Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolorion Santander yn rhannu £15,000

13 Ebrill 2017

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Banco Santander, wedi rhoi ysgoloriaethau er mwyn cynorthwyo pum myfyriwr israddedig i weithio am fis yn Chubut, Yr Ariannin.

Mae’r berthynas gyda Banco Santander yn bwysig i weithgaredd rhyngwladol yr Ysgol. Trwy haelioni’r banc cynigiwyd dwy ysgoloriaeth, gwerth £3,000, yn flynyddol i fyfyrwyr israddedig ymweld â’r Wladfa.

Eleni, oherwydd safon uchel y ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaethau, penderfynodd yr Ysgol gynyddu’r nawdd ariannol er mwyn gwobrwyo pum ymgeisydd.

Y myfyrwyr canlynol a fydd yn rhannu £15,000 er mwyn ariannu’r daith.

  • Swyn Llŷr
  • Elen Davies
  • Esyllt Lewis
  • Osian Wyn Morgan
  • Eirian Jones

Yn ystod eu hamser yn y Wladfa, bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo gwaith Cynllun yr Iaith Gymraeg, sydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia. Hefyd, byddant yn ymgymryd â phrofiad gwaith mewn ysgolion a dosbarthiadau iaith i oedolion, yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau lleol.

Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Dyma gyfle gwych i ymweld â’r Wladfa ac i brofi awyrgylch a threftadaeth unigryw’r ardal. Rwyf yn siŵr y bydd y myfyrwyr yn dychwelyd gyda phersbectif newydd ar y Gymraeg, ei llenyddiaeth, ei diwylliant, a’i hanes.”

Ychwanegodd Dr Jonathan Morris, cydlynydd yr Ysgoloriaethau yn Ysgol y Gymraeg: “Pleser oedd cael cynnig ysgoloriaethau i bum myfyriwr eleni. Roedd eu diddordeb a’u brwdfrydedd yn amlwg i bawb ar y panel a dymunaf bob hwyl iddynt wrth gynllunio ar gyfer y daith.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.