Ewch i’r prif gynnwys

Diwallu anghenion ynni'r dyfodol

21 Mawrth 2016

 FLEXIS

Bydd prosiect newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn denu busnes, yn creu swyddi ac yn rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes cyflenwi, trosglwyddo a defnyddio ynni

Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain prosiect gwerth £24m sy'n ceisio ddatblygu ffyrdd mwy deallus o reoli systemau ynni yn y dyfodol.

Bydd prosiect FLEXIS, yn dod ag arbenigedd o'r radd flaenaf o brifysgolion Cymru ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu cymdeithas, megis y newid yn yr hinsawdd, cynnydd mewn prisiau ynni a thlodi tanwydd.

Cefnogir y prosiect pum mlynedd gan yr Undeb Ewropeaidd ac fe'i cyhoeddwyd heddiw gan Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yn ystod ymweliad â'r Brifysgol.

Nod prosiect FLEXIS, sydd hefyd yn cynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, fydd mynd i'r afael â'r heriau amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol fydd yn codi pan fydd cyflenwyr yn integreiddio ffynonellau newydd o ynni yn y grid.

Mae'r heriau'n amrywio ac yn cynnwys: ymdopi â chyflenwadau pŵer sy'n dod o sawl lle amrywiol, yn ôl pob golwg; cadw ynni pan nad oes ei angen; ymdopi â llifoedd eithafol sy'n mynd i mewn i'r system; ymdopi ag isadeiledd sy'n gwaethygu; a gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau hyn mewn ffordd fforddiadwy ac sy'n dderbyniol yn gymdeithasol.

Fel rhan o'r prosiect, bydd safle arddangos yn cael ei sefydlu i arbrofi syniadau newydd ac i ddangos atebion technoleg ac ynni newydd yn cael eu datblygu.

Bydd ymchwilwyr blaenllaw o'r DU ac Ewrop yn cael eu recriwtio i brifysgolion Cymru fel rhan o'r prosiect, gan helpu i gryfhau sefyllfa Cymru fel arweinydd ymchwil ac arloesedd yn y diwydiant ynni.

Nod y prosiect yw paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu technolegau newydd a chreu swyddi yn y sector ynni. Bydd hefyd yn ceisio denu cwmnïau newydd i sefydlu eu hunain yng Nghymru.

Erbyn 2020, disgwylir i Gymru gael dros £20m o incwm ymchwil o ganlyniad i'r prosiect.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Bydd prosiect FLEXIS yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau cymdeithasol mawr sy'n ein hwynebu heddiw gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, tlodi tanwydd a phrisiau ynni cynyddol.

"Drwy ddod ag arbenigedd ynghyd o Brifysgol Caerdydd a gweddill de Cymru, bydd FLEXIS yn galluogi Cymru i ennill ei phlwyf fel arloesydd ym maes systemau ynni a chynnig manteision o bwys i'r genedl yn gyffredinol. Bydd yn denu busnesau newydd, yn creu swyddi ac yn hyfforddi peirianwyr ymchwil y dyfodol.

"Mae'r arian sylweddol hwn gan yr UE yn enghraifft arall o sut mae cymorth ariannol gan Ewrop yn helpu i yrru'r ymchwil sylfaenol sy'n cael ei chynnal yma yng Nghymru."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt: "Bydd Cymru yn elwa ar tua £1.8 biliwn o Gronfeydd Strwythurol yr UE erbyn 2020 i gefnogi busnesau, arloesi, seilwaith, sgiliau, cyflogaeth a phobl ifanc.

"Mae hyn yn fuddsoddiad hanfodol i'n heconomi a'n marchnad lafur, ac mae'n ffynhonnell gyllid hollbwysig ar gyfer ysgogi ymchwil arloesol a masnacheiddio'r ymchwil honno, gan greu swyddi a thwf cynaliadwy.

"Mae'n newyddion gwych y bydd y buddsoddiad hwn sydd werth £15 miliwn gan yr UE yn cefnogi potensial arloesol o'r fath yn y sector ynni pwysig hwn i Gymru."

Rhannu’r stori hon