Ewch i’r prif gynnwys

Topologic: gwella cynrychiolaeth gofod mewn amgylcheddau modelu 3D

Topologic toolkit
Topologic toolkit

Nod y prosiect ymchwil yw defnyddio topoleg gyfrifiadurol i gynorthwyo gyda chreu a dadansoddi'r modelau gwybodaeth adeiladu cysyniadol ysgafnaf, mwyaf dealladwy.

Mae adeiladau'n amgáu ac yn rhannu gofod a chânt eu hadeiladu drwy gyfosod cydrannau cysylltiedig. Fodd bynnag, nid yw cymwysiadau modelu gwybodaeth adeiladu confensiynol yn modelu'n benodol sut y caiff gofod ei amgáu. Er y gallai fod yn bosibl dod i gasgliad anuniongyrchol am y gofodau amgaeedig o safle cydrannau ffisegol yr adeilad, mae dilysrwydd y gynrychiolaeth hon yn dibynnu ar union gysylltedd y cydrannau ffisegol ffiniol, na ellir dibynnu arnynt.

Hyd yn oed pe bai'r dull hwn yn hyfyw, mae'r lefel o fanylion mewn modelau gwybodaeth adeiladu yn aml yn rhy gymhleth ar gyfer y math hwn o ddadansoddiad. Un datrysiad posibl yw defnyddio topoleg ffurfiol i gynrychioli'r ffurfiau gwahanol niferus o rannu a chysylltedd gofodol a materol a geir mewn adeiladau. Felly, amcan y prosiect ymchwil oedd datblygu offerynnau dylunio cyfrifiadurol yn seiliedig ar egwyddorion topolegol manwl ond a gyflwynir mewn ffyrdd sy'n ddealladwy i ddefnyddwyr pensaernïol a allai fod ag ychydig yn unig o brofiad o dopoleg.

Arweiniodd y prosiect ymchwil at greu lyfrgell meddalwedd 'Topologic' ffynhonnell agored sy'n cyfuno nifer o gysyniadau topolegol sy'n berthnasol i bensaernïaeth mewn un pecyn cymorth meddalwedd. Nod pecyn cymorth Topologic yw cynorthwyo i greu'r modelau cysyniadol mwyaf ysgafn a dealladwy mewn topoleg bensaernïol. Y bwriad yw y gall Topologic fod yn gyfrwng effeithiol rhwng byd haniaethol topoleg a byd ymarferol pensaernïaeth a pheirianneg adeiladu.

Yr her wrth ddatblygu'r meddalwedd fu cynnal defnydd damcaniaethol gyson o gysyniadau a therminoleg dopolegol ac eto eu cysylltu â chysyniadau mwy amwys gofod a 'chysylltedd' a geir mewn pensaernïaeth. Gan fod iaith ffurfiol topoleg yn cyd-fynd yn dda â gofynion mewnbynnu data cymwysiadau fel efelychu ynni a dadansoddi strwythurol, mae Topologic yn annog archwilio dylunio ac efelychu perfformiad yn y cyfnod dylunio cysyniadol.

Cyswllt

Yr Athro Wassim Jabi

Yr Athro Wassim Jabi

Chair in Computational Methods in Architecture

Email
jabiw@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5981