Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw newyddiaduraeth yn drosedd

18 Chwefror 2015

Journalist Peter Greste

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal darlith gan newyddiadurwr Al-Jazeera, Peter Greste, i fyfyrwyr ac aelodau staff ddydd Gwener 20 Chwefror 2015.

Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar yn yr Aifft yn ddiweddar, mae Peter Greste yn ymweld â'r DU i gyflwyno cyfres o ddarlithiau am gael ei arestio a'i ddedfrydu yn y carchar am 400 diwrnod. Mae ei ymweliad yn rhan o ymgyrch Al-Jazeera i godi ymwybyddiaeth o newyddiadurwyr eraill sy'n dal i wynebu cyhuddiadau.

Bydd Peter yn trafod yr ymgyrch barhaus sy'n cefnogi ei gydweithwyr, Baher Mohamed a Mohamed Fahmy, a'r problemau sy'n gysylltiedig ag adrodd o'r Dwyrain Canol a'r cysylltiadau cynyddol rhwng gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. 

Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd: "Tynnodd hanes Peter Greste a'i gydweithwyr yn Al-Jazeera sylw at y peryglon mae newyddiadurwyr sy'n adrodd o wledydd ymfflamychol yn eu hwynebu.

"Cododd gwestiynau am ddilysrwydd newyddiaduraeth annibynnol, gan ofyn cwestiynau am wrthwynebwyr gwleidyddol yn ogystal â'r rheiny sydd mewn grym."

Arweiniodd dedfryd Peter Greste a'i gydweithwyr o Al-Jazeera at ymgyrch ar Twitter yn defnyddio'r hashnodau #freeAJStaff a #journalismisnotacrime, a gafodd eu cefnogi gan fyfyrwyr newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn 
20132014.

Mae'n rhaid i chi gofrestru o flaen llaw i fynychu'r digwyddiad. Gall myfyrwyr a staff gofrestru trwy ddefnyddio Eventbrite.