Gwarchod y moroedd gyda chymorth gwyddonwyr dinesig
19 Ebrill 2017
Mae ymchwilwyr o elusen Project Seagrass yn gofyn i’r cyhoedd i'w helpu i ganfod rhagor am ddolydd morwellt tanddwr dirgel.
Mae dolydd morwellt yn hanfodol i fyd natur. Er gwaethaf eu pwysigrwydd cydnabyddedig, mae ymchwil gan elusen a ffurfiwyd gan wyddonwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd a Grŵp Ymchwil Ecosystem Morwellt ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos bod dolydd morwellt mewn cyflwr enbydus ledled y DU.
Warchod, monitro a dysgu
Erbyn hyn, drwy ap newydd o’r enw SeagrassSpotter, gall y cyhoedd warchod, monitro a dysgu er mwyn i wyddonwyr gael gwybod rhagor am ddolydd morwellt ledled y byd.
“Mae'r ap yn cynnig cyfle i selogion y cefnforoedd ledled y byd fod yn wyddonwyr dinesig sy'n cyfrannu at warchod y moroedd drwy ddefnyddio ffonau symudol” meddai Benjamin Jones, cyd-sylfaenydd Project Seagrass a Chynorthwy-ydd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.
“Mae dolydd morwellt yn cael eu colli ledled y byd ar yr un gyfradd a riffiau cwrel a choedwigoedd glaw, ond ychydig iawn o sylw maen nhw’n eu cael” ychwanegodd Ben.
Mae difrod ffisegol uniongyrchol ymhlith y bygythiadau sylweddol. Mae hyn yn cynnwys gwaddodi cynyddol a dŵr o ansawdd gwael, yn ogystal â bygythiadau gan orbysgota anghynaliadwy. Mae diffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd o fodolaeth a gwerth dolydd morwellt yn ychwanegu at y broblem hefyd.
‘Garbon Glas’
Dim ond pan mae’r llanw yn isel y gellir eu gweld, ond mae’r gerddi hyn yn cynnig cartref i fywyd morol pwysig gan gynnwys pysgod megis penfras, lleden a’r morfarch carismatig. Maent hefyd yn bwysig am eu bod yn amsugno ac yn cadw llawer o ‘Garbon Glas’ sy’n diddymu yn ein moroedd.
Mae ap Seagrass Spotter yn ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n astudio morwellt fel bod cannoedd, os nad miloedd, o ‘wyddonwyr dinesig’ yn eu hastudio yn hytrach na dyrnaid o wyddonwyr yn unig.
Yn rhan o'r ymdrechion i adeiladu rhwydwaith monitro cynaliadwy, mae'r tîm yn gobeithio creu darlun mwy cynhwysfawr o ddolydd morwellt ledled y byd. Bydd hyn hefyd yn ysbrydoli ymchwil wyddonol newydd a chamau gwarchod ymarferol fydd yn gallu helpu i ddiogelu cynefinoedd cefnforol fel dolydd morwellt.