Ewch i’r prif gynnwys

Cymuned newydd i newyddiadurwyr hyperleol

6 Ebrill 2017

Illustration of People conversing with speech bubbles

Mae cymunedau a newyddiadurwyr lleol yn elwa o lansiad platfform newydd cyffrous i rannu gwybodaeth, awgrymiadau a syniadau.

Mae’r Ganolfan Newyddiaduraeth Leol (C4CJ), sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, wedi creu fforwm ar-lein ar gyfer newyddiadurwyr cymunedol a hyperleol a gafodd ei lansio wythnos yma.

Mae’r fforwm yn cael ei lansio mewn ymateb i alw gan y sector am le agored ar-lein i wyntyllu a thrafod syniadau, gwybodaeth ac arloesed.

Mae’r prosiect hwn sy’n torri tir newydd hefyd yn cynnwys lle preifat lle gall defnyddwyr drafod gwybodaeth sensitif, e.e. cyfraddau hysbysebu a chostau argraffu.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan, Emma Meese: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn lansio’r fforwm ar ein gwefan.

“Mae’r sector yn bair o sgiliau a gwybodaeth, o ddechreuwyr addawol newydd i fusnesau llwyddiannus sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn oddi tanynt. Ond peth anodd yw estyn allan a chyfarfod wyneb yn wyneb. Nid oes fersiwn hyperleol o Fleet Street na’r Press Club; a does dim un neuadd bentref yn ddigon mawr i ddal y 400 a mwy o newyddiadurwyr hyperleol yn y DU…”

“Rydyn ni’n credu y bydd y fforwm yn helpu i feithrin lle i arloesi, a lle i berthnasau – na fyddent fel arall yn bosibl – dyfu a ffynnu.”

Emma Meese Media & Training Development Manager

Mae'r fforwm, sydd ar gael yma hefyd ar gael trwy wefan y Ganolfan Newyddiaduriaeth Gymunedol

Bydd y fforwm ar gael ar wefan C4CJ a bydd modd i ymwelwyr y safle gofrestru fel newyddiadurwr hyperleol, neu fel unigolion sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Mae’r fforwm wedi’i ddatblygu gan Dan Davies o Gecko Digital Media a leolir yng Nghaerdydd.

Yn ddiweddar cyhoeddodd C4CJ gynlluniau i sefydlu rhwydwaith cynrychiolwyr ar gyfer cyhoeddwyr hyperleol. Cam cyntaf yw’r fforwm o blith llu o nodau y mae’r rhwydwaith yn bwriadu’u gwireddu.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..