg uwch a’u cymhwyso, ynghyd ag ymchwil ddamcaniaethol sylfaenol i adeiledd electronig a moleciwlaidd.

Ymhlith ein prif gryfderau yw Cyseiniant Paramagnetig Electron (EPR) a sbectrosgopeg laser mwyhau ceudod, sy’n cael eu defnyddio i daflu goleuni ar fecanweithiau a phriodweddau rhywogaethau dros dro sy'n berthnasol i amrywiol feysydd mewn cemeg.

Mae’r gwaith damcaniaethol yn cynnwys datblygu dulliau newydd at ddibenion gwella cywirdeb a dibynadwyedd cyfrifiadau egwyddor gyntaf, wedi’u cymhwyso i ragfynegi a deall strwythur ac adweithedd moleciwlaidd, a rhyngweithiadau rhyng-foleciwlaidd a rhai o fewn y moleciwl nad ydynt yn gofalent.

Caiff llawer iawn o'n gwaith ei wneud ar y cyd ag adrannau ymchwil eraill, gan gynnwys Catalysis a Gwyddoniaeth Ryngwynebol, Cemeg Fiolegol, a Synthesis Moleciwlaidd.

Ymchwil

Diddordebau ymchwil

Mae gan y grŵp amrediad eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys:

Sut y defnyddir Cyseiniant Paramagnetig Electron (EPR)

  • Dealltwriaeth fecanyddol o lwybrau adweitheddau mewn catalysis unffurf
  • Ymchwilio i ffotocatalysis golau gweladwy o systemau metel ocsid
  • Canfod y rôl y mae rhyngolynnau radical rhydd yn ei chwarae mewn ocsideiddio catalytig dethol, ac ymchwilio iddi
  • Deall y strwythur a’r newidiadau cydffurfiadol i gymhlygion metel trosiannol sy'n berthnasol i gatalysis anghymesur

Mae gennyn ni ddiddordeb hefyd mewn datblygu dulliau aflonyddu o astudio cineteg adweithiau catalytig, gan gynnwys gwasgedd ac aflonyddiadau a ysgogir gan MW, a hynny er mwyn monitro rhyngolynnau paramagnetig di-ecwilibriwm sy’n ymwneud ag adweithiau catalytig.

Sbectrosgopeg uwchfioled ac isgoch uwch

  • Ymchwilio i sbectrosgopeg mymrynnau nwyon atmosfferig a radicalau, gan ddefnyddio trawsnewidiadau optegol uwchfioled ac isgoch at ddibenion canfod hynod ddetholus
  • Defnyddio sbectrosgopeg isgoch i ymchwilio i fecanweithiau adweithiau atmosfferig radical a'u cineteg adweithiol
  • Defnyddio sbectrosgopeg isgoch i fynd i wraidd mecanweithiau cnewyllol aerosol a’u cyfansoddiad

Datblygu dulliau damcaniaethol newydd

  • Datblygu brasamcanion a dulliau cyfrifiannu newydd at ddibenion gwella cywirdeb a dibynadwyedd strwythur electronig moleciwlaidd egwyddor gyntaf
  • Rhoi dulliau ab initio ar waith ar gyfer moleciwlau mawr, gan gynnwys methodoleg graddio llinellol, a dulliau mewnblannu hybrid
  • Cyfrifiadura perfformiad uchel, gan gynnwys cyfrifiadura cyfochrog

Cymhwyso dulliau damcaniaethol

  • Astudiaethau damcaniaethol o ryngweithiadau nad ydynt yn gofalent, gan gynnwys bondio hydrogen a phentyrru π, a'u rôl mewn moleciwlau biolegol a chyffuriau
  • Priodweddau moleciwlaidd i ddisgrifio a rhagfynegi rhyngweithiadau rhyng-foleciwlaidd a rhai o fewn y moleciwl
  • Rhagfynegi hydoddiant a chludo cyfansoddion fferyllol a diwydiannol
  • Ymchwil ddamcaniaethol ar fondio cemegol ac adweithedd mewn cyfansoddion organig ac anorganig

Cewch chi hyd i ragor o fanylion am aelodau’r grŵp a’u diddordebau ymchwil drwy edrych ar eu proffiliau unigol.

Cwrdd â’r tîm

Group leader

Staff academaidd

Ysgolion

Yr Ysgol Cemeg

Mynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif yw diben ein hymchwil a’n haddysg sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol.

Y Camau nesaf

academic-school

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.