Ewch i’r prif gynnwys

Rhodri Morgan

18 Mai 2017

Rhodri Morgan in robes

Mae Prifysgol Caerdydd wedi talu teyrnged i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, sydd wedi marw.

Roedd Rhodri Morgan yn ymwelydd cyson â'r Brifysgol. Yn 2010, dyfarnwyd Doethuriaeth Anrhydeddus iddo a chafodd ei benodi’n Athro Nodedig Anrhydeddus i helpu i wella enw da cynyddol y Brifysgol am arwain ymchwil ym meysydd llywodraethu a gwleidyddiaeth Cymru.

Mae Labordy Mellt Morgan Botti wedi’i enwi ar ôl y cyn-Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad o Gaerdydd i gydnabod ei rôl flaenllaw i gael y cyfleuster yng Nghymru.

Hyd heddiw, dyma’r unig labordy mellt mewn unrhyw brifysgol yn Ewrop, a dim ond dyrnaid o labordai o’r fath sy’n bodoli ar draws y byd.

“Gyda thristwch mawr y clywodd y Brifysgol am farwolaeth cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Roedd Rhodri'n gyfaill da i Brifysgol Caerdydd, ac yn ymwelydd rheolaidd a oedd bob amser yn fodlon cefnogi datblygiad y Brifysgol, ei myfyrwyr a'i staff. Roedd Rhodri'n gefnogol iawn i addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru, ac mae'r ffaith i Labordy Mellt Morgan-Botti Prifysgol Caerdydd gael ei enwi ar ei ôl yn adlewyrchu ei ymdrechion i weithio gyda phartneriaid ym mannau eraill yn Ewrop i ddod â chyfleuster o'r radd flaenaf fel hwn i Gymru. Bydd cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cofio Rhodri am ei ddeallusrwydd a'i agosatrwydd.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Bydd pawb yn gweld eisiau Rhodri, roedd ei ddeallusrwydd a'i allu i ofyn y cwestiwn cywir yn ddigymar."

Yr Athro Karen Holford Professor

“Oherwydd arweinyddiaeth Rhodri Morgan y daeth y Cymry i dderbyn datganoli fel y drefn arferol. Roedd yn gawr ym mhob ystyr y gair. Diolch.”

Yr Athro Richard Wyn Jones Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru

“Dŵr coch croyw, hwyaid ungoes, dyfynnu llwyddiannau athletwyr Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn y 1950au, a deall rôl clymbleidiau a chymodi gwleidyddol i sefydlogi ein democratiaeth ifanc. Dyma’r pethau rydw i’n eu cofio’n bennaf am Rhodri Morgan.”

Yr Athro Laura McAllister Professor of Public Policy

“Mae'n anodd gor-bwysleisio dylanwad a a chyfraniad Rhodri Morgan at ddatblygiad Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain, drwy gryfhau datganoli yng Nghymru yn benodol. Mae cael Rhodri Morgan fel Athro Anrhydeddus yn ein Hysgol Cyfraith a Gwleidyddiaeth ryngddisgyblaethol wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint. Mae'r teyrngedau iddo heddiw wedi cadarnhau mai ef oedd y gwladweinydd pwysicaf yn hanes Cymru fodern. Cydymdeimlwn â'i deulu.”

Yr Athro Russell Sandberg Professor of Law

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.