Ewch i’r prif gynnwys

Ydych chi weld gweld meddyg teulu oherwydd problemau gyda'ch dannedd a'ch deintgig?

19 Mai 2017

GP chatting to patient

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal astudiaeth i ddod i wybod pam mae cleifion yn mynd i weld meddyg teulu pan fydd ganddynt broblem â'u dannedd neu ddeintgig.

Mae astudiaeth Ceisio Gofal, mewn partneriaeth â deintyddion o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn chwilio am oedolion yn y DU sydd wedi bod i weld eu meddyg gyda phroblem â'u dannedd neu ddeintgig dros y 12 mis diwethaf.

Mae'r astudiaeth yn dilyn ymchwil flaenorol gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn dangos bod dros hanner y bobl sy'n mynd at eu meddyg pan mae ganddynt broblem â'u dannedd neu eu deintgig, yn annhebygol o gael y driniaeth fwyaf addas ar gyfer eu cyflwr.

7,500 o bobl yr wythnos

Dywedodd Dr Anwen Cope, arweinydd y gwaith ymchwil: “Mae ymchwil yn dangos bod cynifer â 7,500 o bobl yr wythnos yn ymweld â'u meddyg teulu yn hytrach na deintydd pan fydd ganddynt broblemau deintyddol.”

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn honni mai'r cynnydd yn y ffioedd am ofal deintyddol y GIG yw'r rheswm dros hyn, gan fod llawer o gleifion yn cael eu gorfodi i fynd at feddyg. O ganlyniad i hynny, mae'r Gymdeithas yn galw am fwy o arian ar gyfer gwasanaeth deintyddiaeth y GIG.

Ond, fel y mae Dr Cope yn ei esbonio: “Mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod llawer am y rhesymau pam mae cleifion yn dewis mynd at y meddyg yn hytrach na'u deintydd...”

“Tra bod rhai cleifion yn amharod i dalu'r gost, gall fod eraill yn pryderu am fynd i feddygfa ddeintyddol. Ar ben hynny, gall rhai cleifion fod yn awyddus i weld deintydd, ond mae hyn yn amhosibl oherwydd eu bod yn gweithio oriau anhyblyg neu am fod prinder trafnidiaeth.”

Dr Anwen Cope Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus Iechyd Deintyddol y Cyhoedd

“Dyma rai o'r ffactorau yr ydym yn gobeithio eu hystyried yn yr astudiaeth Ceisio Gofal.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn astudiaeth Ceisio Gofal, ewch i'r wefan. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael taleb siopa gwerth £10.

Rhannu’r stori hon

Our research has real-world impact in a range of areas.