Gallai'r term 'Ynni Prydain Fawr' danio angerdd ceidwadwyr dros weithredu ar newid yn yr hinsawdd
14 Chwefror 2017
Gallai defnyddio iaith fel 'Ynni Prydain Fawr' fod yn offeryn gwerthfawr i bobl sy'n cyfathrebu am newid yn yr hinsawdd i ysbrydoli ac ennyn pobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd a Climate Outreach hefyd yn dangos bod iaith sy'n ymwneud â thechnolegau ynni carbon isel Prydeinig a'r syniad o osgoi gwastraff yn atseinio'n gryf gyda phobl sydd â barn asgell dde-ganol.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys dros 2,000 o bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol, a chanfu naratifau oedd yn taro tant gyda phawb, yn enwedig y rheini â gwerthoedd i'r dde o'r canol:
- Cefnogaeth wladgarol i dechnolegau ynni isel ffyniannus y DU.
- Ffocws ar osgoi gwastraff fel rhan hanfodol o arbed ynni.
Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Dyma'r astudiaeth gyntaf i edrych ar sut mae gwahanol ffyrdd o siarad am newid hinsawdd yn gallu denu gwahanol grwpiau o bleidleiswyr yn y DU..."
Yn ôl Dr Adam Corner, Cyfarwyddwr Ymchwil Climate Outreach: "Ar adeg pan fo polareiddio a rhaniadau gwleidyddol ar gynnydd, mae newid yn yr hinsawdd yn dal i gael ei weld fel 'mater asgell chwith'. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd adeiladu cefnogaeth ar gyfer newid yn yr hinsawdd ymhlith pobl sy'n wleidyddol geidwadol."
Dywed yr Athro Corinne Le Quéré FRS, Cyfarwyddwr Canolfan Newid Hinsawdd Tyndall ac Athro Gwyddoniaeth a Pholisi Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol East Anglia am yr ymchwil: "Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bawb. Mae'n hanfodol fod y risgiau a'r cyfleoedd yn cael eu deall gan bawb yn ein cymdeithas, er mwyn gallu sefydlu ymatebion effeithiol..."
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn dwy ran. Deilliodd y naratifau newid hinsawdd sy’n canolbwyntio ar 'Ynni Prydain Fawr' ac 'osgoi gwastraff' o gyfres o grwpiau trafod dwys gydag unigolion asgell dde-ganol ledled y DU, ynghyd â gwaith ymchwil blaenorol gan Climate Outreach. Yna, cynhaliwyd arolwg ar raddfa fawr o dros 2,000 o bobl yn cymharu'r naratifau asgell dde hyn gyda naratif amgylcheddol mwy nodweddiadol gan ganolbwyntio ar y cysyniad o 'gyfiawnder hinsawdd'.
Denodd y naratifau asgell dde-ganol gefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac yn bwysicach, roedden nhw’n lleihau amheuaeth ymhlith cyfranogwyr asgell dde-ganol yn sylweddol. Yn y cyfamser roedd y naratif 'cyfiawnder hinsawdd' yn polareiddio cynulleidfaoedd ar hyd llinellau gwleidyddol gyda chymeradwyaeth gan y rheini ar y chwith yn unig.
"Y naratif asgell chwith ynghylch newid hinsawdd yw'r un sy'n arwain y drafodaeth fyd-eang am newid yn yr hinsawdd, felly efallai nad yw hi’n syndod fod ceidwadwyr yn ymddieithrio," ychwanega Adam Corner.
"Po gyflymaf y gall cyfathrebwyr gysylltu â'r hyn mae pobl yn poeni amdano mewn gwirionedd, y mwyaf buan y gallwn ni fynd â'r mater hwn allan o'r labordy ymchwil ac i mewn i'n sgyrsiau bob dydd."
‘Tools for a new climate conversation: A mixed-methods study of language for public engagement across the political spectrum’ is published in Global Environmental Change.