Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Hyfforddeion BEST

13 Mawrth 2017

Cardiff trainee doctors and dentists receiving awards

Nos Fawrth yn Neuadd Aberdâr Prifysgol Caerdydd, cafodd meddygon a deintyddion dan hyfforddiant Cymru eu hanrhydeddu gan Ddeoniaeth Cymru. Menter yw Gwobrau Hyfforddeion BEST a ddatblygwyd gan Ddeoniaeth Cymru fel cyfle i staff y GIG ddweud 'diolch' i'r hyfforddeion hynny sy'n mynd yr ail filltir.

Mae'r gwobrau yn cefnogi ac yn atgyfnerthu strategaeth Deoniaeth Cymru i recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru. Cafodd yr enwebeion llwyddiannus eu gwobrwyo i gydnabod eu cyfraniad a'u gwaith gwreiddiol ac arloesol yn y gwasanaethau clinigol yn ystod eu cyfnod hyfforddi.

Agorwyd y seremoni wobrwyo ag araith gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Roedd yn bleser ganddo fod yn y seremoni wobrwyo, sef y cyntaf o'i math yng Nghymru.

Enillodd 8 o'r hyfforddeion y gwobrau canlynol ar y noson:

  • Cyfraniad Rhagorol at y Rhaglen Hyfforddi – Dr Rachel Lee
  • Cyfraniad Rhagorol y tu allan i'r Rhaglen Hyfforddi (e.e. Elusen) – Dr Kathryn Speedy
  • Cyfraniad Rhagorol at godi Proffil eu Harbenigedd yng Nghymru – Claire Curtin
  • Cyfraniad Rhagorol at Arweinyddiaeth – Dr Sarah Fitch
  • Prosiect Ymchwil – Dr Mat Hoskins & Dr Rhys Clement
  • Addysg Feddygol – Dr Huw Williams
  • Prosiect Gwella Ansawdd – Dr Rachel Hayward

Hangerdd a'i brwdfrydedd

Enillodd y Deintydd dan Hyfforddiant, Claire Curtin, hefyd wobr Hyfforddai Gorau 2016. Dewiswyd Claire ar gyfer y wobr hon oherwydd ei hangerdd a'i brwdfrydedd hi wrth iddi hyrwyddo ei harbenigedd, sy'n faes newydd a chymhleth, yn ogystal â'i hymrwymiad i'w swydd. Mae Claire yn ei 6 mis olaf o'i hyfforddiant ac mae'n arbenigo mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig.

Dywedodd y Deon Ôl-Raddedig, yr Athro Peter Donnelly: “Roedd Gwobrau Hyfforddai cyntaf BEST 2016 yn gyfle i ddathlu cyfraniad rhagorol meddygon a deintyddion dan hyfforddiant at GIG Cymru a'r gymuned ehangach... ”

“Mae'r gwobrau ym mhob categori yn cydnabod rhagoriaeth mewn meysydd penodol. Roedd pawb a oedd yno yn llawn edmygedd o ymrwymiad ac arloesedd pob un a enwebwyd.”

Yr Athro Peter Donnelly Deon Ôl-Raddedig

Dywedodd Claire Curtin: “Mae Gwobrau Hyfforddeion BEST yn gyfle gwych i ddangos holl waith caled, arloesedd a brwdfrydedd meddygon a deintyddion dan hyfforddiant yng Nghymru. Pleser a braint llwyr yw ennill y gwobrau hyn a chael cyfle i hybu Deintyddiaeth Gofal Arbennig yng Nghymru.”

Roedd y seremoni wobrwyo yn gyfle perffaith i wobrwyo grŵp talentog iawn o feddygon a deintyddion dan hyfforddiant am eu llwyddiannau a'u cyfraniadau at bob math o arbenigeddau.

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â’n cymuned ôl-raddedig i weithio ar ymchwil sy’n cynorthwyo gwell gofal iechyd.