Ewch i’r prif gynnwys

Sir fôn a’r Senedd

4 Awst 2017

Rhun ap Iorwerth

Mi fydd yr Aelod Cynulliad a’r cyn-ddarlledwr Rhun ap Iowerth yn trafod Brexit, Ynys Môn, a chyfeiriad gwleidyddol Cymru mewn sesiwn sydd wedi’i drefnu ar y cyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.

Mi fydd yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Siôn Jenkins o raglen faterion cyfoes ITV Cymru, Y Byd ar Bedwar, ar y maes; ym Mhafiliwn Prifysgol Caerdydd ar ddydd Mercher, y 9fed o Awst (16:00). Mi fydd ef hefyd yn sôn am ei yrfa flaenorol fel newyddiadurwr gyda’r BBC yn ogystal â’i waith presennol fel gwleidydd.

Mae’r sesiwn yn rhan o Llais y Maes, menter ar y cyd fydd yn cael ei harwain gan Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau, ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd (JOMEC) mewn partneriaeth ag ITV Cymru, S4C a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr ŵyl eleni ym Môn.

Yn ôl y cynhyrchydd Iwan Roberts: “Ers 35 mlynedd, mae Y Byd ar Bedwar wedi bod yn creu adroddiadau materion cyfoes beiddgar i wylwyr S4C. Mi fydd yn hynod ddiddorol clywed barn Rhun ap Iorwerth ar ystod eang o faterion cyfoes yn ogystal â dysgu mwy am ei gefndir a’r hyn sy’n ei ysgogi...”

“Mae Llais y Maes yn brosiect hynod gyffrous, ac rydym yn falch iawn o’n partneriaeth â JOMEC, yn dod â phrofiad ITV Cymru er budd newyddiadurwyr Cymreig y dyfodol.”

Iwan Roberts Cynhyrchydd, Y Byd Ar Bedwar

Llais y Maes

Drwy gydol wythnos yr Eisteddfod, mi fydd newyddiadurwyr ITV Cymru yn cyd-weithio gyda myfyrwyr cyfryngau Prifysgol Caerdydd ac yn rhoi’r cyfle iddynt weithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr proffesiynol ar gyfer gwasanaeth newyddion digidol fydd yn para’r ŵyl gyfan.

Mi fydd y myfyrwyr yn elwa o wybodaeth gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i greu cynnwys unigryw, aml-blatfform o’r Maes. Ar y cyd ag ITV Cymru, mi fydd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan ddarlithwyr Cymraeg JOMEC, Sian Morgan Lloyd a Manon Edwards Ahir.

Yn ôl Sian: “Bydd Llais y Maes yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd, creu cysylltiadau, a chael cipolwg ar fywyd newyddiadurwyr go iawn.

“Eleni, rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth gan bartneriaid newydd o’r diwydiant, S4C ac ITV Cymru, yn ogystal â chefnogaeth werthfawr barhaus yr Eisteddfod Genedlaethol...”

“Gyda thirwedd y dechnoleg yn newid mor gyflym, bydd yn ddiddorol gweld sut y mae'r myfyrwyr yn creu ein cynnwys gan ddefnyddio'r teclynnau a'r llwyfannau cyfathrebu diweddaraf.”

Sian Lloyd Darlithydd

Mae Glesni Euros, un o gyn-fyfyrwyr JOMEC, yn aelod o’r tîm o newyddiadurwyr ITV Cymru fydd yn cefnogi Llais y Maes yn yr Eisteddfod.

“‘Dwi'n edrych ymlaen yn arw at ymuno gyda chriw Llais y Maes yn yr Eisteddfod eleni. Cyffrous iawn fydd cyd-weithio gyda darlithwyr a myfyrwyr brwdfrydig JOMEC i greu platfform newyddiadura o safon ar y maes. Ynys Mon amdani!”

Rhannu’r stori hon

Mae'n werth ymweld â gwefan yr Ysgol Newyddiaduraeth am y newyddion a'r straeon diweddaraf o faes yr Eisteddfod.