Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd ryngwladol ar ynni i'w chynnal yng Nghaerdydd

21 Awst 2017

Wind Turbines at sea

Yr wythnos hon, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar ynni, gan ddod â ffigurau blaenllaw ynghyd o brifysgolion a diwydiannau ar draws y byd.

Cynhelir y 9fed Cynhadledd Ryngwladol ar Ynni Cynhwysol rhwng 21 a 24 Awst yn Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd.

Bydd prif areithiau, sesiynau llawn, cyflwyniadau a sesiynau posteri yn rhan o'r digwyddiadau, a bydd arbenigwyr yn ymgynnull er mwyn trafod dyfodol ynni glân, cynaliadwyedd, storio ynni ac ynni adnewyddadwy.

Mae'r gynhadledd wedi'i chynnal yn flaenorol mewn rhai o brif ddinasoedd y byd, gan gynnwys Hong Kong, Singapore, Pretoria, Abu Dhabi a Beijing, a bydd yn dod i'r DU am y tro cyntaf.

Dyfodol carbon isel

Fel rhan o'r gynhadledd, bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn arddangos prosiect £24m FLEXIS.

Mae prosiect FLEXIS yn crynhoi arbenigedd o wahanol brifysgolion Cymru er mwyn hwyluso’r broses o bontio i ddyfodol carbon isel mewn modd fforddiadwy, cynaliadwy a chymdeithasol dderbyniol. Bydd y prosiect pum mlynedd, sy’n cael ei gefnogi gan yr UE, yn ceisio datrys cyfres amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol o heriau, sy’n amrywio o storio ynni i ddatgarboneiddio a thlodi tanwydd.

Dywedodd yr Athro Jianzhong Wu, un o drefnwyr y gynhadledd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Mae'n fraint cynnal cynhadledd o'r fath fri yma ym Mhrifysgol Caerdydd...”

“O ganlyniad i brosiectau fel FLEXIS, mae Cymru ar flaen y gad wrth wneud gwaith ymchwil ym maes ynni, ac mae'n cynhyrchu allbynnau sy'n cael effaith sylweddol ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau.”

Yr Athro Jianzhong Wu Professor

“Mae'n hynod fuddiol felly gallu rhyngweithio â'n cyfoedion o bedwar ban byd dros yr wythnos nesaf, er mwyn rhannu syniadau ac arddangos y gorau o'r gwaith rydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Rhannu’r stori hon