Ewch i’r prif gynnwys

Sawl syndod yn yr etholiad - ond ddim yng Nghymru Pam?

2 Awst 2017

Multicoloured graphic of hands registering votes

Cafwyd nifer o ddigwyddiadau syfrdanol yn etholiad cyffredinol 2017, ond pam na newidiodd lawer yng Nghymru lle'r enillodd y blaid Lafur am y 26ed tro'n olynol?

Bydd arbenigwr gwleidyddol Prifysgol Caerdydd yr Athro Roger Scully'n trafod canlyniadau'r etholiad am 14:30 ddydd Mawrth 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2 yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd yr Athro Scully, a fydd yn edrych yn fanwl ar y tirlun ôl-etholiadol yng Nghymru, fod yr etholiad sydyn wedi datgymalu “llawer o’r hyn roedden ni'n meddwl ein bod ni'n ei wybod.”

Roger Scully

Ond yng Nghymru, er gwaethaf pôl cynnar gan Brifysgol Caerdydd/ITV Cymru a osododd y Ceidwadwyr ar y blaen, gwneud yn ôl eu harfer arfer wnaeth yr etholwyr ar y diwrnod pleidleisio.

“Y tro diwethaf i'r blaid Lafur golli etholiad cyffredinol yng Nghymru oedd yn 1918. David Lloyd George oedd y person olaf i'w curo,” dywedodd yr Athro Scully, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd.

“Ar ddechrau'r ymgyrch cawsom bôl a osododd y Ceidwadwyr 10 pwynt ar y blaen yng Nghymru.

“Adroddwyd am hyn yn the Times of India a chawsom wneuthurwyr rhaglen ddogfen o Awstralia yn y swyddfa, ond llwyddodd Llafur i'w gwneud hi yn y diwedd.”

Carwyn Jones a Jeremy Corbyn

Eglurodd yr Athro Scully fod Llafur Cymru wedi cadw gafael tynn ar yr ymgyrch yng Nghymru, gan amlygu arweinydd Llafur Cymru Carwyn Jones yn hytrach nag arweinydd y blaid Jeremy Corbyn.

Yn y cyfamser pylodd hynt y Ceidwadwyr yn fuan ar ôl y brig rhyfeddol yn y pôl ym mis Ebrill.

“Ar ddechrau'r ymgyrch roedd Theresa May yn dal i fwynhau ei chyfnod mis mel ac ymhell ar y blaen o ran poblogrwydd ei phersonoliaeth,” dywedodd yr Athro Scully.

“Hi oedd y gwleidydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru ar y pryd. Doedd Ceidwadwr o Loegr ddim erioed wedi bod y gwleidydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru o'r blaen.”

“Ond cwympodd ei phoblogrwydd personol yn sylweddol.”

Dywedodd yr Athro Scully mai un nodwedd ddiddorol yn yr ymgyrch oedd sut y cafodd gwleidyddiaeth plaid draddodiadol Brydeinig ei boddi'n rhannol gan ymgyrchoedd penodol yng Nghymru a'r Alban.

Tra bo Llafur Cymru'n gwthio ei agenda ei hun dan arweiniad ei Phrif Weinidog, roedd y ffocws yn yr Alban ar annibyniaeth a phosibilrwydd ail refferendwm.

“Rwy'n credu i ni weld erydu gwleidyddiaeth bleidiol Brydeinig wirioneddol,” ychwanegodd yr Athro Scully.

Yr etholiad pwysicaf ers cenhedlaeth

Ond un mater na ellir ei osgoi yw Brexit. Fe allai gwir arwyddocâd yr etholiad ddibynnu ar a yw wedi effeithio'n derfynol ar agwedd Llywodraeth y DU at adael yr UE.

Dywedodd yr Athro Scully y byddai mwyafrif mawr i Theresa May wedi cael ei ddehongli fel cymeradwyaeth i Brexit caled. Fodd bynnag dywedodd y gallai'r senedd grog orfodi'r Prif Weinidog i newid cyfeiriad a derbyn ymadawiad mwy 'addfwyn'.

“Caiff pob etholiad cyffredinol ei alw ‘yr etholiad pwysicaf ers cenhedlaeth’ gan y gwleidyddion sy'n ei ymladd. Ond os yw canlyniad etholiad 2017 yn arwain at newid cyfeiriad sylfaenol o ran Brexit, bydd yn haeddu'r teitl hwnnw, ” dywedodd.

Thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 yw Cysylltu Caerdydd - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.