Ewch i’r prif gynnwys

Busnes ac Economeg yn cadarnhau ei le’n y 100 uchaf

5 Hydref 2017

Business and Economics THE rankings graphic

Mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi ei henwi ymysg 100 o brifysgolion gorau’r byd ar gyfer Busnes ac Economeg yng nghynghrair ryngwladol Addysg Uwch y Times ar gyfer 2017-2018.

Yn codi un lle oddi ar y llynedd, mae’r Ysgol bellach yn 92ain, yn selio’i lle ymhlith ysgolion busnes gorau’r byd.

Yn un o blith dim ond 15 o ysgolion busnes yn y DU i fod yn y 100 uchaf, cydnabuwyd yr Ysgol am ei rhagoriaeth academaidd a’i rhagoriaeth ymchwil, yn ogystal â’i hamgylchedd addysg sydd â phwyslais ar brofiad israddedigion.

“Balch tu hwnt”

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth yr Ysgol: “Y mae’r diolch am wella ar ganlyniad y llynedd ac i eto gael ein cydnabod fel un o ysgolion busnes gorau’r byd i’n staff a’n myfyrwyr.

“Rydym yn falch tu hwnt o’u haddysgu hardderchog a’u hymchwil ragorol sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn...”

“Fel ysgol uchelgeisiol gyda strategaeth gwerth cyhoeddus fentrus, rydym yn canolbwyntio ar wella’n barhaus ym mhob un o’n gweithgareddau. A, gyda chraffu cynyddol ar addysg fusnes mae’n dda cael ein cydnabod am ein gwaith i chwyldroi’r sector a chyflawni gwelliannau cymdeithasol ynghyd â datblygu economaidd.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Mae’r llwyddiant yn dilyn o Gynghrair Prifysgolion y Byd THE 2018 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, lle cododd Prifysgol Caerdydd ugain safle i 162 o 1,102 o sefydliadau ym mhedwar ban byd.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.