Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio i greu dyfodol gwell

13 Ebrill 2017

Cardiff University students at the Enactus Expo in London
Cardiff University students at the Enactus Expo in London

Mae israddedigion mentrus a ffoaduriaid sy’n astudio’n rhan-amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn dathlu ar ôl i fenter sy’n helpu ffoaduriaid i integreiddio i fywyd yng Nghymru ennill lle yn rownd derfynol cystadleuaeth ledled y DU.

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n astudio yn Uned Addysg Barhaus a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag israddedigion o Ysgol Busnes Caerdydd. Eu nod yw cynnig cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd eisoes wedi ennill graddau a phrofiad gwaith yn eu gwledydd genedigol i wella eu rhagolygon drwy ddatblygu syniadau mentrau cymdeithasol.

Cymerodd israddedigion yr Ysgol Busnes ran yn y fenter gyda chefnogaeth Enactus UK, sefydliad byd-eang sy’n helpu myfyrwyr i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol yn ogystal â datblygu sgiliau i fod yn arweinwyr busnes sydd â chyfrifoldeb cymdeithasol.

‘Llwybr i Broffesiwn’

I’r ffoaduriaid hyn, bydd y profiad ychwanegol a roddwyd iddynt yn eu helpu i ddod o hyd i waith ac ymgartrefu yn eu bywydau newydd yng Nghymru. A hwythau wedi cofrestru ar gwrs ‘Llwybr i Broffesiwn’ mewn partneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, mae gan rai o’r ffoaduriaid y cyfle nawr i symud ymlaen i astudio ar gyfer MSc mewn Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cafodd llwyddiant y bartneriaeth ei arddangos yn Arddangosfa Genedlaethol Enactus UK yn Llundain ddoe ar 11 Ebrill. Roedd yr achlysur yn gyfle i ddod â busnesau, myfyrwyr ac ymchwilwyr ynghyd i arddangos sut y gall entrepreneuriaeth, cydweithredu ac arloesedd a rennir drawsnewid bywydau a chreu dyfodol disglair.

Meddai’r Athro Tim Edwards, Ysgol Busnes Caerdydd, a Chyd-gynullydd Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol y Brifysgol: “Mae mentrau fel hyn yn dangos sut mae entrepreneuriaeth a syniadau arloesol yn gallu gwneud gwahaniaeth…”

“Mae’r ffoaduriaid sy’n astudio gyda ni ac sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn wedi magu hyder drwy gydol y broses i wella eu sefyllfa. Ar yr un pryd, mae’r israddedigion wedi gweld pa mor bwysig mae mentrau cymdeithasol yn gallu bod wrth helpu unigolion a chymunedau i oresgyn rhwystrau.”

Yr Athro Tim Edwards Pro-Dean for Research, Impact and Innovation
Professor of Organisation and Innovation Analysis

“Mae’n braf gweld y prosiect yn cael cydnabyddiaeth gan gynnig gobaith i’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y dyfodol.”

Wrth drafod llwyddiant y prosiect, meddai Iona Hannagan-Lewis, Swyddog Addysg Cyngor Ffoaduriaid Cymru:“Un o’r problemau mwyaf mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu hwynebu yng Nghymru yw diffyg cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Cylch cythreulig yw hwn - heb waith, mae pobl yn dioddef o ddiffyg cymhelliant, iselder, ac yn gallu teimlo’n ynysedig yn gymdeithasol. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu eu bod hyn yn oed yn llai tebygol o gael gwaith. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae cydweithio yn gallu pontio rhwng cymunedau, gan gydnabod a galluogi’r cyfraniad cadarnhaol y gall ffoaduriaid ei gynnig i Gymru.”

Meddai Mogdad Abdeen, ffoadur o’r Swdan a ddaeth i Gymru yn 2015:“Mae cymryd rhan yn y rhaglen gyda myfyrwyr Enactus wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder. Mae wedi bod yn wych creu rhwydwaith o bobl o’r un meddylfryd, a gweithio’n rhan o dîm. O ganlyniad, rwyf bellach yn gobeithio astudio ar gyfer gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ar ôl hynny, rwy’n gobeithio sefydlu fy musnes fy hun.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.