Ewch i’r prif gynnwys

Cyfuno Ffuglen â phêl droed

23 Mai 2017

Fans cheering in football stadium

Mae gŵyl ffuglen a barddoniaeth ryngwladol Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ac UEFA i gynnal cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim y flwyddyn eleni.

Mae Ffiesta Ffuglen bellach yn ei chweched flwyddyn, a bydd yn dathlu ein cariad at bêl droed ac ysgrifennu straeon byr mewn digwyddiad deuddydd yng Nghaerdydd yn y cyfnod cyn Gêm Derfynol UEFA Champions League yn y ddinas.

Ar 31 May 2017, bydd yr awduron rhyngwladol o fri Juan Villoro (Mecsico) ac Andrés Neuman (Yr Ariannin) yn cynnal trafodaeth â Chyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd, Richard Gwyn ar gyfer Y Stori Fer yn America Ladin.

Llyfr y Flwyddyn

Mae'r ddau'n cael eu cydnabod fel awduron sydd wedi meistroli'r stori fer. Mae Villoro'n angerddol am bêl droed, a'i lyfr enwocaf yw Dios es Redondo (Mae Duw yn Grwn). Neuman yw awdur El Viajero del Siglo (Teithiwr y Ganrif), a ddewiswyd fel Llyfr y Flwyddyn gan The Guardian, Financial Times a The Independent yn 2013. Fel rhan o'r digwyddiad, byddant yn darllen detholiadau o'u gwaith, gan drafod ffurf eu hysgrifau a'r dylanwadau arnynt.

Ar 1 Mehefin 2017, Villoro a Neuman fydd yn agor Ffiesta Ffuglen Pêl Droed yn nigwyddiad Ysgrifennu am Bêl Droed Bydd awduron rhyngwladol o fri sy'n ysgrifennu am bêl droed yn trafod y grefft o ysgrifennu am y gêm gelfydd yn y genre llenyddol, gydag ysbrydoliaeth gan gêm derfynol UEFA Champions League.

Mae Ffiesta Ffuglen Pêl Droed yn cwblhau'r tri digwyddiad gyda'r arwr o dimau Lerpwl a Chymru, Ian Rush – llysgennad gêm derfynol UEFA Champions League – mewn trafodaeth gyda Niall Griffiths. Bydd y nofelydd a newyddiadurwr o Gymru yn clywed mwy am yrfa Rush, gan gynnwys ei atgofion o sgorio'r gôl fuddugol pan enillodd Cymru yn erbyn yr Almaen yn 1991.

Dywedodd sylfaenydd Ffiesta Ffuglen, Richard Gwyn, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae Gêm Derfynol UEFA Champions League yn cynnig cyfle perffaith i ddod â'r tri awdur i Gaerdydd...”

“Mae Juan Villoro, yn Dios es Redondo, wedi ysgrifennu llyfr a allai fod yr un gorau erioed am bêl droed, ac mae Andrés Neuman yn ysgrifennu'n rheolaidd am y gêm yn y cyfryngau Sbaeneg. Mae'r ddau ohonynt yn credu'n gryf fod modd cymysgu pêl droed a llenyddiaeth wych. Mae Niall Griffiths ac Ian Rush yn dod â'r cyfuniad hwnnw i fywyd.”

Yr Athro Richard Gwyn Professor

Cynhelir Y Stori Fer o America Ladinddydd Mercher 31 Mai (6pm – 7.30pm) ym Mhrif Adeilad y Brifysgol (Siambr y Cyngor). Rydym yn argymell cadw lle ymlaen llaw.

Bydd cic gyntaf Ffiesta Ffuglen Pêl Droed ddydd Iau 1 Mehefin gydag Ysgrifennu am Bêl Droed (2.30pm – 3.30pm), ac yn gorffen gyda Ian Rush mewn trafodaeth â Niall Griffiths(4pm – 5pm) yn Ystafell Japan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Gŵyl i ddathlu cyfieithiadau o ffuglen a barddoniaeth ryngwladol ochr yn ochr ag ysgrifennu o Gymru yw Ffiesta Ffuglen. Mae modd cynnal y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn oherwydd cefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, UEFA (drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru) ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.