Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd Prifysgol Caerdydd yn ailgychwyn ei gyrfa ymchwil gyda chymrodoriaeth i fynd i'r afael â cholli golwg

24 Ebrill 2025

Mae Dr Louise Terry, Darlithydd ac Optometrydd yn Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil Ymddiriedolaeth Daphne Jackson, a nawdd gan y Gymdeithas Macwlaidd, i’w cefnogi i ddychwelyd i ymchwil.

Mae Ymddiriedolaeth Daphne Jackson yn elusen sy'n helpu pobl i ailgychwyn eu gyrfaoedd ym maes ymchwil, yn dilyn seibiant mewn gyrfa oherwydd ymrwymiadau teuluol, problemau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu.

Sefydlwyd yr elusen ym 1992 er cof am yr Athro Daphne Jackson - yr Athro Ffiseg benywaidd cyntaf mewn prifysgol yn y DU - oedd yn cydnabod cymaint o ymchwilwyr benywaidd talentog oedd wedi gorfod ymgymryd â swyddi sgil yn dilyn seibiant mewn gyrfa, a hynny oherwydd diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i ailhyfforddi.

Graddiodd Dr Terry o Brifysgol Caerdydd gyda dosbarth cyntaf yn 2012 a doethuriaeth yn 2017, cyn derbyn swydd darlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, lle mae'n ysbrydoli ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o optometryddion.

"Yn ystod ei swydd fel darlithydd, derbyniodd Louise grant Heriau Byd-eang i ddatblygu cysylltiadau rhwng Ghana a Phrifysgol Caerdydd. Yn fwy diweddar, mae hi wedi ymweld â Phrifysgol Cape Coast yn Ghana gyda thîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd i feithrin perthynas rhwng y ddwy Ysgol Optometreg"
Dr Sally Bolton, Ymddiriedolaeth Daphne Jackson

Yn dilyn seibiant gyrfa oherwydd absenoldeb mamolaeth, gwnaeth Dr Terry gais am Gymrodoriaeth Ymchwil Ymddiriedolaeth Daphne Jackson, ac fe’i dyfarnwyd iddi. Bydd yn ei chefnogi i ddychwelyd at yrfa ymchwil sydd wrth ei bodd, fydd yn helpu i lunio dyfodol gwyddor optometreg a’r golwg.

Bydd prosiect tair blynedd Dr Terry yn ymchwilio i glefyd Stargardt. Dyma’r cyflwr llygaid etifeddol mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar y macwla, sy’n rhan o'r retina (meinwe sy'n sensitif i olau) ac sy'n gyfrifol am olwg canol y maes (yn debyg i ffilm mewn camera). Mae'r cyflwr fel arfer yn dechrau effeithio ar y golwg yn ystod plentyndod unigolyn, ac yn gwaethygu'n raddol. Mae’n gyflwr gwanychol ac nid oes modd gwella ohono.

"Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle gwych hwn i roi hwb i fy ymchwil yn dilyn seibiant gyrfa. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i gychwyn ar y prosiect"
Dr Louise Terry

Bydd prosiect tair blynedd Dr Terry yn ymchwilio i glefyd Stargardt. Dyma’r cyflwr llygaid etifeddol mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar y macwla, sy’n rhan o'r retina (meinwe sy'n sensitif i olau) ac sy'n gyfrifol am olwg canol y maes (yn debyg i ffilm mewn camera). Mae'r cyflwr fel arfer yn dechrau effeithio ar y golwg yn ystod plentyndod unigolyn, ac yn gwaethygu'n raddol. Mae’n gyflwr gwanychol ac nid oes modd gwella ohono.

Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i'r defnydd o ddelweddu densitometreg y retina (IRD), dyfais newydd a ddatblygwyd ar y cyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac a ddefnyddir i fesur pigmentau’r golwg yn y macwla, sy'n dweud wrthym pa mor dda mae'r retina yn gweithio. Bydd hi'n gweithio'n agos gyda chyd-grëwr y ddyfais, yr Athro Tom Margrain, yn ogystal â'i goruchwylwyr, yr Athro Marcela Votruba a Mrs Rhianon Reynolds.

Mae'r Gymdeithas Macwlaidd "yn falch iawn o noddi Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Daphne Jackson am y tro cyntaf, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r tîm i ddatblygu a hysbysebu'r cyfle. Rydym yn awyddus i gefnogi’r cyswllt rhwng pobl sy’n dioddef o glefyd macwlaidd a Louise yn ystod y gymrodoriaeth.”