Ewch i’r prif gynnwys

Fflandrys a Chymru

1 Tachwedd 2017

Flanders and Wales

Y profiad Cymreig a Ffleminaidd o ymgyrch Passchendaele yw testun digwyddiad am ddim ym Mae Caerdydd y mis hwn.

Mewn cyfuniad unigryw o hanes, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf, daw'r symposiwm â haneswyr, awduron, beirdd ac ymarferwyr celf blaenllaw at ei gilydd mewn digwyddiad arbennig a noddir gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Fflandrys a Llywodraeth Cymru ar 9 Tachwedd.

Bydd y profiadau milwrol ym Meysydd Fflandrys a lletya ffoaduriaid o Wlad Belg ar draws Cymru, nad oes llawer yn gwybod amdano, yn cael sylw mewn diwrnod yn coffau un o ymgyrchoedd mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf a'i gyd-destun cymdeithasol a llenyddol ehangach.

Gelwir Passchendaele hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres, a pharodd am bedwar mis dychrynllyd yn 1917. Dechreuodd y Cynghreiriaid ymosod o Ymwthiad Ypres ym mis Gorffennaf. Byddai'r cyrch a barodd 105 diwrnod yn hawlio dros 2,000 o farwolaethau bob dydd, gyda dynion a cheffylau'n boddi yn y mwd yng nghanol glaw parhaus na welwyd ei debyg ers y ganrif flaenorol.

Ddiwrnod cyn canmlwyddiant diwedd y cyrch, mae'r symposiwm yn agor gydag anerchiad gan Lywyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Fflandrys.

Cynhelir un ar ddeg o sesiynau yn ystod y dydd yn amrywio o Milwyr Cymreig a'u Hunaniaeth ar y Ffrynt Orllewinol i Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr hanesydd o Gaerdydd Dr Toby Thacker sy'n dechrau gyda Passchendaele mewn Hanes a Chof.

Ymhlith yr haneswyr sy'n cymryd rhan mae Toby Thacker (Caerdydd), Christophe Declercq (Leuven/UCL) Hugh Dunthorne (Abertawe), Aled Eirug (Abertawe) a Gethin Matthews (Abertawe). Bydd yr haneswyr lleol John Bradshaw a Toni Vitti yn rhannu eu canfyddiadau am brofiadau ffoaduriaid yn y gogledd a'r de (Talacharn a'r Rhyl yn eu tro).

O'r Celfyddydau, bydd Awdur Preswyl Canolfan Tŷ Newydd Peter Theunynck a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog Rhian Davies a Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn hefyd yn arwain sesiynau, gan arwain at Llythyrau Adref gan Filwyr Cymreig ar y Ffrynt Orllewinol.

Mae'r digwyddiad cyhoeddus am ddim yn nodi diwedd cyfres o brosiectau cydweithredol rhwng Llywodraeth Fflandrys a Llywodraeth Cymru. Dechreuodd gyda Gwasanaeth Coffa Cymraeg yn Fflandrys ar 31 Gorffennaf 2017, ganrif i'r diwrnod ers dechrau'r ymgyrch.

Cynhelir Fflandrys a Chymru yn y Pierhead, Bae Caerdydd ar 9 Tachwedd. Mae llefydd ar y symposiwm am ddim ac ar gael ar sail y cyntaf i'r felin drwy gofrestru ar-lein.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.