Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp arbenigol newydd ar berthynasau iach i gynghori ar y cwricwlwm

21 Chwefror 2017

Emma Renold at Agenda Launch

Academydd o Brifysgol Caerdydd fydd cadeirydd grŵp arbenigol newydd a fydd yn cynghori ar berthynasau iach yn y cwricwlwm ysgol cyfredol yng Nghymru.

Sefydlwyd y panel gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, a bydd yn cynnig cyngor a chymorth ar faterion yn ymwneud â chyflwyno addysg ar berthynasau iach yn y cwricwlwm.

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o feysydd fel gwella dealltwriaeth o faterion lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, parch a chydsyniad, rhywiaeth a bwlio.

Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol fydd yn cadeirio'r panel.

Yn dull addysg gyfan

Yr Athro Renold yw awdur Children, Sexuality and Sexualisation, ac fe'i cydnabyddir yn rhyngwladol am ei gwaith ar rywedd a rhywioldeb yn ystod plentyndod ac ieuenctid ar draws amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys: bwlio, trais, 'rhywioli', diwylliant perthynas a hunaniaethau.

Mae wedi hyrwyddo dull addysg gyfan wrth ymdrin ag addysg rhyw a pherthynas sy'n cynnwys pob rhywedd a rhywioldeb, ac sydd wedi'i wreiddio mewn fframwaith sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau.

Yn ddiweddar arweiniodd yr Athro Renold y gwaith o gynhyrchu pecyn cymorth ar-lein cyntaf Cymru - a'r DU - i gynorthwyo pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd a thrais rhywiol mewn ysgolion a chymunedau lleol.

Mae AGENDA: Canllaw pobl ifanc ar wneud i berthynasau cadarnhaol gyfrif, yn cynnwys 11 o astudiaethau achos ar nifer o faterion, gan gynnwys rhwyiaeth, aflonyddu rhywiol, perthynas LGBT+ ac FGM (anffurfio organau cenhedlu benywod).

Mae adnoddau AGENDA yn grymuso pobl ifanc i godi llais yn ddiogel ac yn greadigol a herio anghydraddoldebau rhywedd dwfn a thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol.

Mae hi hefyd wedi bod ar flaen yr ymgyrch i sicrhau newidiadau i bolisi, gyda'i gwaith yn cael effaith ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru.

'Chydnabod yn rhyngwladol'

Dywedodd Kirsty Williams: "Mae darparu dysgu o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yn ymwneud â pherthynasau iach yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion pwysig ac rwyf i am gael y cyngor arbenigol gorau i'n helpu i gyflawni hyn.

"Rwyf i wrth fy modd fod ffigur mor brofiadol â'r Athro Emma Renold wedi cytuno i gadeirio'r grŵp gan ei bod yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'r rôl newydd hon...”

"Caiff ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith ar rywedd a rhywioldeb mewn plentyndod ac ieuenctid ar draws amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys bwlio, trais a rhywioli ac rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda hi."

Kirsty Williams AC Ysgrifennydd Addysg

Ychwanegodd yr Athro Renold: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael helpu i gyflwyno addysg rhyw a pherthynas yn effeithiol yng nghwricwlwm Cymru...”

"Mae cadeirio'r panel hwn yn gyfle anghredadwy i dynnu ar dystiolaeth ymchwil, a chydweithio gydag arbenigwyr, gan gynnwys pobl ifanc, i ganfod yr adnoddau a'r arferion mwyaf effeithiol i fynd i'r afael â llesiant rhywedd a rhywiol plant a phobl ifanc, a’i wella."

Yr Athro EJ Renold Athro Astudiaethau Plentyndod

Rhannu’r stori hon

Find out more about the programme, information about funding, research themes and how to apply.