Ewch i’r prif gynnwys

Peiriannydd o Gaerdydd ymhlith y 50 gorau

29 Mehefin 2017

Dr Catrin Williams with award

Mae Dr Catrin Williams, o'r Ysgol Peirianneg, wedi'i henwi ymhlith y 50 o Fenywod Mwyaf Blaenllaw'r DU ym Maes Peirianneg dan 35 oed.

Mae'r rhestr, a luniwyd gan The Telegraph mewn cydweithrediad â Chymdeithas Peirianneg y Menywod, yn cynnwys rhai o'r peirianwyr benywaidd mwyaf addawol yn y DU a ddewiswyd o restr â mwy na 500 o enwebiadau.

Cyhoeddir y rhestr i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg – digwyddiad a sefydlwyd i dynnu sylw at y gyrfaoedd anhygoel sydd ar gael i ferched ym maes peirianneg a rolau technegol, ac i ddathlu llwyddiannau rhagorol peirianwyr benywaidd.

Dywedodd Dr Williams: “Braint yw cael fy enwi ar restr mor anrhydeddus o fenywod talentog sy'n ysbrydoli...”

“Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth gan fy nghydweithwyr i gyrraedd y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth hon yn dangos i ferched ifanc bod gyrfa fel peiriannydd yn ddewis da, ac yn faes hwyl a chyffrous i weithio ynddo.”

Ar hyn o bryd, mae Dr Williams yn Gymrawd Ymchwil Sêr Cymru yn yr Ysgol Peirianneg, ac yn astudio sut mae meysydd electromagnetig yn rhyngweithio â systemau biolegol.

Yn wreiddiol o Ystradgynlais, astudiodd Dr Williams am ei gradd a PhD yn Ysgol y Biowyddorau cyn cynnal prosiect ôl-ddoethurol dros gyfnod o 18 mis ym maes diwydiant gyda Cultech Ltd. Yna, symudodd Dr Williams yn ôl i Brifysgol Caerdydd ar gyfer prosiect ôl-ddoethurol arall dros 18 mis yn y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel ac Ysgol y Biowyddorau, cyn dechrau ei Chymrodoriaeth Sêr Cymru.

Yn ogystal â'i hymchwil, mae Dr Williams yn gyfathrebwr brwd am wyddoniaeth, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gyfweliadau yn y cyfryngau a digwyddiadau allgymorth yn Gymraeg a Saesneg.

“Technolegau a thriniaethau newydd”

Aeth Dr Williams yn ei blaen: “Yn syml, mae fy maes gwaith i yn edrych ar effaith microdonnau ar bethau byw. Gellir dod o hyd i'r microdonnau hyn mewn dyfeisiau cyffredin fel ffonau symudol, Wi-Fi a ffyrnau microdon yn ogystal ag offer mwy cymhleth fel yr offer mewn ysbytai i drin canser ac afiechydon y galon.

“Yn benodol, rwy'n edrych ar effeithiau hirdymor cudd y gallai'r microdonnau hyn eu cael arnom, fel newidiadau moleciwlau i sut y mae ein celloedd wedi eu cyfansoddi. At hynny, gallwn hefyd edrych ar sut y gellid defnyddio canlyniadau dinistriol i'n mantais. Er enghraifft, gellid datblygu technolegau a thriniaethau newydd sy'n ein galluogi i dynnu neu osgoi canserau a rhai clefydau ar y galon yn fwy effeithiol.

“Dyna pam mae'r maes ymchwil hwn mor gyffrous a phwysig.”

Dywedodd Kirsten Bodley, Prif Weithredwr Cymdeithas Peirianneg y Menywod, y sefydliad a drefnodd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg: “Rydym wedi cael ymateb da iawn i'r ymgyrch eleni, ac mae'r safon wedi gwneud argraff arnom...”

“Mae'r rhestr o fenywod iau sy'n ysbrydoli yn dangos faint o bobl dalentog ac arloesol sydd ym mhob sector peirianneg.”

Kirsten Bodley Prif Weithredwr Cymdeithas Peirianneg y Menywod

“Mae hon yn ffordd wych o annog y genhedlaeth nesaf i weithio ym maes peirianneg a sectorau cysylltiedig, ac o sicrhau bod menywod yn llwyddo yn y maes.”

Rhannu’r stori hon

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar i’n staff a’n myfyrwyr i gyd.