Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd mewn Newyddiaduraeth Ymchwiliol (SCOOP)

    Amcan SCOOP yw astudio effaith technoleg arloesol a mecanweithiau ariannu newydd ar rôl ac arferion gwaith newyddiaduraeth ymchwiliol.

    Dylai newyddiaduraeth ymchwilio chwarae rôl allweddol o fewn democratiaeth, ond mae datblygiadau yn y cyfryngau digidol a thechnoleg newydd (dronau, camerâu symudol) a'r newid mewn modelau ariannu (cyllido torfol) yn trawsnewid hyn. Mae sefydliadau cyfryngau traddodiadol yn cael trafferth wrth addasu i batrymau newydd, gweithio'n fwy effeithlon â llai o newyddiadurwyr, ac i ganfod modelau cyllido newydd ar gyfer newyddiaduraeth ymchwiliol, sy'n adnodd-ddwys.

    Mae astudiaethau'n dangos bod arferion ac arbenigwyr amgen wedi dod i'r amlwg, ac wedi dod yn rhan o strategaeth y cyfryngau - yn ffordd i ennill cyfranddaliadau yn y farchnad, a chwsmeriaid newydd yn y byd digidol. Ond mae yna fwlch yn y gwaith ymchwil am sut mae newyddiaduraeth ymchwiliol ar lanw a thrai. Bydd SCOOP yn ceisio llenwi'r bwlch hwn gyda chanfyddiadau am fodelau cyllido amgen, defnydd newydd a chreadigol o dechnoleg a'r cyfryngau cymdeithasol, a ffurf newydd o gydweithio yn y DU.

    Mae dadansoddiad ethnograffig cynhwysfawr o sut mae newyddiadurwyr ymchwilio yng nghyfryngau'r DU yn addasu i'r heriau a'r posibiliadau mae'r dechnoleg yma yn eu creu; bydd canfyddiadau o wlad â thraddodiad hir mewn newyddiaduraeth ymchwiliol yn llywio newyddiadurwyr, academyddion, penderfynwyr, a'r cyhoedd ehangach sydd ar hyn o bryd â diffyg cyllid a thraddodiadau ar gyfer newyddiaduraeth ymchwiliol.

  1. Er mwyn mapio sut mae newyddiadurwyr yn cyflawni eu rolau fel cyrff gwarchod mewn cymdeithasau ddemocrataidd.
  2. I berfformio dadansoddiad ethnograffig sy'n cynhyrchu gwybodaeth newydd am sut mae newyddiadurwyr ymchwiliol yn addasu i dechnoleg sy'n newid, strwythurau sefydliadol, a mecanweithiau cyllido.
  3. I ddadansoddi ac adrodd ar sut mae'r cyfryngau digidol a thechnoleg newydd yn newid ymarferion gwaith.
  4. I fapio sut mae newyddiaduraeth ymchwiliol yn addasu i fodelau busnes newydd.

Manylion

The research project used an ethnographic analysis of culture and people, complemented by semi-structured interviews. In addition several expert-interviews will be conducted.

Canlyniadau

Allbwn y prosiect ymchwil yma yw diweddaru'r maes newyddiaduraeth, sy'n newid yn gyflym, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ymysg academyddion ac ymarferwyr, yn bwriadu dod a'r ddau ynghyd. Un o'r nodweddion ddiweddaraf pwysig o fewn newyddiaduraeth ymchwiliol yw'r cydweithio ar draws gororau, a nod y prosiect hwn yw holi o le ddaeth y fath gydweithio a beth sy'n cael ei gynnwys yn rhan ohono - yn rhyngwladol ac yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol hefyd.