Ewch i’r prif gynnwys

Ymgais i leihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yn Namibia

24 Mawrth 2017

Professor Judith Hall talking to press
Yr Athro Judith Hall yn dangos prototeip cynnar o’r pecynnau trawma i'r cyfryngau yn Namibia

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain hyfforddiant hanfodol a fydd yn achub bywydau ar gyfer swyddogion yr heddlu yn Namibia. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r cyfraddau marwolaeth uchel iawn sydd ar ffyrdd y wlad.

Mae'r Athro Judith Hall wedi cydweithio â phartneriaid o Brifysgol Metropolitan Caerdydd er mwyn dylunio 'pecyn trawma' cost isel, fel rhan o Brosiect trawsnewidiol Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd.

Caiff swyddogion yr heddlu eu hyfforddi i ddefnyddio'r pecynnau trawma, ac maent wedi'u llunio er mwyn eu defnyddio ar ôl gwrthdrawiadau traffig.

Gwella iechyd a lleihau tlodi

Bydd meddygon o GIG Cymru yn cynnal yr hyfforddiant rhwng 29 Mai a 9 Mehefin. Bydd pob swyddog yr Heddlu yn cael diwrnod o hyfforddiant cyn i'r pecyn gael ei dreialu am chwe mis yn ninas Namibia, Windhoek.

Mae Prosiect Phoenix yn bartneriaeth gyda Phrifysgol Namibia sy’n ceisio gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia.

Dywedodd yr Athro Hall, sy'n arwain Prosiect Phoenix: “Bydd y pecynnau trawma yn achub bywydau oherwydd bod gormod o bobl yn marw yn dilyn damweiniau ar ffyrdd Namibia...”

“Ar ôl rhoi'r hyfforddiant, bydd swyddogion yr Heddlu yn gallu defnyddio technegau achub bywydau syml, nes bod help meddygol yn cyrraedd.”

Yr Athro Judith Hall Professor of Anaesthetics, Intensive Care and Pain Medicine. Phoenix Project Lead

“Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, ein bwriad fydd i gyflwyno'r pecynnau ar draws y wlad.”

Bydd meddygon o Gymru, dan arweiniad Dr Brian Jenkins o Brifysgol Caerdydd yn hyfforddi rhwng 150 a 200 o swyddogion yr heddlu yn rhan o'r cynllun peilot chwe mis. Byddant yn gweithio gyda Phersonél eraill o'r gwasanaethau brys hefyd.

Bydd y meddygon, gyda'r rhan fwyaf yn dod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dysgu'r technegau achub bywyd i swyddogion yr Heddlu gan ddefnyddio'r pecynnau trawma. Mae'r pecynnau'n cynnwys offer fel coleri gwddf, rhwymynnau ac estynnydd.

Yr awr dyngedfennol

Mae disgwyl i'r swyddogion gael y pecynnau ym mis Medi 2017, a byddant yn eu defnyddio yn ystod yr awr dyngedfennol ar ôl gwrthdrawiad, lle maent fwyaf tebygol o achub bywydau.

Dewiswyd swyddogion yr Heddlu i fod yn rhan o'r prosiect oherwydd nhw sy'n cyrraedd y ddamwain yn gyntaf, ond ar hyn o bryd prin yw'r hyfforddiant sydd ganddynt i achub bywydau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Cillie Auala, Swyddog Cysylltiadau cyhoeddus Dinas Windhoek: “Mae'r fenter yn wych...”

“Wrth ystyried y gyfradd uchel o ddamweiniau sy'n digwydd yn y wlad, ac mai'r heddlu sy'n cyrraedd y ddamwain yn gyntaf, rwy'n hyderus y bydd gan yr hyfforddiant hwn rôl bwysig wrth sicrhau bod llawer o fywydau yn cael eu hachub.”

Uwch-arolygydd Cillie Auala Swyddog Cysylltiadau cyhoeddus Dinas Windhoek

Dywedodd yr Athro Kenneth Matengu, Dirprwy Is-Ganghellor UNAM (Ymchwil, Arloesedd a Datblygu): “Mae Prifysgol Namibia wrth eu bodd yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a'n heddluoedd yn yr ymgyrch bwysig hon i wneud y ffyrdd yn fwy diogel.

“Bydd y pecyn trawma newydd, hwylus a fforddiadwy hwn yn helpu i achub bywydau ein dinasyddion...”

“Bydd ein swyddogion Heddlu yn cael addysg ymatebwyr cyntaf, er mwyn iddynt allu cymryd y camau cywir gyda'r pecyn trawma wrth ymateb i wrthdrawiad ar y ffordd.”

Yr Athro Kenneth Matengu Dirprwy Is-Ganghellor UNAM
Dr Clara Watkins talks to Namibian Police
Dr Clara Watkins yn trafod y pecynnau trawma gyda Heddlu Dinas Windhoek

Dywedodd Dr Clara Watkins, dylunydd y pecynnau trawma o Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae dyluniad y pecynnau wedi'u teilwra fel eu bod yn diwallu anghenion Namibia...”

“Nid yw'n costio llawer i'w creu, maent yn gludadwy ac yn cynnwys offer meddygol sy'n hanfodol i alluogi swyddogion yr Heddlu i wneud triniaethau allweddol i achub bywydau yn dilyn gwrthdrawiadau.”

Dr Clara Watkins Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae pecynnau trawma – a ddyluniwyd gan glinigwyr o Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a chwmni partner BCB International - wedi cael eu profi yn y maes yn Zambia drwy elusen Mamau Affrica yr Athro Hall, gyda chymorth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac ymatebwyr cyntaf yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn a’r Groes Goch Ryngwladol wedi helpu hefyd gyda’r gwaith profi a datblygu.

Rhannu’r stori hon

Find out about the work we're doing, the impact it's had and the people involved.