Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgolion yn cefnogi’r Fargen Ddinesig

20 Ionawr 2017

city region

Mae Is-Gangellorion Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi dod ynghyd i gefnogi Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

Mewn datganiad ar y cyd, fe ddisgrifiodd yr Athro Colin Riordan, yr Athro Cara Aitchison a’r Athro Julie Lydon, y Fargen Ddinesig fel “y cyfle mwyaf cyffrous ac arwyddocaol yn hanes diweddar y rhanbarth i fuddsoddi yn ein heconomi".

Dyma’r datganiad llawn:

Rydym yn ymwybodol y bydd pob awdurdod lleol sy’n rhan o Fargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn pleidleisio cyn bo hir ynghylch rôl eu cynghorau yn y Fargen yn y dyfodol.

Credwn mai Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yw’r cyfle mwyaf cyffrous ac arwyddocaol yn hanes diweddar y rhanbarth i fuddsoddi yn ein heconomi.

Gyda'r posibilrwydd o allu denu £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad a chreu 25,000 o swyddi, gallai’r Fargen Ddinesig ysgogi arloesedd, twf a chynhyrchiant yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Gyda throsiant cyfunol o dros £770 miliwn y flwyddyn, dros 11,500 o staff a bron 72,000 o fyfyrwyr, mae’r tair prifysgol yn sefydliadau pwysig a allai wneud cyfraniad hollbwysig at ddatblygiad economaidd y rhanbarth. Drwy weithio mewn partneriaeth, bydd y prifysgolion yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn cyflwyno bargen ddinesig fydd yn gyrru uchelgais ym myd addysg ochr yn ochr ag arloesedd yn yr economi.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd ac ochr yn ochr â phartneriaid o sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn cyflawni amcanion y Fargen Ddinesig yn llwyddiannus.

Yn gryno, rydym yn barod i:

  • Gael ein harwain gan alw ac ymateb i anghenion busnes ar gyfer arloesedd
  • Ysgogi galw a chyfleoedd newydd ym myd busnes drwy arloesedd a gaiff ei arwain gan ymchwil
  • Datblygu’r gweithlu medrus sydd ei angen i yrru economi Rhanbarth Prifddinas Caerdydd
  • Gweithio gyda’r busnesau sydd eisoes yn y rhanbarth er mwyn gwella cynhyrchiant drwy ymchwil, datblygu ac arloesedd
  • Hyrwyddo Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn rhyngwladol
  • Ceisio denu buddsoddiad i Ranbarth Prifddinas Caerdydd o bob cwr o’r byd

Felly, rydym yn gobeithio’n fawr y caiff y cytundebau priodol eu gwneud i alluogi Cabinet ar y Cyd y Fargen Ddinesig i fod yn weithredol ac i’r gwaith caled o gyflwyno’r Fargen Ddinesig ddechrau o ddifrif.

Yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru

Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Rhannu’r stori hon