Ewch i’r prif gynnwys

Y Llinell Maginot

Roedd gwrthgloddiau’r Llinell Maginot a adeiladwyd ar hyd ffiniau Ffrainc â’r Almaen a'r Eidal yn gamp beirianyddol ryfeddol y 1930au - ac a gostiodd dros €7 biliwn ym mhrisiau heddiw.

Ymhlith y miliwn o filwyr a’i gwasanaethodd yr oedd dau lywydd Ffrainc, Charles de Gaulle a François Mitterrand, y cyfansoddwr Olivier Messiaen, a'r athronydd, Jean-Paul Sartre.

Er hynny, gwnaeth y trechiad catastroffig a ddigwyddodd yn 1940 droi’r gwrthgloddiau hyn yn symbol o ddirywiaeth genedlaethol. Heddiw, mae haneswyr yn gwrthod yr ystrydeb hon ac yn canolbwyntio yn lle ar y brwydrau pwysig yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd a drodd y fantol, gan roi llai o bwyslais ar y Llinell Maginot a’u gosod o’r neilltu yn y drafodaeth.

Manylion

Llun o bentref Lembach o floc 5
Llun o bentref Lembach o floc 5 gan Sylvainlouis – Ei waith ei hun, CC BY-SA 3.0

Dangosa’r prosiect rhyngddisgyblaethol hwn mai ymdrech ryfygus i adfer hierarchaeth yn y fyddin, gwladwriaeth, cymdeithas, a’r amgylchedd naturiol a fu’r gwrthgloddiau, a hynny yn sgil y Rhyfel Mawr, a’r cynnwrf a dinistr dirfawr a achoswyd ganddo. Cynlluniwyd y gwrthgloddiau hyn er mwyn helpu i ail-integreiddio y dalaith Almaeneg, Alsace-Lorraine, yn ôl i Ffrainc ar ôl pum degawd o gyfeddiannaeth gan yr Almaen. Gwnaeth y broses o gynllunio’r gwrthgloddiau dynnu ar wyddoniaeth reoli a oedd yn dechrau ffrwtian, arferion gwaith y cyfnod (‘Taylorist’), a phensaernïaeth a threfoliaeth fodernaidd a rhanbarthol yn arddull neo-glasurol. Ei nod yn y bôn oedd 'perffeithio' ffiniau Ffrainc yn dopograffig a rheoleiddio coedwigoedd ac afonydd at ddibenion amddiffyn cenedlaethol.

Eto i gyd, roedd y gwrthgloddiau hyn yn gwbl amhoblogaidd ymysg y corfflu o filwyr. Cafodd y rhain eu haddasu, eu cyd-gynhyrchu a'u dymchwel yn aml gan filwyr o’r Almaen, y boblogaeth sifil, a chan yr aer llaith a phridd o’u hamgylch. Bu canfyddiadau’r cyhoedd ohonynt deillio’n fwy o genres gwahanol o’r diwylliant poblogaidd lle cawson nhw eu cynrychioli - megis y genre llofruddiaeth-ddirgelwch a ffuglen wyddonol - yn hytrach nag o unrhyw bropaganda swyddogol. Ni chyflawnwyd y nod o harmoneiddio bodau dynol, peiriannau a'r amgylchedd naturiol at ddibenion amddiffyn cenedlaethol.

Prif Ymchwilydd