Ewch i’r prif gynnwys

Archifau teuluol

15 Rhagfyr 2014

Family Archive

Mae gan lawer o deuluoedd ryw fath o 'archif teuluol'; dogfennau, lluniau, trysorau teuluol, llyfrau lloffion, ryseitiau a nifer fawr o eitemau amrywiol eraill sy'n rhoi cipolwg ar genedlaethau'r gorffennol a chadw straeon teuluol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nawr, bydd prosiect ymchwil, dan arweiniad Dr Vicky Crewe o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn archwilio sut mae'r archifau hyn yn helpu i ffurfio ymdeimlad o hunaniaeth deuluol.

Mae'r Prosiect Archifau Teuluol yn canolbwyntio ar gymharu'r ffyrdd y mae teuluoedd modern yn casglu a chadw eiddo a drysorir, gydag arferion tebyg yn y gorffennol, gan ddefnyddio astudiaeth achos sy'n amrywio o feddrodau teuluol Rhufeinig, i gadwraeth hanesion teuluol yng nghanol yr 20fed ganrif ym Mhrydain.  

Mae'r prosiect yn ymchwilio i sut mae'r uned deuluol yn gwneud defnydd ymwybodol o eiddo wedi'u curadu - gan gynnwys dogfennau, delweddau, gwrthrychau a deunyddiau eraill - i ddatblygu hunaniaeth deuluol yn seiliedig ar genedlaethau'r gorffennol a phresennol, a sut caiff hyn ei throsglwyddo i aelodau'r teulu yn y dyfodol.

Nod y tîm ymchwil yw ateb cwestiynau fel: pa straeon ac atgofion sydd gan aelodau hŷn y teulu i'w rhoi i genedlaethau'r dyfodol trwy eiddo teuluol? Sut mae hyn wedi newid dros amser? Sut mae'n cael effaith ar hunaniaeth gyfunol teulu? A sut mae teuluoedd yn cysylltu eu hanesion a'u hatgofion eu hunain â digwyddiadau hanesyddol cenedlaethol a rhyngwladol ehangach?

Dywedodd Dr Crewe: "Mae poblogrwydd hanes teuluol wedi tyfu llawer iawn yn y degawdau diwethaf, ond mae'n codi cwestiynau ynghylch pwy rydym ni'n ei ddosbarthu fel 'hanesydd' neu 'guradur'. Yn y Prosiect Archifau Teuluol, rydym yn archwilio'r syniad y gall aelodau o'r cyhoedd fod yn hanesydd ac yn guradur, a mwy. Rydym ni eisiau darganfod pa fathau o drysorau teuluol y mae teuluoedd modern yn eu cadw a pham, ond mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn sut yr oedd teuluoedd yn y gorffennol yn gwneud hyn. Mae tîm y prosiect yn cynnwys archaeolegydd, hanesydd,  clasurydd ac arbenigwr mewn astudiaethau amgueddfa, sy'n golygu y gallwn ni archwilio'r pwnc hwn o nifer o safbwyntiau gwahanol."

Mae'r Prosiect Archifau Teuluol yn un o ddeg a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau o dan ei thema Gofalu am y Dyfodol: Meddwl tua'r Dyfodol trwy'r Gorffennol (Care for the Future: Thinking Forward through the Past), sy'n benodol ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Mae Dr Crewe yn gyd-ymchwilydd ar un o'r prosiectau newydd eraill hefyd, sy'n archwilio sut mae plant wedi cael eu defnyddio i gynrychioli dyfodol penodol, ac i ba effaith, yn hanes modern Prydain a Ffrainc.

Rhannu’r stori hon