Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniad yr Adolygiad Gwella Ansawdd

14 Mai 2020

Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa
Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa

Rydym wedi cael canlyniad a dyfarniad positif mewn Adolygiad Gwella Ansawdd annibynnol. Dyma ragor am y broses adolygu ac ansawdd a safonau ein darpariaeth addysgol.

Mae'r Adolygiad Gwella Ansawdd yn cael ei gynnal pob chwe blynedd a dyma'r ffordd y mae darparwyr addysg uwch Cymru'n cael eu hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd i ddangos i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru bod yr addysg yr ydyn ni'n ei darparu o safon ac ansawdd academaidd priodol yn erbyn cyfres o ofynion rheoleiddiol gwaelodlin. Yn ogystal, roedd yr adolygiad yn edrych ar sut rydym yn cynllunio, gweithredu ac yn gwerthuso gwelliannau i brofiad dysgu myfyrwyr.

Ymwelodd y tîm adolygu â'r Brifysgol ym mis Chwefror a Mawrth 2020 i gwrdd ag aelodau staff, myfyrwyr, llywodraethwyr a darparwyr lleoliadau.

Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd, ni wnaeth y tîm adolygu unrhyw argymhellion gan ddyfarnu bod:

  • Prifysgol Caerdydd yn bodloni gofynion Rhan 1 Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd ar gyfer sicrwydd ansawdd mewnol.
  • Prifysgol Caerdydd yn bodloni gofynion rheoleiddiol gwaelodlin perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Cawsom ein canmol am y cyfleoedd a ddarperir gan ein interniaethau ymchwil ar y campws er mwyn i fyfyrwyr ymgysylltu â gweithgareddau ymchwil i wella eu dysgu a'u cyfleoedd gyrfa i'r dyfodol.

Amlygodd y tîm adolygu bod darparwyr lleoliadau'n canu clod myfyrwyr ar leoliad o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â'r ffordd y mae'r Brifysgol yn cysylltu â nhw a'r ffordd y mae'r lleoliadau wedi'u trefnu.

Cadarnhaodd y tîm adolygu hefyd y camau sy'n cael eu cymryd i wella'r broses fonitro blynyddol diwygiedig sy'n galluogi dull mwy ymatebol o ran addasu a gwella profiad myfyrwyr.

Er na wnaeth y tîm adolygu unrhyw argymhellion ffurfiol, byddwn yn creu cynllun gweithredu i adlewyrchu'r ystod eang o drafodaethau cynhyrchiol rhyngom ni a'r tîm adolygu ar ystod o weithgareddau dysgu ac addysgu.

Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i'r Brifysgol sy'n golygu bod gennym drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella ansawdd profiadau myfyrwyr.

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl staff, myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr a gymerodd ran ym mhroses gadarn yr ASA i fesur ein hansawdd a'n safonau.

"Mae'r adroddiad yn newyddion gwych i Brifysgol Caerdydd. Mae'n dangos bod popeth mewn trefn ac yn golygu y gall ein myfyrwyr fod yn hyderus yn ein safonau academaidd ac ansawdd eu haddysg.

“Er gwaetha'r adroddiad, nid ydym yn llaesu dwylo – yn enwedig yn yr adegau anodd a heriol hyn.

“Byddwn yn cymryd amser i adolygu a myfyrio ynghylch holl ganfyddiadau'r adroddiad. Rydym yn ymrwymedig i roi profiad rhagorol a chyson yn addysgol i’n myfyriwr, yn seiliedig ar ddysgu ac addysgu ardderchog i bob myfyriwr."

Darllenwch adroddiad yr Adolygiad Gwella Ansawdd

Ein hadolygiad sicrwydd ansawdd allanol olaf oedd yr Adolygiad Sefydliadol yn 2014.

Rhannu’r stori hon