Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Peirianneg yn cynnal cynhadledd ymchwil lwyddiannus yn arddangos ymchwil o safon fyd-eang

27 Gorffennaf 2023

Yr Athro Emiliano Spezi, Cyfarwyddwr Ymchwil, ynghyd â dyfarnwyr yng Nghynhadledd Ymchwil Peirianneg Caerdydd.

Roedd yr Ysgol Peirianneg yn falch o gynnal ei Chynhadledd Ymchwil ym maes Peirianneg, gyntaf, yng Nghaerdydd y mis hwn, gan roi sylw i fentrau ymchwil blaengar y sefydliad.

Ag amrywiaeth o ran aelodau’r gynulleidfa – roedd gweithwyr proffesiynol o’r byd diwydiant, myfyrwyr, academyddion, a'r cyhoedd ymhlith y sawl oedd yn bresennol, bu'r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

Roedd y gynhadledd yn arddangos pum maes ymchwil strategol blaenllaw’r ysgol: Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a’u Dibenion, Ynni Cynaliadwy, Seilwaith Sifil, Gweithgynhyrchu Uwch a Pheirianneg ar gyfer Iechyd.

Dros raglen gyfoethog tri diwrnod o hyd, yn ystod y gynhadledd cafwyd trafodaethau panel diddorol gyda ffigurau blaenllaw o gyrff amlwg ym maes y llywodraeth a’r byd diwydiant megis Llywodraeth Cymru, Innovate UK, CSA Catapult, Arup, Atkins Global, WSP, ICE Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Flexicare Medical.

Cafwyd cyflwyniadau treiddgar gan yr Athro Ron Loveland, Cynghorydd Llywodraeth Cymru ynghylch Ynni, ac arweiniodd Dr Nick Singh, Prif Swyddog Technoleg CSA Catapult, y Cyfarfod Llawn Agoriadol dan gadeiryddiaeth yr Athro Rob Rolley, Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth yn Innovate UK KTN.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y digwyddiad bu i Wangwei Kong, Peiriannydd Arloesi yn y Grid Cenedlaethol rannu gwybodaeth ynghylch ymdrechion arloesol y cwmni tuag at gyflawni allyriadau sero net.

Roedd y gynhadledd hefyd yn dathlu rhagoriaeth ym maes ymchwil gyda seremoni wobrwyo yn anrhydeddu cyflwyniadau llafar a phosteri rhagorol. Y sawl a enillodd y gwobrau mawreddog hyn yng nghategori’r cyflwyniadau gorau oedd:

  • Peirianneg ym maes Iechyd: Angharad Miles
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a’u Cymwysiadau: Matthew Jordan
  • Seilwaith Sifil: Marwan Naaman
  • Gweithgynhyrchu Uwch: Kai Silver
  • Ynni Cynaliadwy: Joseph Harper
  • Cymwysiadau Peirianneg: P. Lugg-Widger

Enillwyr y gwobrau yn y categori cyflwyniadau poster gorau oedd:

  • Yn y Safle Cyntaf: Riccardo Maddalena
  • Yr Ail Safle: Giulia Cazzador
  • Y Trydydd Safle: Meirion Hills

Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymchwil, yr Athro Emiliano Spezi, “Hon oedd ein cynhadledd ymchwil, ysgol gyfan, gyntaf yn yr Ysgol Peirianneg ac roedd yn gyfle gwych i ni arddangos ein gwaith rhagorol. Hoffwn ddiolch i bob un o’r siaradwyr, cadeiryddion, panelwyr, a phawb oedd yn bresennol a sicrhaodd bod y digwyddiad hwn yn gryn lwyddiant. Edrychwn ymlaen at gynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf ac i ddangos ymhellach sut rydym yn ysgogi arloesedd er mwyn llywio dyfodol ymchwil ym maes peirianneg.”

Ddarganfod rhagor am yr Ysgol Peirianneg a'i mentrau ymchwil.

Rhannu’r stori hon