Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar gyfer diwrnod hwyl i'r teulu

15 Mehefin 2017

Children in IT workshop

Bydd Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd yn cynnal y 'Diwrnod i Deuluoedd' cyntaf yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn 17 Mehefin 2017.

Nod y digwyddiad yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd drwy gael teuluoedd â phlant rhwng 5 a 15 oed i fentro i fyd technoleg.

Bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu mynd i weithdai a chyflwyniadau, lle byddant yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd rhaglennu rad ac am ddim fel Scratch a Python i greu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol.

Dywedodd Dr James Osborne, Darlithydd yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol: “Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu teuluoedd i'r Academi, ac yn edrych ymlaen at weld eu syniadau creadigol am feddalwedd...”

“Gobeithio y byddant yn cael llawer o brofiad yn y gweithgareddau yr ydym wedi eu trefnu ar eu cyfer.”

Dr James Osborne Lecturer

Meddalwedd a ddefnyddiwyd gan y gofodwr Tim Peake

Bydd gan deuluoedd gyfle hefyd i roi cynnig ar Sense HAT – meddalwedd a ddefnyddiwyd gan y gofodwr, Tim Peake, ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Dywedodd llysgennad STEM Matthew Elcock, fydd yn arwain y gweithdy hwn: “Rydym wedi cynllunio llawer o weithgareddau hwyl, lle bydd teuluoedd yn gallu chwarae gyda chyfarpar gwych...”

“Bydd yn gyfle arbennig i ddysgu am yr elfennau mwyaf syml a sylfaenol o gyfrifiadureg a pheirianneg, fel rhaglennu ac electroneg.”

Matthew Elcock Llysgennad STEM

Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda chyfres o gystadlaethau i raglenwyr newydd i greu meddalwedd sy'n ymateb i sawl her.

Bydd y beirniaid yn dewis enillydd yn ôl pa mor wreiddiol ac effeithiol yw'r syniad, a bydd y syniadau mwyaf arloesol yn cael gwobr.

Ychwanegodd Dr Osborne: “Drwy gynnal digwyddiadau fel y 'Diwrnod i Deuluoedd' rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu annog teuluoedd cyfan i gael diddordeb ym myd technoleg ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried astudio a gweithio yn y maes hwn.”

Cyfrifiadureg a Llythrennedd Digidol

Bydd sefydliadau ledled Cymru'n cefnogi'r digwyddiad hwn, gan gynnwys Capgemini, Admiral, ESTNet a Pi Academy.

Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Technocamps – rhaglen allgymorth ym mhrifysgolion Cymru sy'n cynnig gweithdai i ysgolion ym maes Cyfrifiadureg a Llythrennedd Digidol, am bynciau fel datblygu gemau ac apiau, rhaglennu a roboteg.

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, sy'n agored i bawb. Cadwch eich lle yma.

Rhannu’r stori hon

Canolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg meddalwedd.