Ewch i’r prif gynnwys

Biowyddoniaeth Nemesis yn codi £700,000

15 Mai 2017

Petri Dish

Mae cwmni yng nghanolfan Medicentre Prifysgol Caerdydd wedi cael £700,000 o arian sbarduno i ddatblygu therapïau gwrthficrobaidd.

Codwyd yr arian gan Biowyddoniaeth Nemesis drwy Gyllid Cymru, The Rainbow Seed Fund a Dr Mar McCamish.

Mae'r cwmni'n datblygu cynnyrch sydd wedi'i ddylunio i atgyfodi therapïau gwrthficrobaidd (sy’n aneffeithiol oherwydd ymwrthedd i gyffuriau).

Bydd y cwmni'n defnyddio'r elw i ddilysu ei gyfres o dechnolegau Bacterial Cybergenetics©.

"Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau ein rhaglenni vivo, ac yn hyderus y byddant yn dangos potensial clinigol ein technolegau. Bydd hyn yn cyfrannu at reoli argyfwng byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd."

Dr Frank Massam Prif Swyddog Gweithredol, Nemesis Bioscience

Y Medicentre yw cartref Nemesis. Mae’r Medicentre yn ganolfan sy’n meithrin busnesau biotechnoleg a thechnoleg feddygol newydd, ac mae Prifysgol Caerdydd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am gynnal y ganolfan ar y cyd.

Dywedodd Phil Barnes, arweinydd y buddsoddiad o Gyllid Cymru: "Mae Nemesis yn gwmni portffolio cyffrous sydd wedi elwa o arian sbarduno technoleg Cyllid Cymru yn ogystal â’n buddsoddiad o'n prif gronfeydd ar gyfer mentrau technoleg. Mae cael buddsoddiad ar y cyd gan fuddsoddwyr o'r radd flaenaf fel The Rainbow Seed Fund yn dod â phrofiad da o'r sector, a chyfalaf datblygu ychwanegol i'r cwmni."

Ychwanegodd cyfarwyddwr buddsoddi Rainbow, Oliver Sexton: "Mae gan Nemesis dechnoleg flaenllaw. Mae ei llwyfan wedi dangos ei bod yn gallu gwneud gwrthfiotogau yn effeithiol eto mewn arunigion clinigol..."

"Gyda'r arian hwn, gall Nemesis fynd ati nawr i fynd â’r rhaglen yn nes at y clinig a chwyldroi’r ymdrechion brys i drechu ymwrthedd i wrthfiotigau."

Oliver Sexton Rainbow Seed Fund

Mae Nemesis o’r farn mai trwy ddiffodd mecanweithiau ymwrthedd y gellir mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Nid yw gweithredwyr Nemesis yn lladd bacteria yn uniongyrchol. Mae nhw atgyfodi'r rhagdueddiad i wrthfiotigau a thrwy hynny’n dileu bygythiad yr heintiau difrifol ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau’n effeithlon yn y tymor hir.

Cafodd Nemesis Bioscience, a leolir yng Nghaergrawnt a Chaerdydd, ei sefydlu ym mis Mawrth 2014 gan Dr Frank Massam, yr Athro Conrad Lichtenstein a Dr Gi Mikawa.