Ewch i’r prif gynnwys

'Esboniadur' newyddiaduraeth a'r cyfryngau

Nod y prosiect hwn yw creu adnodd ar-lein ar ffurf cyfres o gofnodion chwiliadwy ar 'Y Porth' - adnodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

E-lyfr academaidd cyfoes a pherthnasol yw hwn sy'n trafod prif syniadau newyddiaduraeth a'r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y diffiniadau'n ddefnyddiol i fyfyrwyr yn y brifysgol, yn ogystal â disgyblion ysgol a cholegau sydd â diddordeb mewn newyddiaduraeth a'r cyfryngau.

Bydd hwn hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer rhai sy'n bwriadu cychwyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Yn ogystal â bod yn ased pwysig i'r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr, bydd hefyd o ddiddordeb i ymarferwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes newyddiaduraeth.

Manylion

  • Cyfieithu ac addasu'r werslyfr presennol, Keywords in News and Journalism Studies’ (Zelizer, B. and Allan, S. (2010) Keywords in News and Journalism Studies. Maidenhead: Open University Press).
  • Ymgynghori â diwydiant, gan gynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Golwg.
  • Diweddaru diffiniadau ac ychwanegu geiriau allweddol newydd drwy dynnu ar theori academaidd cyfredol.
  • Cyfweld â newyddiadurwyr a chyfoedion academaidd er mwyn ystyried y terminoleg cyfredol o fewn y diwydiant a'r byd academaidd.

Canlyniadau

Wedi i bob diffiniad gael ei lwytho i'r Esboniadur ar-lein, byddwn yn cynhyrchu PDF i'w lawrlwytho ar gael drwy Lyfrgell Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Caiff y gwaith academaidd hwn ei ychwanegu at restr ddarllen hanfodol pob modiwl iaith Gymraeg o fewn JOMEC a bydd yn ffurfio rhan greiddiol o astudiaethau newyddiaduraeth ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgysylltu â'r ddarpariaeth. Gobeithiwn fydd brifysgolion eraill yn efelychu hyn ac yn ei ystyried yn adnodd hanfodol ar gyfer myfyrwyr ac academyddion sy'n siarad Cymraeg.

Cafodd yr adnodd ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, yn sicrhau sylw addas wrth y cyfryngau.