Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect yn cefnogi gŵyl

23 Mai 2017

Merthyr Rising festival logo

Mae prosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd unwaith eto yn cefnogi gŵyl gymunedol fawr sy'n dathlu treftadaeth a hanes radicaliaeth ym Merthyr Tudful.

Cynhelir digwyddiad Gwrthryfel Merthyr – gŵyl ar gyfer cerddoriaeth, celf, a syniadau – rhwng 26 a 28 Mai yn Sgwâr Penderyn a Redhouse yn y dref.

Mae prosiect Cymunedau Iach, Pobl Iachach, yn noddi cyfres o drafodaethau bywiog – a elwir Trafodaethau Twyn y Waun – fydd yn rhoi sylw i faterion gwleidyddol, economaidd a diwylliannol cyfoes.

Hanes radical y dref

Nod y trafodaethau hyn yw defnyddio hanes radical y dref i ysgogi trafodaeth am faterion cymdeithasol a gwleidyddol.

Mae'r trafodaethau'n dathlu ysbryd y trafodaethau a gynhaliwyd ger Dowlais yn ystod Gwrthryfel Merthyr, un o'r achosion cynharaf o weithredu a drefnwyd gan weithwyr diwydiannol ym Mhrydain yn y 19eg Ganrif.

Daeth dros 2,000 o weithwyr o Ferthyr a Sir Fynwy i Dwyn y Waun ym mis Mai 1831, i gyflwyno deiseb i'r Brenin yn gofyn am ddiwygiadau yn dilyn dicter dros gyflogau isel, dyled ac amodau gweithio gwael.

Mae'r siaradwyr eleni yn cynnwys y Canghellor Cysgodol John McDonnell; yr economegydd Steve Keen; yr awdur a newyddiadurwr Kerry-Anne Mendoza; a'r cyfreithiwr, newyddiadurwr ac ymgyrchydd Peter Stefanovic.

Bydd Dr Mike Berry o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ar banel sy’n trin a thrafod newyddion ffug. Y newyddiadurwr a’r cynhyrchydd ffilmiau, Ross Ashcroft, fydd yn cadeirio’r panel. Cynhelir y drafodaeth yn y Red House ar Sgwâr Penderyn ddydd Sadwrn, 27 Mai rhwng 12:15 a 13:00.

Mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys nifer o fandiau a pherfformwyr nodedig sy'n cynnwys Stereo MCs, Alabama 3, Pretty Vicious a The Sandinistas.

Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a lles.

Rhannu’r stori hon

Read out about the latest project developments, direct from our project team.