Ewch i’r prif gynnwys

Canwr y Byd Caerdydd

9 Mehefin 2017

Female singer addresses audience

Bydd y soprano ryngwladol, y Fonesig Kiri Te Kanawa, ymhlith y siaradwyr nodedig yn nigwyddiadau ymylol Prifysgol Caerdydd yn nigwyddiad BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Bydd Cantores y Byd Carmen, cynhadledd gyhoeddus ryngwladol a drefnwyd gan Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, yn dathlu'r opera sy'n cael ei pherfformio fwyaf ledled y byd.

Bydd y gynhadledd, a gynhelir rhwng 14 a 16 Mehefin 2017, yn dod â grŵp o academyddion o ledled Ewrop, Awstralia a gwledydd America at ei gilydd i archwilio Carmen, ei pherfformiadau a chynyrchiadau cyntaf, a'i phoblogrwydd yn rhyngwladol.

Fel rhan o'r gynhadledd, mewn digwyddiad cyhoeddus yn ystod amser cinio, bydd y Fonesig Kiri Te Kanawa, un o sopranos enwocaf y byd sydd wedi canu yn y brif ran a chanu rhan Micaëla yn ystod ei gyrfa nodedig, yn trafod ei phrofiadau o berfformio Carmen.

Fyfyrwyr sy'n canu ac actorion proffesiynol

Bydd gweithdy gan gyfarwyddwr operatig, Annabel Arden – y mae ei pherfformiad cyntaf o Carmen yn dechrau ym mis Mehefin 2017 – hefyd yn agored i'r cyhoedd, a bydd yn trafod rhannau o'r deialog a golygfeydd ensemble yn yr opera, gyda chast o fyfyrwyr sy'n canu ac actorion proffesiynol.

Bydd digwyddiadau eraill a gynhelir mewn cydweithrediad â'r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnwys tymor o ffilmiau sy'n ymwneud â byd opera, fydd yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, cyfweliad â Grace Bumbry, un o'r mezzo-sopranos gorau yn ei chenhedlaeth, fydd yn sôn am ei bywyd ym myd cerddoriaeth (11 Mehefin), a dosbarth meistr â'r soprano operatig Ailish Tynan (17 Mehefin).

Dywedodd Clair Rowden, o'r Ysgol Cerddoriaeth, sy'n trefnu Cynhadledd Cantores y Byd Carmen a'i digwyddiadau cysylltiedig: “Wrth i densiynau gynyddu cyn cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, yma ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn paratoi ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau cyffrous sy'n dod ag ysgolheictod a'r ochr ymarferol at ei gilydd yn y ffordd orau posibl i gynulleidfa eang.

“Bydd gweithdy Annabel Arden am ymdrin â'r ffurf lafar a chanedig mewn theatr opera gyfoes yn sesiwn wych, ac yn gyfle i gael trafodaeth academaidd â'r ysgolheigion rhyngwladol sy'n bresennol. Bydd cyfweliadau â'r cantoresau enwog y Fonesig Kiri Te Kanawa a Grace Bumbry yn cynnig gwybodaeth ymarferol wahanol yr ydym ni, fel academyddion, yn ei ddiystyru o bryd i'w gilydd.

“Bydd y cyfle hwn i gyfnewid gwybodaeth ac arferion yn parhau yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, lle mae fy nghydweithiwr ac arbenigwr cerddoriaeth ffilm Carlo Cenciarelli wedi helpu i lunio cyfres o ffilmiau opera fydd yn cael eu cyflwyno bob dydd...”

“Rwy'n hynod frwdfrydig, am y gystadleuaeth BBC hon (pob lwc i'r canwr gorau!) yn ogystal â'r digwyddiadau ymylol a drefnwyd gennym mewn cydweithrediad â threfnwyr y gystadleuaeth. Rwy'n edrych ymlaen at wythnos brysur o ysgolheictod a chanu!”

Yr Athro Clair Rowden Professor of Musicology

Y prif gyfle i gantorion opera a chyngerdd ddangos eu doniau

Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei hadnabod ym myd cerddoriaeth glasurol fel y prif gyfle i gantorion opera a chyngerdd ddangos eu doniau ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Eleni, bydd 20 o sêr rhyngwladol ifanc yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Bydd y digwyddiad yn dod i ben ar 18 Mehefin 2017, ar ôl dyfarnu'r Brif Wobr, y Wobr am Gân, a Gwobr y Gynulleidfa. Eleni, mae Gwobr y Gynulleidfa wedi'i noddi gan Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol. Bydd yr enillwyr yn ennill Gwobr Gynulleidfa'r Fonesig Joan Sutherland, £5,000, a thlws grisial.

Mae manylion llawn y gynhadledd, digwyddiadau ymylol cysylltiedig, a dolenni at y dudalen archebu lle ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.