Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Members of the project team

Prosiect Phoenix yw’r bartneriaeth ryngwladol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia sy’n ymdrin â’r genhadaeth sifig.

Rydym yn cefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o ran ceisio lleihau tlodi, hybu iechyd a helpu i ddatblygu’r amgylchedd mewn ffordd gynaliadwy.

Ein heffaith

Mae'r bartneriaeth hon, sydd wedi'i hen sefydlu bellach, wedi gwella ansawdd bywyd pobl Namibia a Chymru drwy ddysgu ar y cyd. Er mwyn cyflawni ein haddewidion, mae ein his-brosiectau wedi creu’r effeithiau canlynol:

  • addysgu meddygon a nyrsys ynghylch gofalu am y cleifion gwannaf yn ystod llawdriniaeth
  • creu sector meddalwedd ffyniannus yn Namibia
  • ysgogi pobl ifanc i werthfawrogi diwylliant ac ieithoedd y wlad
  • galluogi’r heddlu a gwasanaeth yr ambiwlansys i achub bywydau ar ôl damweiniau ar y ffyrdd

Y dyfodol

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, hyd at 2027, byddwn ni’n canolbwyntio ar addysg ac ymchwil a fydd yn creu effaith fawr er lles Prifysgol Namibia a’r wlad i gyd yn sgîl gweithgareddau megis:

  • datblygu a chyflwyno addysg ac ymchwil ôl-raddedig
  • iechyd a lles da
  • swyddi a thwf economaidd
  • datblygu sgiliau proffesiynol
  • dŵr glân a glanweithdra
  • gweithredu ar yr hinsawdd

Ein yrhaeddiad

Mae gan y bartneriaeth hyd yma hanes rhagorol o gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Namibia; yn arbennig, iechyd a lles da, addysg o safon a gweithredu ar yr hinsawdd.

Cysylltu â ni

Prosiect Phoenix