Ewch i’r prif gynnwys

Lansio Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Rhyngbroffesiynol

18 Mawrth 2024

ISLA students and staff at the final presentation
ISLA students and staff at the final presentation

Yn dilyn tendr llwyddiannus AaGIC a dwy flynedd o ddatblygiad, lansiwyd yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Rhyngbroffesiynol (ISLA) yn semester yr hydref gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Ysgol Deintyddiaeth.

Ym mis Chwefror cwblhaoddodd y myfyrwyr y rhaglen gyda chyflwyniad olaf i ddathlu eu maes diddordeb. Mae’r rhaglen allgyrsiol bwrpasol hon yn:

  • cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau arwain a gweithio ar brosiect gwella yn annibynnol neu gyda myfyrwyr eraill
  • cynnig mynediad at brofiadau arweinyddiaeth ymarferol gan siaradwyr sydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi
  • cynnig hyfforddiant unigol ac yn annog gwaith grŵp a datrys problemau gyda Setiau Dysgu drwy Weithredu
  • annog myfyrwyr i ystyried a thrafod yr heriau a'r cyfleoedd o weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • cefnogi’r twf yn niferoedd y myfyrwyr o ran eu datblygiad personol a phroffesiynol
  • cefnogi’r garfan drwy gydol eu blwyddyn olaf o addysg, ac wrth iddyn nhw bontio i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Nod profiad yr academi arweinyddiaeth yw rhoi hyder i fyfyrwyr ddylanwadu ac arwain gwelliant mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r nod cyffredin o fod o fudd i bobl Cymru a thu hwnt.

Datblygodd yr Athro Teena Clouston a Dr Alison H. James y rhaglen ISLA gydag academyddion o'r ddwy ysgol, ein myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol o'r GIG, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac AaGIC.

Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr glywed gan siaradwyr ac arweinwyr o leoliadau ymarfer, i gael hyfforddiant personol ac i gydweithio mewn amgylchedd cefnogol a rhyngddisgyblaethol. Rydym yn gyffrous iawn i weld cynnydd y myfyrwyr ac edrychwn ymlaen at ledaenu gwerthusiad y rhaglen o fewn y Brifysgol ac yn ehangach.
Dr Alison James Darllennydd: Arweinyddiaeth Gofal Iechyd

Gwybodaeth am y trefnwyr

Mae’r Athro Teena Clouston yn Athro mewn Therapi Galwedigaethol a Lles yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae ei meysydd o ddiddordeb yn cynnwys  rhyngberthnasau rhwng cysyniadau cymdeithasol-wleidyddol-ddiwylliannol a gwerthoedd ym maes iechyd a lles.  Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylanwad egwyddorion neoryddfrydol ar gydbwysedd, lles, ystyr bersonol a chreadigrwydd mewn bywyd.  Er ei bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y cymhelliant hwn i ddwysáu gwaith a pherfformedd, a’r cynnydd mewn unigoliaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd yn y gweithle, mae hi hefyd yn ystyried effaith cysylltiadau ar sawl lefel e.e. y person ei hun, teulu, cymuned a byd natur. Mae Teena hefyd yn chwilfrydig ynghylch heriau ym maes o dysgu ac addysgu, gwerthoedd gofalgar a thosturiol mewn addysg uwch, a sut y caiff hyn ei gymhwyso i sicrhau gwydnwch a lles mewn ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol bob dydd. Gyda chefndir proffesiynol mewn arwain yn y GIG, ac ymarfer arbenigol mewn iechyd meddwl, therapi galwedigaethol a chwnsela, ymunodd Teena â Phrifysgol Caerdydd yn 1998 ac mae hi newydd ddathlu 25 mlynedd o weithio gyda ni yma yn y Brifysgol.

Mae Dr. Alison Heulwen James yn Ddarllenydd mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu arweinyddiaeth, diwylliant sefydliadol a gwella ansawdd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd y mae myfyrwyr gofal iechyd yn cael profiad o ddysgu arweinyddiaeth mewn addysg uwch, ac ymarfer clinigol a rôl emosiynau ar ddysgu. Mae Alison yn Nyrs Gofrestredig ac yn addysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Gofal Iechyd, yn ogystal â bod yn ymchwilydd. Mae'n aelod o Ganolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth, ac mae'n cael ei chyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion a llyfrau a adolygir gan gydweithwyr.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y rhaglen, e-bostiwch Cloustontj@caerdydd.ac.uk a jamesa43@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon