Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd o’n helpu

Mum and newborn Rundu

Byddwn ni’n ymateb i gais partner am gymorth trwy geisio diwallu’r anghenion mae wedi’u pennu yn unol â’n bwriad datganedig i leddfu tlodi, hybu iechyd a diogelu’r amgylchedd.

Mae’n partneriaeth yn galluogi staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia i anelu at y nodau uwch hynny ar y cyd.

Partneriaid

I gyflawni ein nodau, byddwn ni’n cydweithio â phartneriaid proffesiynol ychwanegol. Os daw cyfle, ac os bydd gan rywun y medrau priodol, efallai y bydd Prosiect Phoenix yn gofyn am ei gymorth. Bydd angen ar bawb sy’n ymwneud â’r prosiect ddiddordeb, hyblygrwydd, egni, agwedd dringar a pharodrwydd i wrando a chydweithredu.

Yn aml, bydd ein partneriaid mwyaf effeithiol yn broffesiynolion sydd o’r un meddwl â ni. Er enghraifft, rydyn ni’n cydweithio â:

  • GIG Cymru a Gweinyddiaeth Iechyd Namibia
  • heddluoedd a gwasanaethau ambiwlansys Cymru a Namibia
  • ysgolion ynghylch prosiectau grymuso
  • Prifysgolion sy'n ategu ein gwaith ac yn ychwanegu gwerth ato ym Mhrydain ac Affrica: Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn arbennig o bwysig i ni. At hynny, rydyn ni wrthi'n datblygu ymchwil berthnasol newydd ar y cyd â Phrifysgol Sambia
  • Llywodraeth Cymru a Chymru dros Affrica ynghylch Cyfleoedd Rhyngwladol i Ddysgu (mae hawl gan Namibia i fanteisio ar y cynllun hwnnw).

Cyfleoedd Rhyngwladol i Ddysgu

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn ffordd gyffrous o’ch herio eich hun a chyfrannu.

Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i gydweithio’n agos â sefydliadau yn Affrica trwy lywio prosiectau penodol. Trwy orchwylion ymestynnol, bydd yn gofyn ichi weithio’n fwy creadigol gan gryfhau eich hunanymwybyddiaeth a phrofi’ch cadernid.

Gall y medrau a’r ddealltwriaeth sy’n deillio o’r rhaglen fod yn werthfawr iawn i chi, eich sefydliad a Chymru. Gan fod y rhaglen yn rhan o ddatblygu proffesiynol parhaus, rhaid i’ch sefydliad barhau i dalu’ch cyflog.

Bydd y cynllun yn talu treuliau, ond nid cyflogau.

Cysylltu â ni

Mae croeso ichi gysylltu â ni i ddysgu rhagor am gyfleoedd i gydweithio â ni.

Prosiect Phoenix