Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425

Mae rhyddiaith y cyfnod canol wedi goroesi mewn dros bedwar ugain o lawysgrifau a luniwyd rhwng tua 1250 a 1450. Mae’r corff hwn yn cynnwys y cyfreithiau, gweithiau hanesyddol, crefyddol, meddygol, a gramadegol, chwedlau wedi eu cyfieithu o’r Lladin a’r Ffrangeg, ac, wrth gwrs, chwedlau’r Mabinogion. Bwriad y prosiect hwn yw trawsgrifio’r deunyddiau sy’n perthyn i tua 1350-1450 a’u cyflwyno i’r byd ar gryno-ddisg archwiliadwy.

Ar wefan Prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425 cyflwynir corff chwiliadwy o ryddiaith yr Oesoedd Canol. Gellwch weld cynnwys 28 o lawysgrifau yma: rhyw 2.8 miliwn o eiriau. Mae’r llawysgrifau’n ymgorffori dros 100 o destunau ar wahanol feysydd.

Manylion

Dechreuwyd ar y trawsgrifio yn 1999: rhwng hynny a diwedd Ebrill 2004 ariannwyd y gwaith gan Gronfa Nawdd Academaidd Prifysgol Cymru a’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Cynigiwyd arweiniad a chyngor gan weithgor yn cynnwys aelodau o Adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru, a’r Llyfrgell Genedlaethol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Patrick Sims-Williams. Yn 2002 cyhoeddwyd cynnyrch y drydedd ganrif ar ddeg, a drawsgrifiwyd gan Graham Isaac a Simon Rodway, ar y CD-ROM Rhyddiaith Gymraeg o Lawysgrifau’r 13eg Ganrif.

Yn 2000, cyflogwyd y Dr D. Mark Smith yn ymchwilydd a symudodd y gwaith trawsgrifio o Aberystwyth i Gaerdydd.

Hyd at 2002 nid anelwyd at gynhyrchu mwy na thrawsgrifiadau. Ond yn 2003 ehangwyd y gorwelion drwy gyflogi arbenigwr ar Dechnoleg Gwybodaeth, Mick van Rootseler, i ddatblygu model addas ar gyfer amgodio’r testunau yn unol â’r safonau cydwladol cydnabyddedig. Cydlynir y gwaith hwn gan yr Athro Peter Wynn Thomas. Bydd y cymal hwn o’r prosiect yn esgor ar ddisg arall, a fydd yn cynnwys y testunau a oroesodd rhwng tua 1250 a 1350.