Gwrando ar yr archif: Dadansoddiad traws-ddiwylliannol o archifau sain bywyd gwyllt Ewrop, 1950 hyd heddiw
Daeth archifau seiniau bywyd gwyllt i’r amlwg yn safleoedd setiau data gwyddonol arbenigol yn ystod yr 20fed ganrif gan roi cyfle i astudio seiniau anifeiliaid yn ogystal â galluogi gwyddonwyr a’r rhai sy’n frwd dros fywyd gwyllt i adnabod rhywogaethau.
Bydd y prosiect ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ddau archifdy sain mwyaf Ewrop ym maes bywyd gwyllt: Casgliad Seiniau Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol y Llyfrgell Brydeinig, ac Archif Seiniau Anifeiliaid Amgueddfa Natur Berlin, i archwilio:
- sut mae’r archifau wedi’u cynhyrchu
- sut mae archifdai’n cadw, yn lledaenu ac yn defnyddio recordiadau sain
- sut mae technolegau, technegau, diwylliannau gwrando a moeseg ym maes recordio wedi effeithio ar amcanion, swyddogaethau a dibenion recordiadau sain
Archifau seiniau
Yn ail hanner yr 20fed ganrif, dechreuodd sefydliadau ledled y byd archifau seiniau bywyd gwyllt i gadw recordiadau o seiniau anifeiliaid gwyllt a chaeth.
Yn sgîl cyflwyno technolegau recordio newydd, enillodd yr archifau hynny eu plwyf yn ffynonellau pwysig o ddata gwyddonol ar gyfer astudio sut mae anifeiliaid yn cyfathrebu trwy seiniau yn ogystal â galluogi gwyddonwyr a’r rhai sy’n frwd dros fywyd gwyllt i adnabod rhywogaethau.
WES ac ASA
Casgliad Seiniau Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain ac Archif Seiniau Anifeiliaid Amgueddfa Natur Berlin yw dau archifdy mwyaf Ewrop o ran nifer y recordiadau a’r gwahanol rywogaethau.
Wedi'i sefydlu ym 1969 gan Patrick Sellar, recordydd bywyd gwyllt amatur toreithiog, a Jeffery Boswall, lluniwr ffilmiau bywyd gwyllt o fri, mae archif WES bellach yn rhan o Archif Seiniau’r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, lle mae 6.5 miliwn o recordiadau o bob math, gan gynnwys hanes llafar, cerddoriaeth a drama. Mae tua 220,000 o’r rheiny’n recordiadau WES.
Sŵolegydd ac arbenigwr seiniau bywyd gwyllt o’r enw Günter Tembrock (1918-2011) sefydlodd archifdy Berlin ym 1951. Mae tua 120,000 o recordiadau yn y casgliad hwnnw, ac mae’n cynyddu drwy’r amser o ganlyniad i dderbyn a phrynu casgliadau cyfan o seiniau anifeiliaid.
Er mai o ardal Berlin a Brandenburg y daeth y recordiadau cyntaf yn bennaf, mae’r archifdy wedi ychwanegu recordiadau o sawl ardal ledled y byd ers y 1990au.
Casgliadau prin
Ymhlith y casgliadau prin mae recordiadau gan alldaith gyntaf Gweriniaeth Dwyrain yr Almaen i’r Antarctig, Jean-Claude Roché (adaregydd o Ffrainc), Gerhard Thielcke (amgylcheddwr a chyd-sylfaenydd Ffederasiwn yr Almaen dros yr Amgylchedd a Chadwraeth Natur) a Hildegard Strübing (sŵolegydd ac arloeswr astudio cryndodau o Ferlin).
Ers 1995, mae'r archifdy’n rhan o Amgueddfa Natur Berlin, un o dair amgueddfa hanes natur yr Almaen, a sefydlwyd ym 1810 yn rhan o Brifysgol Humboldt Berlin.
Cwestiynau ymchwil
Y pum cwestiwn ymchwil canlynol sy’n llywio’r prosiect:
- Sut cafodd yr archifau eu hadeiladu a'u cyfreithloni yn adnoddau gwyddonol?
- Sut mae’r archifau’n cael eu hatgynhyrchu a'u cynnal?
- Pa rôl sydd iddyn nhw yn y byd cyfoes?
- Pa fathau o wrando mae'r ddwy archifdy yn eu hwyluso, a beth sy'n cael ei ystyried o werth clywedol?
- Beth yw'r heriau moesegol a gwleidyddol o ran gweithio ag archifau seiniau?
Tîm y prosiect
Prif ymchwilydd

Dr Jonathan Prior
Senior Lecturer in Human Geography
Tîm
-
Junior Professor for Geography of Gender in Human-Environment-Systems Department of Geography, Humboldt-Universität zu Berlin
Cefnogaeth
Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: