Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Etholiad Cymru

Mae Astudiaeth Etholiad Cymru yn astudiaeth academaidd annibynnol a ariennir gan yr ESRC o wleidyddiaeth, etholiadau ac ymddygiad pleidleisio Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

Mae astudiaethau blaenorol am etholiadau yng Nghymru wedi edrych ar bleidleisio ac agweddau ym mhob etholiad datganoledig ers 1999, refferenda 1979, 1997 a 2011, ac etholiad cyffredinol y DG yn 2019.

Mae'r astudiaeth yn cynnwys:

  • Astudiaeth o bleidleiswyr, gan gynnwys arolwg chwe thon o sampl gynrychioliadol o etholwyr Cymru – yr arolwg mwyaf erioed o'i fath.
  • Dealltwriaeth newydd ac arwyddocaol o rôl hunaniaeth genedlaethol.
  • Data am ddewisiadau cyfansoddiadol a chymeradwyo arweinwyr pleidiau.
  • Cyfres o ddigwyddiadau a darlithoedd yn rhannu'r canfyddiadau.

Mae data ac allbynnau Astudiaeth Etholiad Cymru i’w gweld ar wefan bwrpasol yr astudiaeth.