Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan dros dro i ysbrydoli'r entrepreneuriaid ymysg myfyrwyr Caerdydd

8 Tachwedd 2017

Creative brain

Bydd canolfan dros dro i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau busnes a rhannu sylwadau yn hawlio'r sylw ym Mhrifysgol Caerdydd yr hydref hwn.

Yn rhan o ddathliadau yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-Eang, bydd y ganolfan yn trawsnewid cyntedd Prif Adeilad y Brifysgol yn ofod rhyngweithiol. Bydd modd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael cyngor yma a chyfle i weithio gydag eraill sydd â syniadau gwych.

Bydd digwyddiad arbennig hefyd yn rhan o'r wythnos hon, o 13 hyd at 17 Tachwedd, lle caiff myfyrwyr sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth SPARK IDEAS flynyddol y Brifysgol gyfle i drafod eu busnesau i noddwyr o Brifysgolion Santander, TramshedTech, S3 Advertising a Paperclip. Bydd gwobrau gwerth £5,000 yn eu cyfanrwydd.

Yn ôl Sean Hoare, Rheolwr Dros Dro Menter Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd: "Nod yr wythnos yw ysbrydoli, annog a rhoi boddhad i fyfyrwyr. Byddwn yn defnyddio'r lle a ddyluniwyd gan enillwyr blaenorol SPARK, sef CAUKIN, yn Oriel VJ, y Prif Adeilad er mwyn cynnal y digwyddiadau gyda'r siaradwyr gwadd a chynnig cyfle i alw heibio am gymorth. Byddwn hefyd yn cynnig cyfle i unrhyw ddod i eistedd, gweithio a rhannu syniadau."

Mae Menter a Dechrau Busnes yn rhan bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'n cynnig gweithdai, cystadlaethau a sesiynau sgiliau er mwyn helpu myfyrwyr roi syniadau a datblygiadau arloesol ar waith yn y byd go iawn.

Yn ystod yr hydref, bydd cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar gael i helpu myfyrwyr wrth wella eu sgiliau. Ymhlith y sesiynau ceir: 'Sut i asesu syniad posibl,' 'Sut i ddarganfod eich marchnad,' 'Meistroli eich cyflwyniad' a 'Sut i ddod o hyd i fuddsoddiad ar gyfer eich prosiect.'

Mae'r digwyddiad yn ategu menter 'Creu Sbarc' Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio tuag at annog entrepreneuriaeth ac arloesedd drwy ddod â'r byd academaidd a'r byd busnes yn agosach ar draws y wlad.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar Twitter @CardiffUniE, gwefan Enterprise neu ebostiwch enterprise@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Archwiliwch ein campysau a dysgu mwy am ein cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer ein myfyrwyr.