Ewch i’r prif gynnwys

Gallai prawf ‘bôn-gell’ adnabod y mathau mwyaf ffyrnig o ganserau’r fron

4 Mawrth 2015

Stem Cells

Mae astudiaeth newydd yn awgrymu bod posibilrwydd y gall profi celloedd canser y fron i weld pa mor debyg ydynt i fôn-gelloedd adnabod y menywod sy'n dioddef o'r math mwyaf ffyrnig o'r clefyd.

Darganfu ymchwilwyr bod gan fathau o ganserau'r fron sydd â phatrymau tebyg o ran gweithgaredd genetig i fôn-gelloedd oedolion siawns uchel o ledaenu i rannau eraill y corff.

Yn ôl ymchwilwyr, trwy asesu patrwm gweithgaredd canser y fron yn y bôn-gelloedd hyn, mae potensial i adnabod y menywod sydd angen triniaeth ddwys er mwyn atal y clefyd rhag dychwelyd neu ledaenu.

Mae bôn-gelloedd oedolion yn gelloedd iach nad ydynt yn arbenigo mewn unrhyw ffordd benodol, ac felly maen nhw'n parhau i allu rhannu a disodli celloedd treuliedig mewn rhannau o'r corff, er enghraifft y coluddyn, y croen neu'r fron.

Nododd tîm ymchwil o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Ewropeaidd y Brifysgol, Sefydliad Ymchwil Canser Llundain a Choleg y Brenin Llundain set o 323 o enynnau gyda gweithgaredd lefel uchel o ran bôn-gelloedd bron arferol mewn llygod.

Cyhoeddir yr astudiaeth heddiw (dydd Mercher) yng nghyfnodolyn Breast Cancer Research, a chafodd yr ymchwil ei ariannu gan ystod o sefydliadau, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Meddygol, Sefydliad Ymchwil Canser, Breakthrough Breast Cancer ac Ymchwil Canser y DU.

Trawsgyfeiriodd y gwyddonwyr eu panel o enynnau bôn-gelloedd arferol yn erbyn proffiliau genetig tyfiannau o 579 o fenywod yn dioddef o ganser y fron negyddol triphlyg – math hynod anodd o'r clefyd i'w drin.

Rhannwyd y samplau tyfiant yn ddau gategori, yn seiliedig ar eu 'sgôr' o ran gweithgaredd genynnau'r bôn-gelloedd.

Roedd menywod oedd â thyfiannau negyddol triphlyg yn y categori gyda'r sgôr uchaf yn llawer llai tebygol o aros yn rhydd o ganser o gymharu â'r rheiny â'r tyfiannau sgôr isaf. Roedd gan y menywod oedd â thyfiannau yn y grŵp sgôr uchaf oddeutu 10% o siawns o osgoi gweld y clefyd yn dychwelyd ar ôl deng mlynedd, tra bod gan y menywod o'r grŵp sgôr isel oddeutu 60% o siawns o osgoi gweld y clefyd yn dychwelyd o gwbl.

Mae'r canlyniadau'n dangos bod celloedd canser y fron negyddol triphlyg ffyrnig yn debyg iawn i fôn-gelloedd, gan ymgorffori nodweddion bôn-gelloedd, gan gynnwys hunanadnewyddu, er mwyn eu cynorthwyo nhw i dyfu a lledaenu. Yn ogystal, maen nhw'n awgrymu y gall oddeutu 323 o'r genynnau fod yn dargedau posibl ar gyfer cyffuriau canser.

Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Matthew Smalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Ewropeaidd y Brifysgol: "Mae canser y fron negyddol triphlyg yn cyfrif am 15% o ganserau'r fron, ond mae'n anoddach ei drin o gymharu â mathau eraill o ganser oherwydd nad yw'n addas ar gyfer rhai mathau o driniaethau, er enghraifft therapi gwrth-hormonaidd. Mae'n hynod bwysig deall y ffactorau genynnol sy'n cynorthwyo'r math hwn o ganser i ledaenu o amgylch y corff – ac rydym ni wedi cynhyrfu i ddarganfod bod y graddau y mae gweithgaredd genynnol yn ymdebygu i weithgaredd bôn-gelloedd yn ffactor allweddol.

"Er nad yw ein gwaith yn barod eto ar gyfer defnydd clinigol eto, y cam nesaf fydd archwilio pa rai o'r 323 o enynnau yw gyrwyr pwysicaf y clefyd a'u defnyddio i ddatblygu prawf genynnol newydd."

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, sef yr Athro Clare Isacke, Athro Bioleg Celloedd Moleciwlaidd yn Sefydliad Ymchwil Canser Llundain:

"Gall celloedd canser ymddwyn yn debyg iawn i fôn-gelloedd – ond bôn-gelloedd drwg. Maen nhw'n dod o hyd i ffordd o ysgogi genau sydd fel arfer i'w canfod mewn bôn-gelloedd arferol, gan roi nodweddion iddynt – er enghraifft anfarwoldeb a'r gallu i hunanadnewyddu – sy'n eu gwneud nhw'n anoddach i'w trin. 

"Yn y pen draw, gallai ein hastudiaeth arwain at greu prawf genynnol sy'n asesu celloedd canser y fron er mwyn gweld pa mor debyg ydynt i fôn-gelloedd. Bydd dethol menywod sy'n dioddef o'r math ffyrnig hwn o'r clefyd yn ein helpu ni i greu dulliau newydd o driniaethau personol."

Researchers in the European Cancer Stem Cell Research Institute

Dywedodd Dr Matthew Lam, Uwch Swyddog Ymchwil yn Breakthrough Breast Cancer: "Mae menywod sy'n dioddef o ganser y fron negyddol triphlyg yn tueddu gweld y clefyd yn dychwelyd yn amlach o gymharu â menywod sy'n dioddef o fathau eraill o ganser y fron.

"Mae cymaint i'w ddysgu am y math ffyrnig hwn o'r clefyd, a dyna pam mae'r math hwn o waith ymchwil yn bwysig. Os gallwn ni ddatblygu ffyrdd o ragweld pwy sydd fwyaf tebygol o weld y clefyd yn dychwelyd, gallwn wneud mwy i warchod y cleifion sydd fwyaf agored i niwed, er enghraifft monitro agosach neu driniaeth estynedig, er mwyn helpu i ostwng y tebygrwydd o weld y canser yn dychwelyd."

Dywedodd Dr Nathan Richardson, Pennaeth Meddygaeth Moleciwlaidd a Chellog y Cyngor Ymchwil Meddygol: "Mae canserau'r fron negyddol triphlyg yn fathau hynod heriol o'r clefyd i'w trin. Ac mae darganfod y ffactorau genetig sydd yn achosi i'r clefyd ddychwelyd a lledaenu yn hollbwysig o ran deall mwy am fioleg y clefyd ffyrnig hwn.

"Gallai'r astudiaeth hon fod yn bwysig tu hwnt o ran dod o hyd i ffyrdd o adnabod y cleifion sydd mewn perygl o ddioddef o'r mathau mwyaf ffyrnig o'r clefyd, gan wella'r ffordd y cânt eu monitro a'r gofal sydd ar gael iddynt. Yn hanfodol, gallai'r ymchwil hwn arwain at driniaethau newydd sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fenywod gyda'r math hwn o ganser y fron."

Darllenwch y papur ymchwil